Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

These 8 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on /big/wal/ChurchHistory/Indchapels#Glamorgan

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

 

SPLOTLANDS, ROATH, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 433)

Achos Saesonig yw hwn hefyd. Dechreuwyd ef trwy gydweithrediad gweinidogion ac eglwysi Ebenezer, Charles- street, a Hannah-street. Teimlid er's blynyddau fod angen am achos crefyddol yma gan fod yr ardal yn boblog iawn ac ar gynydd yn barhaus. Sefydlwyd yma Ysgol Sabbothol fel cangen o ysgol Charles-street, yn yr ysgoldy Brutanaidd yn Comet-street, rai blynyddau yn ol, dan arolygiad Mr. Thomas Evans, un o ddiaconiaid Charles-street. Trwy ei lafur a'i ffyddlondeb ef, ac eraill a gydweithredent ag ef, aeth yr ysgoldy gydag amser yn rhy fychan i gynwys yr Ysgol Sabbothol. Er cynllunio a darparu effeithiolach moddion addysg a chyfleusderau crefyddol i'r ardalwyr, cyfarfyddodd amryw gyfeillion yn yr ysgoldy ar yr ail ddydd o Fai, 1870, pryd y nodwyd y personau canlynol i fod yn bwyllgor adeiladu: - sef Meistri J. Waite, B. A., Charles-street; J. M. Evans, Ebenezer; J. Davies, Hannah-street; Thomas Evans, R. Meyrick, Rees Enoch, John Price, Andrew Fulton, Thomas Wibber. J. E. Billups, ac eraill. Cymerwyd tir yn uniongyrchol ar ystad Arglwydd Tredegar at adeiladu. Ar y 27ain o Fedi, 1870, gosodwyd y garreg sylfaen i lawr gan y diweddar H. O. Wills, Ysw., Bristol. Anerchwyd y gynnulleidfa ar yr achlysur gan wahanol weinidogion y dref. Adeiladwyd yma gapel hardd a chyfleus, yn cynwys tua phum' cant o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth oedd 1,740p. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Ebrill 28ain, 1871, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Baldwin Brown, B.A., Llundain; J. Waite, B. A., J. Davies, a W. Watkiss, Caerdydd, a'r Proffeswyr Morris, Aberhonddu, a Hartland, Bristol. Llwyddodd y pwyllgor i gasglu chwe' chant o bunau at draul yr adeiladaeth erbyn dydd yr agoriad. Ar y 24ain o Awst, 1871, ffurfiwyd yma eglwys, pryd yr ymunodd dau-ar-bymtheg o aelodau yr eglwysi cymydogaethol yn eglwys Annibynol yn y Ile newydd hwn. Yn mis Tachwedd, yn yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. D. L. Jenkins, Trefgarn, a'r hon y cydsyniodd, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth yma er yr ail Sabboth o Ionawr, 1872. Ar y seithfed-ar-hugain o Fawrth, cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad, pryd y gweinyddwyd gan weinidogion yr eglwysi Annibynol yn Nghaerdydd, a Mr. H. Oliver, B.A., Casnewydd. Erbyn hyn y mae nifer yr Ysgol Sabbothol wedi dyblu, yr aelodau a'r gwrandawyr yn lluosogi yn gyflym, a golwg ryfeddol o obeithiol ar yr achos.

Mae yr enwad Annibynol yn nhref Caerdydd, a'i Maesdrefi, yn y saith mlynedd diweddaf, wedi gosod allan agos dair-mil-ar-ddeg o bunau ar gapeli ac ysgoldai, yn y drefn ganlynol : - helaethiad Mount-stuart, 650p.; adgyweiriad Ebenezer, 900p.; adeiladu Hannah-street, 4,150p; prynu y Music-hall, yn Wood-street, a'i droi yn addoldy, 3000p.; capel Canton, 1,500p.; capel Roath, 1,740p., ac ysgoldai Charles-street, 1,100p. Os yw sel ac ysbrydolrwydd yr eglwysi hyn yn gyfatebol i'w gweithgarwch a'u haelioni gyda phethau allanol crefydd, ac yr ydym yn credu ei fod, mae llwyddiant dirfawr yn sicr o ddilyn eu hymdrechion, a miloedd o eneidiau i gael eu hennill at y Gwaredwr yn y lleoedd hyn.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

 This is also an English cause. It started through co-operation between ministers and the churches of Ebenezer, Charles St and  Hannah St. It had been felt for years that there was a need for a religious cause here as the area was very populous and consistently increasing. A Sunday school was established here some years back as a branch of Charles St school, in the British School in Comet St, under the supervision of Mr Thomas Evans, one of the deacons at Charles St. Through his labours and loyalty, and others who worked with him, the school became in time too small to hold the Sunday school. Although laid out to effectively provide matters educational and religious  to the local residents, some friends met in the school house on the second day of May 1870, when the following persons were recorded as a building committee; - namely Messrs J. Waite, B. A., Charles-street; J. M. Evans, Ebenezer; J. Davies, Hannah-street; Thomas Evans, R. Meyrick, Rees Enoch, John Price, Andrew Fulton, Thomas Wibber. J. E. Billups, and others. They immediately took some building land on the estate of Lord Tredegar. On the 27th of Sept 1870, the late H O Wills Esq, Bristol,  laid the foundation stone. Various ministers of the town addressed the congregation on the occasion. They built here a beautiful and convenient chapel, to hold almost 500 seats. The building cost £1740. The opening meeting was on 28th April 1871, those officiating were Messrs J. Baldwin Brown, B.A., London; J. Waite, B. A., J. Davies, and W. Watkiss, Cardiff, and the Professors Morris, Brecon, and Hartland, Bristol. The committee succeeded in collecting £600 towards the cost of the building by the opening day. On 24th August 1871, they formed a church here, when 17 members of neighbouring churches joined the new Independent chapel in this place. In November, in the same year, they gave an unanimous call to Mr D L Jenkins, Trefgarn, which he accepted, and he began his ministry here on the second Sunday in January 1872.  On the 27th of March was held his installation ceremony, when the ministers of the Independent churches in Cardiff officiated, with Mr H Oliver, B.A, Newport. By this time the numbers  in the Sunday school have doubled, and the members and listeners increasing quickly, and the cause has a wonderfully hopeful outlook.

The Independent connection in the town of Cardiff, and its suburbs, in the last 7 years, has laid out almost £13,000 on chapels and school houses, as follows; - enlarging Mount - stuart, £650;  repairing Ebenezer £900; building Hannah St £4150; buying the Music hall in Wood St, to turn into a school house, £3000; Canton chapel £1500; Roath chapel £1740; and schoolhouses in Charles St £1100. If the ardour and enthusiasm of these churches is proportionate to their activity and generosity with matters outside religion, and we think they are, then great success is sure to follow, and thousands of souls will be gained for the Redeemer in these places.

 

MOUNT-STUART, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 428)

Yr oedd amryw gyfeillion er's blynyddau yn teimlo fod angen capel Cymraeg yn rhywle yn agos i'r Docks, ond oblegid fod dyled yn aros ar Ebenezer oedid myned yn ei gylch. Yn y flwyddyn 1856, ymgymerodd tri o aelodau Ebenezer a'r gorchwyl, sef Meistri T. B. Evans, D. Jones, a T. Davies, a chafwyd darn o dir gan oruchwyliwr Ardalydd Bute, yn Mount-stuart-square, y fan lle y saif y capel presenol. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref, 1857. Mesurai y capel 52 troedfedd wrth 40 troedfedd, ond nid oedd oriel ynddo. Costiodd 1,100p. Agorwyd ef Mai 23ain a'r 24ain, pryd y gweinyddwyd gan Meistri D. Rees, Llanelli, ac H. Jones, Caerfyrddin. Y Sabboth cyn yr agoriad, daeth Mr. Lewis Powell ac eglwys Ebenezer yma, ac wedi i Mr. Powell bregethu, gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Cadwyd y gwasanaeth yn yr ysgoldy o dan y capel. Gollyngwyd 38 o aelodau trwy lythyrau o Ebenezer, ac ar y 30ain o Fai, corpholwyd hwy yn eglwys yn y capel newydd gan Mr. Moses Ellis, Mynyddislwyn. Bu yr ychydig aelodau yma yn ffyddlawn a haelionus, fel yr oedd raid iddynt fod gan fod y baich yn drwm. Cyfranai mwy nag un o honynt bunt y mis, bob mis am flynyddau at y weinidogaeth, a gwnai eraill yn gyffelyb yn ol eu hamgylchiadau. Ymddibynai yr eglwys am y blynyddoedd cyntaf ar weinidogaeth achlysurol, ond sicrheid gwasanaeth y pregethwyr goreu a ellid gael. Ond yn gynar yn y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, Aberaman, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Mehefin. Nid oedd nifer yr aelodau pan sefydlodd Mr. Davies yma ond tua 70, ac yr oedd tua 550p. o ddyled yn aros. Siriolodd yr achos yn fawr wedi dyfodiad Mr. Davies yma, a chynyddodd yr aelodau a'r gwrandawyr. Penderfynwyd codi y capel yn uwch, a rhoddi oriel ynddo, a gwnaed ef yn hardd iawn, a chostiodd y cyfnewidiad 621p., ond talwyd y cwb1 erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, y rhai a gynaliwyd yn Hydref, 1864. Yn nechreu y flwyddyn 1866, meddyliwyd am dalu y 550p. oedd yn aros ar y capel cyn gosod oriel ynddo a'i ad-drefnu, a'r bwriad oedd rhoddi blwyddyn at y gorchwyl, ond trwy gael eu calonogi gan Mr. Samuel Morley ag addewid o 100p., yr hon a roddwyd i Mr. Davies ar ei ymweliad a Llundain, os gwneid y gwaith mewn tri mis, ymroddodd Mr. Davies a'r eglwys ati o ddifrif, a gwnaed y gorchwyl yn yr amser byr hwnw, ac felly cliriwyd yr holl ddyled. Yn haf 1868, trwy gefnogiad Mr. Davies, aeth ychydig nifer o'r aelodau yma i ddechreu achos ar y Morfa, mewn lle a elwir y Grange, ac yn fuan wedi hyny rhoddodd Mr. Davies ofal yr eglwys hon i fyny, gan gymeryd yn gwbl at yr achos Saesonig yn Hannah-street, yr hwn a sefydlasid ganddo. Aeth amryw deuluoedd cyfrifol at y Saeson ar ymadawiad Mr. Davies, yr hyn a effeithiodd i fesur ar yr eglwys. Wedi dybynu dros dymor ar help gweinidogion dyeithr, yn niwedd y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Farr, Croesoswallt, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma y mis Mawrth canlynol. Bu Mr. Farr yma yn dderbyniol a chymeradwy hyd ddechreu yr haf hwn, (1872), ond y mae yn awr wedi derbyn galwad o'r Tabernacle, Aberdar, ac y mae ar symud yno. Anaml y ceir eglwys o'i nifer wedi casglu yn gyffelyb i'r hyn a gasglodd yr eglwys hon o'i sefydliad. O ddechreu 1858 hyd 1872, casglodd at bob achos 4,491p. 7s. 7c., ac ni bu ei rhifedi ar unrhyw adeg yn ei hanes uwchlaw 130. Heblaw y rhai a grybwyllwyd yn nglyn a chychwyniad yr achos, bu Cadben J. Rowlands o wasanaeth mawr fel diacon ac ysgrifenydd yr eglwys, ac y mae gwasanaeth J. Morgan fel diacon a blaenor y gan yn haeddu ei goffau. Er fod agos yr holl rai a fu a'r llaw flaenaf yn ei gychwyniad, ac a fu yn brif gefnogwyr iddo wedi symud i leoedd eraill, y mae yr achos yn parhau i ddal ei dir, a hwyrach fod cystal gobaith o'i flaen am y dyfodol ag a fu mewn un cyfnod blaenorol yn ei hanes. Nis gellir disgwyl yma gynnulleidfa fawr, oblegid y mae yr iaith Seisnig wedi dyfod yn genllif dros y dref, ac yn yr iaith hono y gellir disgwyl gwneyd y daioni mwyaf i luaws y boblogaeth.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

Some friends had thought for years that there was a need for a Welsh chapel somewhere near to the Docks, but because there was an outstanding debt on Ebenezer it went no further. In 1856, 3 members of Ebenezer took on the task, namely Messrs T. B. Evans, D. Jones, and T. Davies, obtained a piece of land from Lord Bute's estate manager, in Mount - stuart Square, the spot where the present chapel stands. Building began in Oct 1857. The chapel measured 52ft by 40ft, but with no gallery. It cost £1100. It opened on 23/24th May, officiating were Messrs D. Rees, Llanelli, and H. Jones, Carmarthen. The Sunday before the opening, Mr Lewis Powell and Ebenezer church came here, and after Mr Powell had preached, the ordinance of the Lord's Supper was administered. The service was held in the schoolhouse under the chapel. 38 members were released by letters from Ebenezer, and on the 30th May, the church was formalised in the new chapel by Mr Moses Ellis, Mynyddislwyn. The few members here were faithful and generous, as they had to be as the burden was heavy. More than one of them contributed a pound a month, every month for years, towards the ministry, as did others according to their circumstances. The church relied in the early years on occasional ministers, but obtained the services of the best ministers they could. But early in 1863, they gave a call to Mr John Davies, Aberaman, and he began his ministry here in the June. The number of members when Mr Davies arrived was about 70, and there was about £550 of debt remaining. The cause perked up considerably after Mr Davies came here, and the numbers of members and listeners increased. They decided to raise the chapel higher, and install a gallery, and make it very beautiful, and the alterations cost £621, but they repaid the whole lot by the end of the opening meetings, which were held in Oct 1864. At the start of 1866, they thought of repaying the £550 outstanding on the chapel before putting a gallery in it and altering it, the plan was to allow a year for the job, but through the encouragement of Mr Samuel Morley's pledge of £100, which he gave to Mr Davies on a visit to London, provided they did it within 3 months, Mr Davies and the church devoted themselves to it earnestly, annd finished the task in that short time, and thus cleared the whole debt. In the summer of 1868, with the backing of Mr Davies, a small number of members went off to start a cause on the Morfa, in a place called the Grange, and soon after that Mr Davies gave up the care of this church, to give all to the care of the English  cause in Hannah St, which he founded. A few  families amenable to the English followed him, and this had a measure of effect on the church. Having depended for a while on the assistance of strange ministers, at the end of 1869, they gave a call to Mr Joseph Farr, Croesoswallt, who began his ministry here the following March. Mr Farr was here acceptably and creditably until the start of this summer (1872), but has now received a call from Tabernacle, Aberdare, and is moving there.

 Seldom is seen a church of their numbers which has collected  as much as this church has collected since its formation. From the start of 1858 until 1872, it collected for every purpose £4491.7.7, and its numbers haven't been over 130 at any time in its history. Apart from those mentioned in connection with the foundation of the cause, Cadben J Rowlands was of great service as a deacon and secretary of the church, and the service of J Morgan as a deacon and leader is worthy of recording.  Although nearly all those who took a leading role in the setting up of this cause, and were main supporters of it, have left for pastures new, the cause continues to hold its own, and perhaps there is as much optimism before them for the future as at any previous time in their history. We can't expect a large congregation here, because the English tongue has spread like a torrent across the town, and in that language can be seen to do the greatest good for the majority of the population.

 

CANTON, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 431

 Mae Canton tua milldir i'r gorllewin o dref Caerdydd, ac yn awr yn dref lled fawr ei hun. Yr oedd amryw o aelodau Ebenezer yn cyfaneddu yma ac yn cynal Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol yn y Ile flynyddau cyn ffurfio eglwys yma. Byddai gweinidogion Ebenezer, Mr. A. W. Jarvis, ac eraill, yn pregethu yma yn fynych mewn gwahanol anedd-dai. Yn 1867, ar anogaeth Meistri J. Davies, a J. M. Evans, yr hwn oedd newydd ymsefydlu yn Ebenezer fel gweinidog, cafodd cynifer o aelodau eglwysig ag a gyfaneddent yn y lle hwn, ac a foddlonent ymadael a'r fam-eglwys, eu corpholi yn eglwys Annibynol. Rhoddasant alwad i Mr. T. C. Williams, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 18fed a'r 19eg, 1867. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, un o athrawon yr athrofa yn Aberhonddu; holwyd y gefyniadau gan Mr. J. Griffiths, Llanwrtyd; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Pentyrch; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Caerdydd, ac i'r eglwys gan Mr. J. M. Evans, Caerdydd. Pregethwyd yma hefyd gan Meistri W. Edwards, Aberdar; Gwesyn Davies, Penywern; H. Oliver, B.A., ac eraill. Yn fuan wedi urddiad y gweinidog, Ilwyddwyd i gael tir at adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd ac a agorwyd yn 1868. Mae yn gapel hardd a chyfleus iawn, mewn lle hynod fanteisiol. Costiodd rhwng pob peth bymtheg cant o bunau. Wedi cael y capel yn barod, cyfododd yma anhawsder gyda golwg ar yr iaith yn mha un y buasai yn oreu dwyn y gwasanaeth yn mlaen. Gan fod rhai yn yr eglwys nad oeddynt yn deall y Gymraeg o gwbl nis gallasai gwasanaeth yn yr iaith hono fod o un budd iddynt hwy, a chan nad oedd y Cymry yn foddlon i wasanaeth Saesonig, a bod nifer dirfawr o drigolion y lle yn Saeson, barnodd Mr. Williams a'r rhai a ystyrient fod angen am sefydlu achos Saesonig yn y lle, mai eu dyledswydd oedd cymeryd lle arall yn y gymydogaeth at gynal gwasanaeth Saesonig, ac felly gadawyd y capel i'r Cymry. O'r pryd yr ymadawodd Mr. Williams yn 1870, hyd Mai, 1872, bu yr eglwys Gymreig yn y capel yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn awr y mae Mr. J. W. Morris, Llanharan, wedi derbyn galwad ac wedi dechreu ei weinidogaeth yma.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

Canton is about a mile west of Cardiff town, and is now a fairly large town itself. Several members of Ebenezer lived here and held a Sunday school, prayer meetings, and occasional preaching in the place for years before a church was formed here. The ministers from Ebenezer, Mr A W Jarvis, and others, frequently preached here in different dwelling houses. In 1867, with the encouragement of Messrs J Davies, and J M Evans, who had recently been installed as a minister at Ebenezer, as many church members as lived in the place, and were (foddlonent/willing?) to leave the mother church, came to form an Independent church. They gave a call to Mr T C Williams, from Brecon College, and he was ordained here on 18/19th March 1867. Mr W Roberts, one of the teachers from Brecon College, preached on the nature of a church; questions were asked by Mr J Griffiths, Llanwrtyd; the ordination prayer given by Mr J Jones, Pentyrch; the charge to the minister delivered by Mr J Davies, Cardiff; and to the church by Mr J M Evans, Cardiff.  Preaching also by Messrs W. Edwards, Aberdar; Gwesyn Davies, Penywern; H. Oliver, B.A., and others. Soon after ordaining the minister, they were successful in obtaining some land to build a chapel, this was completed and opened in 1868. It is a very beautiful and convenient chapel, in a notably advantageous place. It cost through everything £1500. After getting the chapel ready, there arose a difficulty with the language as to which one would best to take the service  in. As there were some in the church who didn't understand Welsh at all, a service in that language would be of no use to them, and the Welsh weren't prepared to have the service in English, and a large section of the residents of the place were English, Mr Williams and others who considered that there was a need for an English cause in the place, decided that their duty was to take another place in the neighbourhood to hold English services, and thus left the chapel to the Welsh. From when Mr Williams left in 1870 until May 1872, the Welsh church in the chapel relied on occasional ministers. Now Mr J W Morris, Llanharan, has accepted the call snd has started his ministry here.

 

CANTON, (SAESONIG)<

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 431)

Fel y nodwyd yn yr hanes blaenorol, darfu i Mr. T. C. Williams, a'r rhan o'r eglwys yn Canton oeddynt dros wasanaeth Saesonig, adael y capel i'r Cymry yn 1870, a myned allan i ddechreu achos Saesonig. Rhentiwyd capel perthynol i'r Wesleyaid ac yno y mae y gwasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen hyd yn bresenol. Cafodd yr eglwys ieuange hon yn fuan ar ol ei ffurfiad ei cholledu yn fawr trwy symudiad rhai o'r aelodau mwyaf dylanwadol a defnyddiol i ardaloedd eraill. Colled fawr iddynt oedd symudiad Mr. Thomas Lloyd Davies i Abertawy, ac eraill i fanau eraill. Pa fodd bynag, y mae yr achos yn myned rhag ei flaen, ac yn ennill tir yn raddol er pob anfantais. Ar gychwyniad yr achos penderfynodd y gweinidog a'r eglwys i wneyd eu goreu i gasglu y crwydriaid i dy, a lledaenu dylanwad yr achos trwy ymdrechion i wneyd daioni y tu allan i'r capel yn gystal ag ynddo. Y mae yma Ysgol Sabbothol flodeuog, a llyfrgell ragorol wedi ei hagor mewn cysylltiad a hi er mwyn yr ieuengetyd. Y mae cerddoriaeth gysegredig hefyd yn cael sylw neillduol yma. Y mae aelodau y gynnulleidfa yn rhanu bob wythnos tua phum' cant o draethodau crefyddol o dy i dy yn yr ardal, ac felly mae ugeiniau o deuluoedd nad ydynt yn mynychu unrhyw le o addoliad yn cael cyfle i wybod ffordd iachawdwriaeth. Trwy y moddion hyn y mae rhai o wythnos i wythnos yn cael eu tueddu i ddyfod i wrandaw yr efengyl. Mae yma arwyddion gobeithiol am achos llewyrchus gydag amser, ond bydd raid i'r cyfeillion weithio eu ffordd trwy lawer o anfanteision am dymor.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

As noted in the preceding history, Mr T C Williams, and the section of the church in Canton which wanted an English service, left the church to the Welsh in 1870, and went off to start an English cause. They rented a chapel belonging to the Wesleyans and that is where their services have taken place  until the present day. This young church suffered a great loss soon after it was formed through some of the most helpful and influential members moving to other districts. A big loss was the moving  to Swansea of Mr Thomas Lloyd Davies, and others to different places. However, the cause is moving forward, and is gradually gaining ground despite every disadvantage. At the start of the cause the minister and church decided to do their best to gather stragglers to the house, and spread the influence of the cause through their efforts to do as much good outside the church  as inside it. There is here a flourishing Sunday school, and an excellent library has been opened in connection with it for the youngsters. Sacred music also gets particular attention here. Members of the congregation are every week distributing about 500 religious compositions from house to house in the district, and therefore scores of famlies that don't attend any  place of worship are getting the opportunity to find the way to salvation. Through these methods there are some who from week to week are being encouraged to come to listen to the gospel. There are hopeful signs of a prosperous cause here with time, but the friends will have to work their way through many disadvantages for a while.

 

GRANGE TOWN, CAERDYDD

(Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

 (Vol 2, p 432)

Achos Saesonig yw hwn. Dechreuwyd ef yn 1867, gan Mr. John Davies, gweinidog Hannah-street. Cymerodd Mr. Davies ystafell yma at gynal Ysgol Sabbothol, a moddion crefyddol eraill, y rhai a gynelid yn rheolaidd ar y Sabboth a nosweithiau o'r wythnos. Yn fuan wedi dechreu cynal moddion rheolaidd yma, cafodd eglwys fechan ei ffurfio. Wedi ffurfiad yr eglwys, yn unol a chynghor Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. T. George, Llancurwg, i ymsefydlu yma fel gweinidog. Bu Mr. George yn llafurio yn y Ile gyda derbyniad a pharch hyd ddiwedd y flwyddyn 1871, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn y Dinas, Cwmrhondda, ac y symudodd yno. Mae yma Ysgol Sabbothol lewyrchus, a chystal cynnulleidfa ag a ellid ddisgwyl wrth ystyried mai mewn ystafell anghyfleus y cynelir y gwasanaeth. Mae yr achos ieuange hwn wedi dyoddef yn fawr o eisiau capel, ac ofnir y bydd raid aros am flynyddau etto cyn cael un, am mai gwr ieuange dan ei oed yw perchenog y tir, ac nas gellir cael les nes y delo i'w oed. Mae y gymydogaeth yn cynwys tua dwy fil o drigolion, a'r boblogaeth yn cynyddu yn gyflym. Os Ilwyddir i gael capel, y mae gobaith am achos llwyddianus yma.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

 This is an English cause. It was started in 1867, by Mr John Davies, minister at Hannah-St. Mr Davies took a room here to hold a Sunday school, and other religious matters, and these were regularly held on Sundays and week days. Soon after starting to hold regular events here, a small church was formed. After that, together with and advised by Mr Davies, they gave  a call to Mr T George, Llancurwg, to move here as minister. Mr George laboured in the place with acceptance and respect until the end of 1871, when he received a call from the church at Dinas, Cwmrhondda, and moved there. There is here a flourishing Sunday school, and as good a congregation  as can be expected when one considers that services are held in an inconvenient room. This young cause has suffered much through lacking a chapel, and it is feared will have to wait for some years yet before having one, as it is an under age young man  who owns the land, and they can't have a lease until he comes of age. The neighbourhood consists of about 2000 residents, and the population is fast growing. If it succeeds in getting a chapel, there is hope for a successful cause here.

WOOD STREET, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 432)

Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1868, dan yr amgylchiadau canlynol : - Yr oedd Mr. W. Watkiss yn weinidog cynnulleidfa o Ddiwygwyr Wesleyaidd, yn Charles-street. Ar un Sabboth hysbysodd y gynnulleidfa ei fod yn rhoddi ei weinidogaeth i fyny yno am nad oedd yn gallu cydweithredu yn ddymunol a rhai personau o ddylanwad yn y gynnulleidfa. Gan fod mwyafrif dirfawr yr aelodau a'r gwrandawyr yn selog iawn drosto ef, ac yn anfoddlon iddo ymadael a Chaerdydd, cymhellasant ef i bregethu y Sabboth canlynol yn y Music Hall, yn Wood-street, a'r hyn y cydsyniodd. Daeth yno dorf ddirfawr o'r dosbarth gweithiol i'w wrandaw, a phenderfynwyd o hyny allan i gynal gwasanaeth rheolaidd yno. Rhentiwyd y Music Hall fel lle addoliad. Ffurfiwyd yno eglwys, ac aeth pob peth yn mlaen yn anghyffredin o lwyddianus, ac yn mhell tuhwnt ddisgwyliadau y gweinidog a'r bobl. Yn y flwyddyn 1869, wedi ymgynghori a Mr. Davies, Hannah-street, a Mr. Waite, Charles-street penderfynasant uno a'r enwad Annibynol. Prynwyd y Music Hall, a chyfaddaswyd ef i fod yn dy addoli. Rhoddwyd tair mil o bunau am dano, ac yr ydym yn deall fod haner y ddyled wedi ei thalu. Tuag at hyny cafwyd swm da o'r pum' mil a addawsai Mr. S. Morley at adeiladu capeli Saesonig yn Nghymru. Mae yr addoldy hwn yn cynwys dros bymtheg cant o eisteddleoedd, ac y mae yn cael ei lenwi bob Sabboth. Mae yma argoel am achos anghyffredin o lewyrchus.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

This cause began in 1868, in the following circumstances; - Mr W Watkiss was the minister of a congregation of Reforming Wesleyans, in Charles-St. On one Sunday he notified the congregation that he was giving up his ministry there as he could not work pleasantly with some influential persons in the congregation. As the great majority of members and listeners were quite keen on him, and were unwilling for him to leave Cardiff, he was urged to preach on the following Sunday in the Music Hall, in Wood St, and he agreed to this. A great crowd came there from the religious community to listen, and decided then and there to hold  services regularly there. They rented the Music Hall as a place of worship. They formed a church there, and things went ahead very successfully, and far beyond the expectations of the minister and people. In 1869, after consultation with Mr Davies, Hannah St, and Mr Waite, Charles St, they unanimously decided to call themselves Independent. They bought the Music Hall, and modified it as a house of worship. They gave £3000 for it, and we understand that half the debt has been repaid. Towards that they had a good sum from the £5000 that was left by Mr S Morley to build English chapels in Wales. The place has over 1500 seatings, and it is filled every Sunday. The outlook here is for an extraordinary prosperous cause. HANNAH STREET, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 429)

Cafodd yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn ei dechreuad dan yr amgylchiadau canlynol : - Mr. John Davies, y pryd hwnw, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Mount Stuart Square, yn teimlo fod angen dirfawr am ychwaneg o achosion Saesonig i'r Annibynwyr yn nhref gynyddol Caerdydd, lle y mae o leiaf bedwar o bob pump o'r trigolion yn siarad yr iaith Saesonig, a rentiodd ystafell yn Patrick-street am ugain punt y flwyddyn o rent, ac a ddechreuodd bregethu yno yn nechreu y flwyddyn 1866. Sefydlwyd yno Ysgol Sabbothol, a phob math arall o foddion crefyddol dan arolygiaeth Mr. Davies, ac yn lled fuan ffurfiwyd yno eglwys o bedwar-ar-ddeg o aelodau, at yr hon y mae ychwanegiadau cyson wedi bod hyd yn bresenol. Wedi Ilawer o drafferth cafwyd darn cytleus o dir at adeiladu capel yn Hannah-street, gan Ardalydd Bute, ar les o 99 o flynyddau, am yr ardreth blynyddol o chwe' phunt a deg swllt. Mehefin 11eg, 1867, cynaliwyd cyfarfod er gosod i lawr garreg sylfaen yr addoldy newydd. Y diweddar H. O. Wills, Ysw., o Gaerodor, a neillduwyd i gyflawni y ddefod o osod y garreg. Cyn iddo fyned trwy y ddefod, cyflwynodd Mrs. Davies, gwraig y gweinidog, lwy arian (trowel) iddo. Yr oedd Mr. Samuel Morley, Mr. Henry Richard, Mr. J. C. Gallaway, M.A., Llundain; Dr. Rees, Abertawy, a llawer o weinidogion yn wyddfodol, ac yn anerch y gwyddfodolion Iluosog ar yr achlysur. Yn hwyr, yr un dydd, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Charles-street, dan lywyddiaeth Mr. Morley, pryd y cafwyd addewidion am lawer o symiau anrhydeddus at y capel newydd. Mehefin 10fed, 1868, agorwyd y deml brydferth, pryd y traddodwyd pregethau gan Meistri Thomas Jones, yn awr o Abertawy, a Ll. D. Bevan, LL.B., Llundain. Mae ysgoldy eang odditan y capel, a chwech o wahanol ystafelloedd, yn nghyd a Vestries, a phob cyfleusderau eraill. Costiodd y cwb1 4,150p., a bwriedir tynu y ddyled i lawr erbyn diwedd y flwyddyn hon i 800p., ac felly bydd y gweinidog llafurus a'r gynnulleidfa ieuange hon mewn pedair blynedd wedi casglu y swm mawr o 3,350p. at eu haddoldy. Er fod yr achos dan ofal Mr. Davies o'i ddechreuad, anfynych yr oedd ef yn gallu pregethu i'r gynnulleidfa tra y bu yn weinidog i'r eglwys yn Mount Stuart Square. Wedi agoryd y capel newydd gwnaeth ef ei feddwl i fyny i roddi gofal yr eglwys Gymreig i fyny a chyfyngu ei lafur i'r achos Saesonig, ac felly dechreuodd ei weinidogaeth rheolaidd yma yn Gorphenaf, 1868.

Mae y capel wedi ei osod dan ofal pymtheg o ymddiriedolwyr, y rhai a wneir i fyny o dri o weinidogion a deuddeg o leygwyr. Cydnabydda Mr. Davies gyda diolchgarwch y cymorth a'r gefnogaeth a gafodd yn ei anturiaeth bwysig gydag adeiladaeth y capel a chychwyniad yr achos, gan Meistri Billups, Dr. Edwards, Captain Rowlands, John Evans, G. F. Atkins, J. O. Jones, T. Davies, James Marychurch, ac eraill. Y diaconiaid yma ydynt Meistri W. Manning, G. Down, J. Rowlands, a T. Davies. A blaenor y gan a chwareuwr yr organ yw Mr. W. Marychurch. Mae yr aelodau yn awr yn 84 o rif, y gynnulleidfa tua 400, yr Ysgol Sabbothol yn 250, a'r capel yn un o'r addoldai harddaf a mwyaf cyfleus yn y dref, ac yn cynwys tua saith gant o eisteddleoedd. Mae pob peth yma yn awr mor llewyrchus a dymunol ag y gellid disgwyl, ond yn unig fod iechyd y gweinidog defnyddiol ac anwyl mor wanaidd nes ei analluogi i gyflawni ei waith fel yr arferai wneyd. Mae gweddiau beunyddiol ei bobl a'r eglwysi yn gyffredinol am ei adferiad etto i'w iechyd arferol, ac yr ydym yn hyderu yr atebir hwynt yn estyniad ei oes a'i ddefnyddioldeb. Pa fodd bynag y gwel yr Arglwydd yn dda wneyd gyda golwg ar ei was ffyddlon yn y dyfodol, y mae genym achos diolch yn wresog am iddo ei nerthu a'i lwyddo mor anghyffredin hyd yn bresenol.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

The church that met in this chapel started in the following circumstances;- Mr John Davies, at the time minister at the Welsh church in Mount Stuart Square, felt that there was a great need for several English Independent causes in the growing town of Cardiff,  where 4 out of 5 residents spoke English, and he rented a room in Patrick St for £20 pa rent, and began to preach there at the start of 1866. They established a Sunday school there, and every other type of religious activity, under the supervision of Mr Davies, and fairly soon formed a church of 14 members, and this has steadily increased to the present day. After some difficulty they had  a piece of land to build a chapel in Hannah St, from Lord Bute, on a lease of 99 years, for the annual rate of £10.6s  On June 11th 1867 they held a ceremony to lay the foundation stone for the new chapel. The late H O Wills, Esq, of Bristol, was assigned to fullfil the ritual of laying the stone. Before he went through the ceremony, Mrs Davies, the minister's wife, presented him with a trowel.  Mr. Samuel Morley, Mr. Henry Richard, Mr. J. C. Gallaway, M.A., London; Dr. Rees, Swansea; and several ministers attended, and addressed the large crowd gathered for the occasion. Later, the same day, they held a public meeting in Charles St chapel, under the presidency of Mr Morley, when they received many pledges for honorary amounts for the new chapel. On 10th June 1868, they opened the lovely temple, when sermons were delivered by Messrs Thomas Jones, now in Swansea, and Ll. D. Bevan, LL.B., London. There is a large schoolhouse underneath the chapel, with 6 separate rooms all with Vestries, and every other facility. The whole lot cost £4150, and it is intended to pull this debt down to £800 by the end of the year, and thus the industrious minister and young congregation will have collected the vast amount of £3350 within 4 years towards their place of worship. Although the cause was under the care of Mr Davies from the outset, he was seldom able to preach to the congregation whilst  minister at the church at Mount Stuart Sq. Having opened the chapel he made his mind up to give up the care of the Welsh church to confine his labours to the English church, and thus began his regular ministry here in July 1868.

The chapel was set up under the care of 15 trustees, who were made up of 3 ministers and 12 laymen. Mr Davies recognised with gratitude the assistance and support he received in the important project of building the chapel and starting the cause from Messrs Billups, Dr. Edwards, Captain Rowlands, John Evans, G. F. Atkins, J. O. Jones, T. Davies, James Marychurch, and others.  The deacons here are Messrs W. Manning, G. Down, J. Rowlands, and T. Davies.And the leader of the singing and player of the organ is Mr W Marychurch. The members now number 84, the congregation about 400, the Sunday school 250, and the chapel one of the most beautiful and convenient in the town, and containing some 700 seating.  Everything here now is as prosperous and pleasant as it could be, apart from the fact that the health of their helpful and loved minister is so poor that it stops him carrying out his work as he used to. The daily prayers of his people and the churches are universal for his recovery to normal health, and are confident that this will extend his life and usefullness. However the good Lord's will bears down on his faithful servant in the future, we have a cause most thankful for his strength and extraordinary success until the present time.

 

CHARLES STREET, CAERDYDD

Proof read by David Rowlands (Feb 2008)

(Vol 2, p 429)

Yr oedd rhai o aelodau yr hen gapel yn Womanby-street yn teimlo er's blynyddau nad oedd un gobaith am gyfodi achos Annibynol effeithiol a theilwng o dref fawr a chynyddol Caerdydd yn y capel hwnw, oherwydd anghyfleusdra y lle, ac amrywiol achosion eraill, gan hyny penderfynodd nifer o honynt yn y flwyddyn 1853, ymadael yn heddychol a'r hen le, a dechreu achos newydd mewn lle arall. Cymerasant hen addoldy y Wesleyaid yn Old Church-street. Buont yno am ddwy flynedd, ac yna symudasant i Neuadd y dref yn 1855, ac yno y buont nes gorphen adeiladu y capel yn Charles-street. Dechreuwyd adeiladu y capel yn Tachwedd, 1854, ac agorwyd ef Gorphenaf 5ed, 1855. Traddodwyd pregethau ar yr achlysur gan Dr. Vaughan, y pryd hwnw o athrofa Lancashire, a Mr. D. Thomas, B.A., Bristol. Maint y capel yw 75 troedfedd wrth 38 oddifewn i'r muriau. Y mae ysgoldy helaeth odditano, ac amrywiol ystafelloedd cyfleus yn perthyn iddo. Costiodd 2,900p., a gorphenwyd talu y ddyled yn 1866. Yn 1862, gosodwyd oriel yn y capel, yr hyn a gostiodd 212p., ac felly costiodd yr addoldy hwn rhwng pob peth dros dair mil a chan' punt. Y gweinidog cyntaf yma oedd Mr. R. T. Verrall, B.A., o New College, Llundain. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yma Medi 18fed, 1853, a symudodd oddiyma yn 1861. Dilynwyd Mr. Verrall gan Mr. Joseph Waite, B.A., o East Cowes. Dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Mai, 1862, ac y mae yn parhau i lenwi ei le yma gyda, pharch a dylanwad mawr.

Mae yr eglwys hon yn awr yn cynwys 200 o aelodau, ac yn eu mysg amryw o'r dynion mwyaf parchus a dylanwadol yn Nghaerdydd. Mae hwn wedi bod yn achos Ilwyddianus iawn oddiar ei gychwyniad hyd yn bresenol. Heblaw amryw o'r aelodau sydd yn arfer eu doniau fel pregethwyr achlysurol, y mae y tri canlynol o'r aelodau yn darparu ar gyfer y weinidogaeth: -

  • W. J. Jupp. Yr hwn sydd yn fyfyriwr yn yr Athrofa OrlIewinol yn Plymouth.
  • William Lloyd. Myfyriwr yn yr athrofa yn Nghaerodor.
  • B. N. Freme. Myfyriwr yn athrofa Springhill, Birmingham.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

Some of the members of the old chapel in Womanby St had felt for some years that there was no hope for raising an effective Independent cause and worthy of  the large and growing town of Cardiff in that chapel, because of the inconvenience of the place, and sundry other reasons, in as much that a number of them decided in 1853, to peaceably leave the old place, and start a new cause somewhere else. They took on the old schoolhouse of the Wesleyans in Old Church St. They were there for 2 years, and then moved to the town hall in 1855, and remained there until finishing building the chapel in Charles St. They began to build the chapel in November 1854, and it opened  July 5th 1855.Sermons were delivered on the occasion by Dr Vaughan, then at Lancashire College, and Mr D Thomas, B.A, Bristol.  The size of the chapel is 75ft by 38ft between the walls. There is a roomy schoolhouse under it, with sundry handy rooms with it. It cost £2900, and they finished repaying the debt in 1866.  In 1862, they installed a gallery in the chapel, and this cost £212, so that the place cost with everything more than £3100. The first minister here was Mr R T Verrall, B.A, from New College, London. He began his ministry here on Sept 18th 1853, and he moved from here in 1861. Mr Verrall was followed by Mr Joseph Waite, B.A, from East Cowes. he began his ministry here on the first Sunday in May 1862, and he continues to fulfill his role here with respect and great influence.

This church now comprises 200 members, and among them some of the most respected and influential men in Cardiff. This has been a mosty successful cause from its inception to the present. Apart from the several members who customarily demonstrate their prowess as occasional preachers, the three following members are preparing for the ministry;-

  • W. J. Jupp. A student at the Western College in Plymouth
  • William Lloyd. A student at Bristol College
  • B. N. Freme. A student at Springhill College, Birmingham,