Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books See main project page

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 484 - 497

Proof read by Maureen Saycell (April 2008)

Chapels below;

 

Pages 484 - 497

484

(Continued) TANYGRISIAU

ddyled yr aed iddi. Yn niwedd y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Rhiwbryfdir, alwad  Mr William Roberts, Penybontfawr, a dechreuodd ei wenidogaeth yma y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1866, a chynhaliwyd cyfarfodydd  ei sefydliad yn niwedd Hydref y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri C. R. Jones, Llanfyllin ; D. Evans, Penarth ; H. James, Llansantffraid ; J. Roberts, Llanerchymedd ; D. Roberts, Caernarfon ; J. Roberts, Conwy, ac E. Morris, Penrhyn. Yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn, amlygodd y brodyr yn y lle eu gwerthfawrogiad o Mr Roberts, ar ei sefydliad yn eu plith, trwy ei anrhegu ag oriawr a chadwen aur, a gwydr-ddrychau aur. Mae Mr Roberts yn parhau yma yn gysurus a llwyddianus. Gwelwyd yn angenrheidiol helaethu y capel, trwy ei godi yn uwch a rhoddi oriel o'i amgylch, ac y mae yn awr yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled, a chynnulleidfa luosog ac eglwys weithgar ynddo. Aeth traul yr helaethiad yn £660, ac er ei fod yn cynwys lle  lawer mwy nag a gynwysai o'r blaen, etto, y mae yr eisteddleoedd gan mwyaf oll wedi eu cymeryd. Agorwyd ef y Sabboth olaf yn Medi, 1870, a phregethwyd ar y pryd gan Meistri Thomas, Bangor; D. Roberts, Caernarfon; D. Griffith, Portdinorwic, a J. Rowlands, Rhos. Mae ty helaeth a chyfleus wedi ei godi i'r gweinidog, trwy gyd-ymroddiad yr eglwys yma ac eglwys Rhiwbryfdir, yn ymyl capel y Rhiw, fel y gwelir yn eglur fod gan y bobl hyn " galon weithio." Mae capel bychan i Danygrisiau wedi ei godi yn Cwmorthin. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Nhanygrisiau, dechreuodd Mr Roberts bregethu ar nosweithiau o'r wythnos yn nhy Mr D. Jones, goruchwyliwr yn y gloddfa yno, ond gwelwyd yn angenrheidiol codi addoldy yn y lle. Gwnaed cais trwy Mr D. Jones, y goruchwyliwr, am dir gan berchenogion y gloddfa yma, y rhai a deimlent yn llawen  gydsynio. Rhoddodd y chwarelwyr eu llafur yn rhad  dori y sylfaen, cludo y cerig, a gwneyd ffordd ato, ac nid hir y buwyd cyn cael y capel yn barod, ac er iddo gostio £100 mewn arian, heblaw y llafur rhad a roddwyd, agorwyd ef yn rhydd o ddyled trwy haelioni y chwarelwyr yn y Cwm, a chyfeillion Tanygrisiau. Enwyd ef Tiberias, am y rheswm  fod yn sefyll ar lan llyn mawr, yr hwn sydd dros ddwy filltir o amgylchedd. Bu Mr D. Jones, a'i fab, yr hwn sydd gydoruchwyliwr a'i dad, yn egniol yn y gorchwyl o gael y capel  fyny a thalu amdano ; ac nid llai ei ymdrech chwaith y bu John Jones. Cynhelir ynddo Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol. Fel y cynydda y lle, y mae yn debyg y bydd yn rhaid corpholi eglwys Annibynol yma.

Codwyd  bregethu yn yr eglwys hon;-

  • David Cadwaladr. Dangosodd arwyddion gobeithiol, ond lluddiwyd ef trwy farwolaeth i barhau.
  • Elias Morris. Mae yn awr yn Penrhiwddolion, Dolyddelen, ac yn  parhau i bregethu yn achlysurol.
  • John Roberts. Mab  Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, ac yr oedd yn argoeli dyfod yn mlaen yn obeithiol, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn y Bala, cyn gorphen ei dymor yn yr athrofa, a dygwyd  gorph i'w gladdu yn meddrod y teulu, yn mynwent Ffestiniog.
  • John Hughes. Mae yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.

Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd Mr. Robert Evans, Bethel, Aberdare, ond yn Abermaw, pan yno yn yr ysgol, y dechreuodd bregethu.

See first page for the translation of the above

 

485

RHIWBRYFDIR

Already translated etc, see  /big/wal/MER/Ffestiniog/Hanes.html

"Yn y flwyddyn 1859, dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yma, yn nhy John Roberts, un o aelodau Tanygrisiau. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1861, a bu John Roberts, John Morris, John Daniel, William Pierce, Owen Hughes, ac eraill, yn hynod o ymdrechgar yn y gorchwyl. Cawsant hefyd Mr. John Edwards, brawd Mr. Edwards, Aberdare, a Mr. Morris Griffith Williams, Rhiw, er heb fod yn aelodau eglwysig, yn gynnorthwywyr o'r fath fwyaf egniol. Costiodd y capel 600p. Galwyd ef yn Salem. Agorwyd ef Mehefin 23ain a'r 24ain, 1861, pryd y pregethodd. Meistri W. Edwards, Aberdare; E. Stephen, Tanymarian, ac R. Thomas, Bangor. Ffurfiwyd eglwys yn y capel newydd y nos Wener blaenorol gan Mr. Edwards, Aberdare, pryd yr ymgorphorodd pedwar-a-deugain o aelodau Tanygrisiau, ac ychydig nifer o aelodau Bethania, i gydymroddi i gynal achos yr Arglwydd yn y lle. Ymroddodd yr eglwys yma o ddifrif at dalu dyled y capel. Yr oedd haner yr arian wedi eu casglu cyn pen dwy flynedd, ac erbyn hyn nid oes ond 60p. yn aros. Cydunodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nhanygrisiau i roddi galwad Mr. Roberts, Penybontfawr, ac y mae yn parhau i ofalu am y ddau le. Gan nad yw yr achos ond ieuangc nis gellir disgwyl fod llawer o hanes i'w roddi, ond y mae yma bobl weithgar a ffyddlon, a'r achos ar cyfan, mewn gwedd addawus. Mae y ty i'r gweinidog sydd yn ymyl y capel hwn, wedi ei godi cydrhwng yr eglwys yma a'r eglwys yn Nhanygrisiau, ac wedi ei fwriadu i fod yn breswylfa i weinidog y ddwy eglwys."

 

FOURCROSSES

(Ffestioniog parish)

Codwyd y capel hwn gan eglwys a chynnulleidfa Bethania, yn y flwyddyn 1868, ac agorwyd ef yn nglyn a Chymanfa Meirionydd, yr hon a gynhaliwyd yma Gorphenaf  1af a'r 2il, 1869. Saif tua haner y ffordd rhwng Bethania a Rhiw, yn nghanol grym poblogaeth y lle. Mae yn gapel hardd a chyfleus, yn ddeunaw llath wrth bedair-ar-ddeg, ac ysgoldy eang odditano. Costiodd ddwy fil o bunau. Cafwyd y tir i adeiladu arno gan Arglwydd Newborough, trwy ddylanwad Mr David Williams, Cwmbywydd, a bu Mr Williams yn nodedig o ymdrechgar er ei gael yn barod, a disgwyliai am lawer o gysur ynddo, ond siomwyd ei holl ddisgwyliadau, ac ag un ergyd chwalodd angau ei holl gynlluniau. Corpholwyd eglwys ynddo yn ddioed wedi ei gael yn barod, a gweinyddwyd y cymundeb cyntaf gan Mr E. Davies, Trawsfynydd, pryd y derbyniwyd saith o'r newydd i gymundeb, at y rhai oeddynt yn aelodau yn flaenorol. Saith mlynedd a deugain cyn hyny, yr oedd Mr Davies wedi derbyn y saith cyntaf yn aelodau yn Ffestiniog, a hyny heb fod yn nepell oddiwrth y fan y saif capel Fourcrosses. Yn niwedd y flwyddyn 1870, rhoddodd yr eglwys yma alwad  Mr Price Howell, o Ynysgau, Merthyr, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma ddechreu y flwyddyn hon, (1871,) ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa mewn agwedd addawus a chalonog. Mae swm y ddyled yn ymddangos yn fawr, ond dileir ef yn fuan o flaen cydweithrediad pobl weithgar a haelionus.

Translation by Eleri Rowlands (4/2020)

This chapel was built by the congregation and church of  Bethania in 1868, and was opened during Merioneth's Cymanfa (singing festival), which was held here on July 1st and 2nd, 1869. It stood half way between Bethania and Rhiw, in the middle of the strongest population. It is a beautiful church, eighteen yards by fourteen with a schoolroom underneath. It cost two thousand ponds. The land was given by Lord Newborough, by the influence of Mr David Williams, Cwmbywyd. It was through the efforts of Mr Williams that it was developed. He expected much comfort in this church, but death shattered all his expectations with one blow. A church was embodied here as soon as the chapel was built. The first communion was given by Mr E. Davies, Trawsfynydd, when seven new members were added to the ones who were already there. Forty seven years before that  Mr Davies had accepted the first seven members in Ffestiniog. That isn't very far from the site of the chapel of  Fourcrosses. At the end of 1870, the church gave a call to Mr Price Howell, from Ynysgau, Merthyr. He started his ministry here at the begining of 1871. The church and the congregation is hearty and very promising. The debt seems to be great but it will be deleted soon by the co-operation of generous and hard working people.

 

486   

TOWYN

(Tywyn parish)

Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y ddwy afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng dan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o Sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronyclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn, ond nid oes yma er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt. Pregethwyd ar y maes yn agos i'r Towyn gan Mr William Jones, Machynlleth, fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad ohono yn nglyn a'r eglwys yno, (tu dal. 296,) a therfysgwyd yr addoliad, a dychrynwyd y pregethwr, trwy ddyfodiad gweision Mr Corbet, Ynysmaengwyn, gyda haid o fytheuaid  iaflonyddu. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1789, ond nid oes genym hanes am yr Annibynwyr yn cynyg pregethu yma ar ol hyny, hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yn ymddangos mai Meistri Hugh Pugh, Brithdir, a J. Roberts, Llanbrynmair, oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr achos yma. Yr oedd gan Mr Pugh berthynasau yn byw yn y gymydogaeth hon, a hyny, fel yr ymddengys, a fu yr achlysur i'w arwain yma. Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr J. Roberts, Llanbrynmair, yn nghofiant Mr Pugh, o'r Brithdir. - " Yn ffurfiad yr eglwys Ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr Pugh, ac ysgrifenydd y cofiant hwn, yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr  Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Anymddibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803. Y rhai fu yn benaf yn offerynol i ddechreu yr achos yn Nhowyn oeddynt, Hugh Edwards, o Lanyrafon, a Miss Mary Jones, chwaer Hugh Jones, o Dowyn, y rhai a rodiasant yn deilwng o efengyl Crist hyd derfyn eu hoes." Yr oedd David Jones, tad Mr Daniel C. Jones, Abergwyli, hefyd yn un o'r aelodau cyntaf yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon am ei oes faith, a chyn hir, daeth John Davies, Glasbwll, wedi hyny, i'r gymydogaeth i wasanaethu, ac fel canwr cryf, a gweddiwr doniol, bu o help mawr i'r achos. Cyfarfyddent mewn ty yn Lion-street, yr hwn a gymerasid dan ardreth. Heblaw y gweinidogion a enwyd, ymwelai Mr Azariah Shadrach a'r lle ar ol ei sefydliad yn Nhalybont. Yn nechreu y flwyddyn 1807, urddwyd Mr James Griffith, yn weinidog yn Machynlleth, a chymerodd ef ofal yr achos bychan yn Nhowyn, a'r achosion oedd erbyn hyn wedi eu cychwyn yn Llanegryn a Llwyngwril. Bu Mr Griffith yn hynod o lafurus i ymweled a'r lle, ond oblegid eangder maes ei lafur, nis gallasai ddyfod ond yn anfynych. Yn fuan ar ol hyn, dechreuodd Mr David Morgan, Talybont, ei ymweliadau misol a'r lleoedd hyn, a pharhaodd felly am bedair blynedd. Yn y flwyddyn 1811, barnodd Mr Griffith yn angenrheidiol, oblegid eangder y maes, i roddi y Towyn a'r lleoedd cysylltiedig  fyny, ac anogwyd Mr David Morgan, o'r hwn yr oeddynt eisioes wedi cael blynyddoedd o brawf, i gymeryd eu gofal. Cydsyniodd Mr Morgan a'r cymhelliad, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar wyneb yr heol yn y Towyn,

* Dysgedydd, 1824. Tudal. 355.

487

yn mis Mawrth, 1813. Deuai yma ar ol hyn ddwy waith y mis, ond ni symudodd i fyw o Cerigcaranau, (neu Cerigtaranau, fel yr ysgrifena rhai ef,) Sir Aberteifi. Ymdrechodd Mr Morgan yma a'i holl egni er gwaned oedd yr achos, hyd ddiwedd 1814, pryd y symudodd i Fachynlleth, fel olynydd i Mr Griffith, ar ei ymadawiad i Dyddewi. Wedi ymadawiad Mr Morgan, bu Mr Titus Jones yn aros am ychydig yma. Symudodd i Sir Fon, ac aeth at y Methodistiaid, a bu yn pregethu gyda hwy am dymor hir. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Morganwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, fel hen gymeriad gwreiddiol, ac y mae llawer o'i ffraethddywediadau yn aros ar gof a chadw. Yn y flwyddyn 1816, cafodd Mr Hugh Lloyd, alwad gan yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Llanegryn a Llwyngwril, ac urddwyd ef yn Llanegryn Hydref 3ydd, 1817, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; M. Jones, Llanuwchllyn ; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont ; W. Hughes, Dinas ; J. Lewis, Bala ; James Davies, Aberhafesp, a C. Jones, Dolgellau.*  Gan fod yr achos yn wan, ychwanegodd Mr Lloyd, fel y gwnai y rhan fwyaf o weinidogion y cyfnod hwnw, y swydd o ysgolfeistr at y weinidogaeth, ac yn y nail a'r llall, gwnaeth fwy o les i eraill nag a wnaeth o elw iddo ei hun. Yr oeddynt dan anfantais fawr o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd anhawsder mawr i gael tir, ac yr oedd yr eglwys yn ychydig mewn nifer, ac yn dlodion agos oll, fel nad oedd calon ynddynt at y gwaith, ac nid oedd ond ychydig o ysbryd anturio yn Mr Lloyd ei hun. Cafodd dir ar werth, a phrynodd ef am £74,  a phenderfynodd y mynai gael £200 i law cyn dechreu adeiladu, a llwyddodd yn hyny. Codwyd capel prydferth a chyfleus. Galwyd ef Bethesda, ac agorwyd ef Mehefin 21ain, 1820, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Davies, Cutiau ; R. Jones, Llanfyllin ; R. Roberts, Brithdir ; W. Jones, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; E. Davies, Rhoslan; J. Davies, Llanfair ; J. Lewis, Bala ; O. Thomas, o Sir Fon ; W. Hughes, Dinas, a C. Jones, Dolgellau. #  Teithiodd Mr Lloyd trwy Yorkshire, a pharthau eraill o Loegr i gasglu ato, a chyn diwedd y flwyddyn 1820, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, ac yn nglyn a hanes yr agoriad yn yr Evangelical Magazine, y mae Mr Lloyd yn cymeryd y cyfle i ddiolch i'r cyfeillion caredig yn Lloegr, y rhai yn haelfrydig a roisant iddo y fath gynorthwy amserol. Bu Mr Lloyd yn gyson a dyfal yn ei lafur yma, ac ennillodd yr achos dir yn raddol, ac yr oedd cymeriad uchel a difrycheulyd y gweinidog a'r eglwys, yn rhoddi iddo safiad parchus yn ngolwg trigolion y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1849, barnodd Mr Lloyd yn ddoeth i gael gwr ieuangc i gydlafurio ag ef, a chydsyniodd ef a'r eglwys i roddi galwad unfrydol  Mr Isaac Thomas, aelod o Carmel, Cendl, ac urddwyd ef Medi 27ain, 1849. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau gan Mr H. Lloyd, Towyn ; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr E. Davies, o Drawsfynydd ; pregethodd Mr C. Jones, i'r gweinidog, a Mr E. Evans, Maentwrog, i'r eglwys. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Davies, (gynt o Rymni), J. Jones, Abermaw; S. Edwards, Machynlleth; 0. Thomas, Talybont; R. Roberts, Clarach ; J. Williams, Aberhosan ; G. Evans, Pennal ; J. Owen,

* Evangelical Magazine,1817 . Tudal. 535.  # Evangelical Magazine, 1829. Tudal. 390.

488  

Nefin, ac E. Williams, Dinas.* Llafuriodd Mr Thomas fel plentyn gyda thad hyd farwolaeth Mr Lloyd yn mis Medi, 1861, ac er hyny y mae y gofal yn gwbl arno ef, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Yn 1866, helaethwyd y capel, fel y mae yn dy eang a chyfleus, y fath ag y sydd yn cyfateb i'r lle prydferth a chynyddol y mae ynddo.

Mae yma lawer o bobl dda wedi bod o bryd i bryd yn nglyn a'r achos, heblaw y rhai a enwyd yn nglyn a'i gychwyniad. Nid ydym wedi cael rhestr o'u henwau, gan hyny, ymataliwn rhag crybwyll enwau yr ychydig a adwaenem, rhag i ni adael allan eraill llawn mor deilwng, ond gwyddom na bydd yn dramgwydd i neb i ni grybwyll am enw Mrs Lloyd, gwraig y gweinidog, yr hon oedd nid yn unig "yn rhodd gan yr Arglwydd" i Mr Lloyd, ond hefyd i'r achos yn Nhowyn. Mae yr engraifft a ddyru Dr. W. Rees, Liverpool, o'i chraffder a'i thynerwch, yn nghofiant Mr Pugh, Mostyn, yn dangos mai un yn mysg mil ydoedd,  nid heb achos y gofyna, " A oes yn mysg merched Seion yn awr lawer o'r ddelw hon o Gristionogion ?"

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

  • Hugh Pugh. Urddwyd ef yn Llandrillo, a symudodd  Mostyn, lle y daw ei hanes dan ein sylw.
  • John Humphrey. Bu am ysbaid yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys hon. Ymfudodd i'r America, lle y daliodd ei ffordd yn anrhydeddus, a bu farw mewn oedran teg.
  • David S. Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Glandwr, Penfro, lle y mae etto.
  • John E. Thomas. Brawd i'r uchod. Mae yn awr yn fyfyriwr athrofa Caerfyrddin.

Yn yr eglwys hon y magwyd D. C. Jones, Abergwyli, and fel y crybwyllasom yn nglyn a'r Graig, Machynlleth, yno y dechreuodd bregethu. Mae Thomas Davies, a Hugh P. Jones, yn awr yn bregethwyr cynorthwyol yn yr eglwys.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HUGH LLOYD. Ganwyd ef Medi 11eg, 1790, mewn amaethdy bychan o'r enw Bryngoleu, o fewn dwy filldir i'r Bala. Yr oedd ei dad, William Llwyd, yn ddiacon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalybont, gerllaw y Bala. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond wyth oed, ac ar ol bod am dymor yn yr ysgol yn y Bala, rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar ol dyfod yn rhydd, aeth i Swinton, yn agos i Manchester, ac yno fel y tybir y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr. # Dychwelodd yn ol i'w wlad oblegid sefyllfa ei iechyd, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau, a phan yn cadw ysgol yn Mhenystryd anogwyd ef i ddechreu pregethu. Symudodd oddiyno i'r Groeslon, Mon, i gadw ysgol ac i bregethu, ond yn y flwyddyn 1816, cafodd alwad gan yr eglwysi yn y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, y rhai oeddynt er' s yn agos  ddwy flynedd heb fugail, oblegid symudiad Mr Morgan, i Fachynlleth

* Dysgedydd, 1849. Tudal. 346

# Cofiant y Parch. Hugh Lloyd, Towyn, - Annibynwr, 1862. Tudal. 446.

489

Urddwyd Mr Lloyd yn Llanegryn, Hydref 3ydd, 1817. Ymroddodd a'i holl egni  wneyd ei waith, ac ni bu ei ymdrechion yn ofer. Cododd yn ei oes gryn nifer o gapeli, ond nid oedd mewn un modd am ddal ei afael ynddynt, ond cyn gynted ag y gwelai eu hod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain, anogai hwy i wneyd hyny. Yn y flwyddyn 1836, rhoddodd yr eglwysi yn Llanegryn, Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, ond parhai i ymweled a hwy tra y gallodd. Yn y flwyddyn 1824, priododd a Miss Thomns, merch ieuangc rinweddol o Abergwaun, yr hon a fu iddo yn " ymgeledd gymhwys." Ymgymerodd a masnach oblegid fod yr eglwysi dan ei ofal yn rhy wan i'w gynal, a pha faint bynag o anfantais a fu hyny iddo fel pregethwr, etto bu o fantais fawr i'w ddylanwad fel dyn cyhoeddus yn y dref, a rhoddodd gyfle iddo i gymeryd ei ran yn amlwg gyda phob peth, a chyfranu at bob achos, yr hyn nis gallasai pe gorfodasid ef i fyw ar yr hyn a allasai ei eglwysi gyfranu at ei gynhaliaeth. Gyda Bwrdd Iechyd y lle, a'r Ysgol Frutanaidd, a Chymdeithas y Biblau, nid oedd neb yn fwy blaenllaw nag ef, ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol, a'i synwyr cyffredin cryf yn rhoddi iddo ddylanwad mawr gyda'r fath bethau. Yr oedd yn ofnus a gochelgar yn mhob peth, ac yn wastad am gadw ar yr ochr ddiogelaf, a chadwodd hyny ef rhag rhuthro i bethau y tu allan i'w derfynau. Yr oedd yn gyfaill cywir a didwyll, ac yn cael ei garu fwyaf gan ei bobl ei hun, a'r rhai a'i hadwaenent oreu. Nid ymgododd yn uchel fel pregethwr, ac nis gallasai ychwaith, gan nad oedd ei alluoedd yn gryfion na'i ddoniau yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr sylweddol, a chanddo yn wastad genadwri i'w thraddodi a " fyddai da i adeiladu yn fuddiol." Profodd ei fod yn fugail ffyddlon a gofalus. Er nad ymddibynai ar bobl ei ofal am ei gynhaliaeth, ac er ei fod yn eu gwasanaethu yn rhad trwy ei oes, etto, nid oedd hyny yn peri i fod yn ddiofal yn eu cylch, ond teimlai mai goruchwyliwr cyfrifol i'w feistr ydoedd, ac fel y cyfryw, gofalai am fod yn ffyddlon. Yr oedd wedi cael ergyd o'r parlys rai blynyddau cyn ei farw, yr hyn a'i hanalluogai i siarad yn gyhoeddus, ond yr oedd mor llawn o ysbryd ei waith fel y mynai gael pregethu er nad oedd  wrandawyr yn deall fawr ddim o'r hyn a lefarai. Yn ei gystudd diweddaf teimlai fod ei angor yn dal yn ddiysgog. Y Sabboth cyn ei farw, gofynwyd iddo gan un o'i gyfeillion, a oedd yn gallu mentro ei hun ar Grist ? " Mentro," ebe yntau, "nid mentro, ond ymddiried fy hun yn gwbl i'w ofal." Bu farw Medi 25ain, 1861, yn 71 oed, ac yn mhen tri diwrnod rhoddwyd ei weddillion marwol i orwedd yn y llanerch oedd yn gysegredig yn ei olwg yn ei flynyddoedd olaf, oblegid mai yno yr oedd lle beddrod ei anwyliaid.

 

Translation by Eleri Rowlands (6/2020)

This area, between the two rivers, Mawddach and Dyfi, stayed untouched by the influence of the gospel  for longer than most areas in Merionethshire. While it is true that  Bronyclydwr is less than four miles from Towyn, and undoubtedly the hard working evangelist Hugh Owen had preached a lot throughout all this area, but there isn't one church that can be traced back to his days. These Independent churches cannot trace their history further than the beginning of this century and the Calvinist Methodists settled only a short time before them. Mr William Jones, Machynlleth preached on a field close to Towyn, as we mentioned in our account of him in connection with the church there. (page. 296,) The worship was halted by a riot, which terrified the preacher as the servants of Mr Corbet, Ynysmaengwyn, came in with a pack of hounds to disturb the service. This was  about 1789, but we have no history of the Independents offering to preach here after that until the beginning of the present century. It appears that Messrs Hugh Pugh, Brithdir and J. Roberts, Llanbrynmair, were in the forefront in establishing a cause here. Mr Pugh had relatives in this community and that is what led him to come here. This is what the late Mr J. Roberts, Llanbrynmair wrote in his biography of Mr Pugh from Brithdir. - " During the establishment of the non-conformist church in Towyn, Mr Pugh and the writer of this biography were present and they officiated at the Lord's Supper for the first time in the town, according to the Independents' tradition. I think it was in 1803. The ones who were mainly instrumental in starting the cause in Towyn were Hugh Edwards, from Glanyrafon and Miss Mary Jones, the sister of Hugh Jones from Towyn. They walked in ways which were worthy of the gospel of Christ until the end of their lives." David Jones, the father of Mr Daniel C. Jones, Abergwyli also one of the first members here stayed faithful throughout his long life and before long John Davies, later from Glasbwll came to the area to serve and as a strong singer and a witty prayer was of great help to the cause. They met in a house in Lion Street which they rented. Apart from the ministers mentioned Mr Azariah Shadrach visited the place after he settled in Talybont. At the beginning of 1807, Mr James Griffith was ordained as minister in Machynlleth and he undertook the care of the little cause in Towyn and the causes which by now had started in Llanegryn and Llwyngwril. Mr Griffith was incredibly hard working in visting the place, but as a result of the wide area for which he was responsible he was unable to come here often. Soon after this Mr David Morgan, Talybont, started his monthly visits to these places and this continued for four years. In  1811, Mr Griffith decided it was essential because of the breadth of the area to give up Towyn and the other places and he encouraged Mr David Morgan who had given years of proving himself, to take over their care. Mr Morgan agreed and was ordained in a meeting which was held at the side of the road,
* Dysgedydd, 1824. Page. 355.

487

in March, 1813. He then came here twice a month but he didn't move away from Cerigcaranau, (or Cerigtaranau, as some write it) Cardigan. Mr Morgan strove to work hard here with all his strength despite the weakness of the cause, until the end of 1814, when he moved to Machynlleth, to replace Mr Griffith when he moved to St. David's. After Mr Morgan left, Mr Titus Jones stayed here for a while. He moved to Anglesey and went to the    Methodists and preached to them for a long while. He was very well known in Glamorgan, where he spent most of his life, as an old character and many of his witty sayings are still remembered. In 1816, Mr Hugh Lloyd, received a call from this church and the churches in Llanegryn and Llwyngwril, and he was ordained in Llanegryn on October 3rd, 1817. On the occasion Messrs J. Roberts, Llanbrynmair; M. Jones, Llanuwchllyn; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; W. Hughes, Dinas; J. Lewis, Bala; James Davies, Aberhafesp, and C. Jones, Dolgellau officiated* Since the cause was weak, Mr Lloyd, as most of the ministers at that time used to, added the post of schoolteacher to the ministry and in both posts he did more good to others than he made a profit for himself. They were under a great disadvantage in that they didn't have a decent place of worship. They found it very difficult to secure land and they were few in number and almost all were poor, so there was no heart for the work and Mr Lloyd himself had little adventurous spirit. He found land for sale and he bought it for £74, and insisted that he have £200 in hand before starting the building work. He succeeded in doing so too. A beautiful church was built. It was called Bethesda, and was opened on June 21st, 1820. On the occasion Messrs E. Davies, Cutiau; R. Jones, Llanfyllin; R. Roberts, Brithdir; W. Jones, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; E. Davies, Rhoslan; J. Davies, Llanfair; J. Lewis, Bala; O. Thomas, from Anglesey; W. Hughes, Dinas, and C. Jones, Dolgellau officiated.#  Mr Lloyd travelled throughout Yorkshire and other areas of England to collect towards it and before the end of 1820, the whole debt had been paid. In the Evangelical Magazine where we find the story of the opening, Mr Lloyd takes the opportunity in thanking his kind friends in England, who generously gave him the most timely help. Mr Lloyd was diligent and regular in his labour here and the cause gained ground gradually and the respected, spotless character of the minister and the church gave the cause respectability in the eyes of the inhabitants of Towyn. At the beginning of 1849, Mr Lloyd rightly considered that a young man was needed to work alongside him and he agreed with the church's unanimous decision that a call should be sent to Mr Isaac Thomas, a member from Carmel, Cendl and he was ordained on September 27th, 1849. Mr S. Roberts, Llanbrynmair preached on the nature of the church, the questions were asked by Mr H. Lloyd, Towyn, Mr E. Davies, from Trawsfynydd prayed for blessings on the union; Mr C. Jones preached to the minister and Mr E. Evans, Maentwrog, to the church. Also present were Messrs R. Ellis, Brithdir, W. Davies, (formerly from Rhymni), J. Jones, Barmouth, S. Edwards, Machynlleth, 0. Thomas, Talybont, R. Roberts, Clarach, J. Williams, Aberhosan, G. Evans, Pennal, J. Owen, Nefin
* Evangelical Magazine,1817 . Page. 535.  
# Evangelical Magazine, 1829. Page. 390.

488  

and E. Williams, Dinas.* Mr Thomas laboured like a child with his father until the death of Mr Lloyd in September, 1861, and since then the care has been completely on his shoulders and the cause is going along quite happily. In 1866, the chapel was extended and is now a big building and very convenient, so much so that it is suitable for the beautiful, developing town in which it stands.
Many good people have been connected with the cause from time to time apart from the ones already mentioned at its beginning. We have not been given a list of their names so we will refrain from mentioning the names of the few we do know, in case we leave out the names of those who are just as worthy, but we know we would not upset anyone by mentioning the name of Mrs Lloyd, the minister's wife, who was not just "a gift from the Lord" to Mr Lloyd, but also to the cause in Towyn. The example which Dr. W. Rees, Liverpool, gave about her keenness and her gentleness in Mr Pugh, Mostyn's biography shows that she was one in a thousand, not without cause do we ask, " Is there anyone amongst the women of Jerusalem now as great as this idol of a Christian?"
The following persons were raised to preach in this church:-
Hugh Pugh. He was ordained in Llandrillo and moved to Mostyn, where we bring his history to notice.
John Humphrey. He was for a while a lay preacher in this church. He emigrated to America, where he did very well and he died at a great age.
David S. Thomas. He was educated in Bala college and was ordained in Glandwr, Pembrokeshire, where he continues to live.
John E. Thomas. A brother to the above. He is now a student in Carmarthen college.
D. C. Jones, Abergwyli was raised in this church but as we mentioned in the history of Graig, Machynlleth, that is where he started preaching. Thomas Davies and Hugh P. Jones, are now lay preachers in the church.

 

BIOGRAPHICAL NOTES

  • HUGH LLOYD. He was born on September 11th, 1790, on a small farm called Bryngoleu, within two miles of Bala. His father, William Llwyd, was a deacon in the Calvinist Methodists in Talybont, near Bala. His father died when he was eight years old and after attending the school in Bala for a while, he was enrolled as an apprentice in learning the craft of tailoring. After he finished there, he went to Swinton, near Manchester, and we think that is where he came into contact with the Independents. # He returned to his country because of his health. He kept a school in different places and when he was keeping the school in Penystryd he was encouraged to start preaching. He moved from there to Groeslon, Anglesey, to keep a school and to preach, but in 1816, he received a call from the churches in Towyn, Llanegryn, and Llwyngwril, which had been without a shepherd for nearly two years, as a result of Mr Morgan's move to Machynlleth

* Dysgedydd, 1849. Page. 346
# Biography of Revd. Hugh Lloyd, Towyn, - an Independent, 1862. Page. 446.

489

  • Mr Lloyd was ordained in Llanegryn, on October 3rd, 1817. He dedicated himself with all his might towards the work, and his efforts were not in vain. During his life he established quite a lot of churches, but he never wanted to hold on to them. As soon as he realized that the church was able to support a minister on its own he encouraged it to do so. In 1836, he gave up the churches in Llanegryn, Llwyngwril, and Llanfihangel, but he continued to visit them while he could. In 1824, he married Miss Thomns, a virtuous young woman from Fishguard, who cherished him. He went into commercial business because the churches under his care were too weak to support him and whatever disadvantage this was to him as a preacher, it was a huge advantage to his influence as a public man in the town and gave him the opportunity to take his part in public in everything and to contribute towards all causes, which he would not have been able to do if he had had to live on what the churches were able to contribute towards his keep. No-one was more well known than he was. He was very prominent on the Health Board and the Britanic Schools and the Bible Society and his general knowledge and strong common sense gave him a great influence amongst everyone. He was very careful and cautious in every circumstance and always wanted to take the safest way and that kept him from rushing into things that didn't have borders. He was a genuine, dedicated friend and was loved by his most by his own people and the ones he knew best. He didn't reach heights as a preacher and didn't have the ability either, as his abilities were limited but he was a substantial preacher and his message was worth presenting.  He proved he was a faithful, careful shepherd. Even though he didn't depend on his people for his living and even though he served them with no recompense throughout his life, it didn't mean he was careless in his care for them, but he felt he was a responsible overseer for his master, and therefore, he made sure he was faithful. He was struck by paralysis some years before he died, which prevented him from speaking publicly, but he was still so full of the spirit of his work that he insisted on preaching even though his listeners understood very little of his sermon. During his last months he felt that his anchor was unshaken. On the Sunday before he died, he was asked by one of his friends whether he was able to reach out to Christ? " Reach out," he said, "not reach out, but to trust myself completely to his care." He died on September 25th, 1861, at the age of 71, and within three days he was laid to rest in the glade that was sacred to him in his later years, because that is where his loved ones were buried.
     

BRYNCRUG

Already translated etc, see /big/wal/MER/Tywyn/Hanes.html

489/490

"Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Dowyn. Dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Rhydyronen, pentref o fewn haner milldir i'r fan lle y sail y capel presenol. Bu yr achos yn y lle hwnw mewn gwedd flodeuog dros flynyddau, ac er y cynhelid yno bregethu cyson a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd, etto, elai yr aelodau i Dowyn i gymundeb. Trwy lafur Mr. Lloyd, Towyn, ac eraill o'r cyfeillion, yn enwedig Mr. Hugh Davies, Gwyndy, cafwyd lle i adeiladu addoldy ar brydles.* Mae y capel yn mesur wyth llath yn ysgwar. Galwyd ef Saron.

Agorwyd ef Awst 1af, 1837, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Jones, Aberhosan; S. Williams, Dinas ; E. Evans, Abermaw ; J. Roberts, Llanbrynmair, a J. Parry, Machynlleth. Ffurfiwyd eglwys yma yn ddioed wedi codi y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Towyn, ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddo fod, oblegid cyfyng yw y maes, ond y mae yn cryfhau ac yn ennill tir yn raddol, a'r eglwys a'i gweinidog yn cydweithio yn galonog.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

  • John Thomas. Aelod o Machynlleth ydoedd, ond yma yn cadw ysgol yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, ac y mae yn awr yn Abertawy.
  • Hugh D. Pughe. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Meifod. Symudodd i'r Drefnewydd, lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr ydym eisioes yn nglyn a'r eglwys hono wedi gwneyd byr grybwylliad am dano.
  • Robert Thomas. Bu yn efrydydd yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ei urddo yn Llanelltyd.
  • Lewis Jones. Yr oedd yn wr ieuangc cymeradwy, ond bu farw yn ieuangc."

  * Llythr Mr Isaac Thomas

PENNAL

Pentref bychan mewn dyffryn prydferth ar y ffordd o Fachynlleth i Aberdyfi ydyw Pennal, o fewn pedair milldir i'r lle blaenaf a enwyd. Megis y crybwyllasom yn hanes Machynlleth, y mae yn ymddangos  Mr William Jones bregethu yma yn ystod y tymor byr y bu yno, ac wedi hyny, pregethwyd yma gan Mr John Evans, a Mr Edward Francis. Yr oedd yma un hen wraig o'r enw Jane Davies, yr hon a fu farw tua phym-theng mlynedd yn ol, ac wedi bod gyda chrefydd am dair blynedd-a-thri-ugain. *

Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio y pryd hwnw, ac ychydig flynyddoedd cyn hyny yr oedd yr eglwys yn Machynlleth wedi ei chorpholi. Pregethid mewn gwahanol dai yn yr ardal, a choffeir yn arbenig byddai pregethu weithiau yn Nantygwasanaeth, ty bychan ar dir y foneddiges ragorol, Mrs Anwyl, Llugwy. Mae y ty y dechreuwyd pregethu yn sefydlog ynddo yn Mhennal yn sefyll etto yn nghanol y pentref. Dywedir y byddai yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn cydaddoli ynddo, ac yn gwbl heddychlawn a brawdol. Elai yr aelodau oedd yma i'r Graig, Machynlleth, i gymundeb, ac arferai yr hen frodyr a'r chwiorydd sydd wedi blaenu, adrodd mor felus fyddai y gyfeillach ar y ffordd wrth fyned i a dychwelyd o Fachynlleth, ac yr elai y pedair milldir heibio bron heb yn wybod iddynt. Ar sefydliad Mr James Griffith yn Machynlleth, yn 1807, y dechreuodd yr achos yma ymffurfio i ryw drefn, a dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd, er na ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Wedi ymadawiad Mr Griffith, nid oedd y gangen yn Pennal, ol adroddiad un hen frawd o'r enw Hugh Dafydd, yn gwbl unol a Machynlleth ac Aberhosan, i roddi galwad i Mr D. Morgan, ond ymddengys iddynt yn fuan syrthio i mewn ar dewisiad, ac ni bu un gangen o'r eglwys

* Llythyr Mr. Morris Davies, Pennal.

491

yn ffyddlonach i Mr Morgan, nag y bu y gangen yn Pennal dros holl ystod ei arosiad yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu capel yn y man lle y saif y capel presenol, ar brydles o gan' mlynedd, gan Mr John Jones, siopwr, Machynlleth, am yr ardreth flynyddol o saith swllt. Dyddiad y weithred ydyw, Mawrth 9fed, 1816, a'r ymddiriedolwyr cyntaf oedd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a D. Morgan, Machynlleth. Aeth traul adeiladiad y capel yn £120. Agorwyd ef yn nechreu haf 1816, a phregethwyd gan Dr. Lewis, Llanfyllin, Meistri J. Roberts, Llanbrynmair ; A. Shadrach, Talybont ; M. Jones, Llanuwchllyn, a W. Morris, a J. Ridge, myfyrwyr yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1833, helaethwyd y capel, a chostiodd hyny £92, yr hyn a deimlid yn faith, gan fod yr hen ddyled heb ei chwbl dalu. Talwyd ychydig o'r ddyled cyn ymadawiad Mr Morgan, ond yr oedd £90 yn aros rhwng yr hen a'r newydd, pan symudodd ef yn niwedd 1836. Cafwyd ail brydles, gydag ymddiriedolwyr newyddion, a dyddiad hono ydyw, Tachwedd 9fed, 1836, a'r ymddiriedolwyr newyddion oedd Meistri D. Morgan, Machynlleth ; Thomas Jones, Pumwern ; Daniel Evans, Penmaenisaf; Morris Davies, Cefnllecoediog ; John Harri, Cwrt; Samuel Roberts, a John Roberts, Llanbrynmair; John Williams, Dinas ; Hugh Morgan, Sammah, ac Evan Griffith, Llanegryn. Bu gweinidogaeth Mr Morgan o wasanaeth anmhrisiadwy i'r ardal hon am y ddwy-flynedd-ar-hugain y llafuriodd yma. Gwreiddiwyd yma lawer yn y gwirionedd trwy ei offerynoliaeth, ac y maent yn parhau i ddal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

Yn haf 1837, daeth Mr. John Parry, i fod yn weinidog yn Salem, Machynlleth, a chymerodd ofal yr eglwys yma, a bu yn egniol a gweithgar yma am fwy na blwyddyn. Talwyd £60 o'r ddyled yn y cyfamser, ac ar gais Mr Parry, y dechreuwyd myned trwy y gymydogaeth i gasglu at yr achos Cenhadol, ac y mae yr arfer yn parhau etto. Rhoddodd Mr Parry yr eglwys hon a'r eglwys yn Rhiwgwreiddyn i fyny, oblegid fod y maes yn rhy eang iddo, a rhoddwyd galwad i Mr William Roberts, myfyriwr yn Marton. Daeth yma y Sabboth cyntaf o Ionawr, 1839, a phregethodd oddiar y geiriau " 0 fewn y flwyddyn hon y byddi farw ? " gyda nerth mawr.  Urddwyd. ef Mehefin 15fed, 1839. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; holwyd y gofyniadau gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; gweddiwyd gan Mr H. Lloyd, Towyn ; pregethodd Mr J. Williams, Aberhosan, i'r gweinidog, a Mr M. Jones, Llanuwchllyn, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri E. Hughes, Penmain ; T. Griffith, Rhydlydan ; H. Morgan, Sammah ; O. Thomas, Talysarn; D. Price, Penybontfawr; M. Ellis, Talybont; J. Roberts, Llanbrynmair ; R. Jones, Ruthin ; E. Griffith, Llanegryn ; R. Jones, Llwyngwril ; J. Humphreys, Towyn ; H. James, Dinas, ac eraill.* Bu Mr Roberts yma yn llwyddianus iawn, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd ugeiniau at rifedi yr eglwys. Cynhelid cyfarfodydd gweddio am chwech o'r gloch y boreu ddyddiau gwaith, a deuai dynion iddynt o fodd eu calon cyn myned at eu gorchwylion. Ymadawodd Mr Roberts i Benybontfawr yn nechreu 1841. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr Roberts, rhoddwyd galwad  Mr Grey Evans, yr hwn a fuasai am dymor yu yr ysgol gyda Mr R. P. Griffith, Pwllheli. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Awst, ac urddwyd of Hydref 15fed, 1841 ; ar yr achlysur, preg-

* Dysgedydd, 1839. Tudal. 266

492

ethwyd ar natur eglwys gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn ; holwyd y gweinidog gan Mr H. Lloyd, Towyn, dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr R. P. Griffith, Pwllheli, ac i'r eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri E. Griffith, Llanegryn ; J. Roberts, Llanbrynmair ; J. Williams, Aberhosan ; H. Morgan, Sammah ; J. Howes, Machynlleth ; H. James, Brithdir ; W. Davies, Talybont, ac eraill. Yr oedd brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri pan ddaeth ef yma, fel y cafodd dymor lled galed yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwelodd radd o lwyddiant cyn ei ddiwedd. Bu yn dra ymdrechgar, a llwyddodd  lwyr symud y ddyled oedd ar y capel. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr David Evans, aelod o Hermon, Conwil, Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Morgan, Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau gan Mr H. Lloyd, Towyn ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr W. Davies, Machynlleth ; pregethodd Mr H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Owen, Llanegryn; E. Hughes, Penmain ; I. Thomas, Towyn, ac O. Thomas, Talybont.* Ni bu Mr. Evans yma ond tua dwy flynedd, canys dychwelodd i Sir Gaerfyrddin, ac er nad oes gofal gweinidogaethol arno, mae yn pregethu lle y gelwir am dano, ac yn aelod yn Siloam, Pontargothi. Bu yr eglwys yma am yn agos i ddeng mlynedd, wedi ymadawiad Mr Evans, heb sefydlu ar weinidog. Am rai blynyddoedd byddai Mr S. Edwards, Machynlleth, neu Mr I. Thomas, Towyn, yn gofalu am y cymundeb yma, a bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol, yn enwedig yn y blynyddoedd 1858 a 1859, pryd yr ymwelodd yr Arglwydd a'r eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi ein gwlad, a diwygiad nerthol, a dywed un o ddynion craffaf yr eglwys wrthym, mai y diwygiad mwyaf bendithiol a welodd yn ei oes ydoedd, yn enwedig yn ei ddylanwad ar grefyddwyr llesg a gweiniaid. Gwnaeth lawer o honynt yn well dynion dros eu hoes. Yn gynar yn y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr William Perkins, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr Josiah Jones, Machynlleth ; holwyd y gweinidog gan Mr D. Price, Aberdare ; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr S. Edwards, Machynlleth ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y dydd gan Meistri D. Rees, Talybont ; I. Thomas, Towyn , R. Ellis, Brithdir ; W. Rees, Corris, ac R. P. Jones, Llanegryn. # Mae Mr Perkins yn parhau  lafurio yma gyda derbyniad mawr. Adeiledir yma yn awr gapel newydd hardd yn y fan lle y safai yr hen gapel. Rhoddwyd y gareg sylfaen  lawr Gorphenaf 12fed, 1870. Mae yn ddwy droedfedd a deugain a chwe modfedd o hyd, ac yn ddeuddeg troedfedd ar hugain o led, yn cynwys eisteddleoedd i bedwar cant. Bernir na bydd y draul erbyn ei orphen yn ddim llai nag £1100. Mae Mr Morris Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys wedi rhoddi y tir yn rhad, gwerth £107, ac yn addaw £50 mewn arian heblaw hyny. Mae golwg addawus ar yr achos yma yn ei holl ranau.

* Dysgedydd, 1853. Tudal. 316.   # Dysgedydd, 1865. Tudal. 236.

493

Mae yma amryw o bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, a adawodd ddylanwad er daioni ar y cylchoedd y buont yn troi ynddynt. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am y foneddigcs rinweddol, Mrs Anwyl, Llugwy, yn nglyn a Machynlleth. Hugh Pugh, o'r Ynys, a'i deulu, a fuont hefyd yn golofnau o dan yr achos yma. Crybwyllir yn arbenig am John Lloyd, hefyd, fel dyn deallgar yn mhethau yr efengyl. Yr oedd wedi astudio golygiadau Dr. Edward Williams, gyda llawer o fanylwch, ac yn deall Penarglwyddiaeth a Dwyfol Lywodraeth yn well na'r rhan fwyaf. Crefyddwr gwastad ydoedd - rhedai yn gyffelyb bob amser. Yr oedd brawd iddo o gyffelyb dymer, Thomas Lloyd, yn aelod a diacon yn eglwys y Towyn.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

  • William Rees. Un o gymydogaeth Aberhosan ydoedd. Dywedir iddo fyned i'r athrofa i Wrecsam, ond nis gallasom gael dim o'i hanes ar ol hyny.
  • Robert Edwards. Mab Cefncynafal fach. Ni bu nemawr o lwyddiant arno fel pregethwr. Ymadawodd at yr Eglwys Sefydledig, a bu yn ysgolfeistr, ac o'r diwedd ymfudodd i America.

Derbyniwyd yma amryw eraill yn aelodau, ond ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu - John Humphreys, Towyn; John Williams, Aberhosan ; David Knowles, yn awr o Iowa, America, yr ydym yn deall mai yn Mhenybontfawr y dechreuodd ef bregethu pan yno yn cadw ysgol. David Edwards, Pilton Green, ac eraill, a dderbyniwyd yn aelodau yma, er mai ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, Meistri Morris Davies, a J. Jones, Felinganol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

GREY EVANS. Ganwyd ef yn Llanerchymedd yn y flwyddyn 1815, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod. Symudodd i Sir Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth, ac ymaelododd yn Mhenygroes, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddoedd yn pregethu yn gynorthwyol, heb fod neb yn meddwl yr ymgodai yn ddim uwch na hyny. Yn 1839, aeth ar daith trwy y Deheudir, ac ar ol dychwelyd, aeth i'r ysgol i Bwllheli, at Mr R. P. Griffith, lle y bu dros ychydig, ond ni wnaeth ond ychydig gynydd mewn dysgediaeth. Yn 1841, cafodd alwad o Pennal, ac urddwyd  Hydref 15fed, y flwyddyn hono. Bu yn ddiwyd a ffyddlon yn y weinidogaeth tra y parhaodd ei dymor. Yr oedd yn ddyn cywir a diddichell, unplyg iawn yn mhob peth. Er nad oedd ei ddarlleniad yn eang, na'i dalentau yn gryfion, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd, a rhyw dynerwch yn ei lais, a phregethai ar brydiau yn dra effeithiol. Yn ei amser ef y codwyd capel yn Aberdyfi, a bu yn dra ymdrechgar i gasglu ato, ac er i ryw anghydwelediad godi rhyngddo a rhai cyfeillion yn Aberdyfi, fel y barnodd yn oreu i ddatod ei gysylltiad a'r lle, etto yr oedd ei ofal yn fawr am dano, a dymunodd ar weinidogion Towyn i gymeryd ato. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac ar ol ychydig fisoedd o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Cymerwyd ei weddillion marwol i fynwent Hen Gapel, Llanbrynmair, a chladdwyd ef yn barchus. Cyn cychwyn o Bennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd Meistri S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgan, Sammah; J. Owen, Llan-

494  

egryn ; H. Lloyd, ac I. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont, ac S. Edwards, Machynlleth. Gadawodd weddw ac un plentyn ar ei ol, ac y mae y weddw wedi ei chladdu bellach er's blynyddau, ond y mae " Tad yr amddifaid" wedi gofalu am ei unig ferch.

ABERDYFI

(Tywyn parish)

Tref fechan brydferth ar lan y mor yn nghwr De-orllewinol i'r sir ydyw Aberdyfi. Mae yn un o'r lleoedd mwyaf swynol yn Ngogledd Cymru, ond hyd yn ddiweddar iawn nid oedd gan yr Annibynwyr yr un man i dderbyn aelodau eu henwad a ddeuai yma.  Elai ambell un i Dowyn ar Sabboth cymundeb, ond aeth llawer eraill o bryd i bryd at y gwahanol enwadau oedd yma eisioes. Yn y flwyddyn 1839, wedi  Mr William Roberts ddechreu ei weinidogaeth yn Mhennal, sefydlodd ei lygaid ar Aberdyfi, fel lle y dylasai fod achos ynddo gan yr Annibynwyr. Ymgynghorodd Mr Roberts a Mr Lloyd, Towyn, ond gan ei fod yn orochelgar, ni roddodd un gefnogaeth i'w gyfaill ieuangc; ond nid gwr i'w droi heibio felly oedd Mr Roberts, ond heb betruso dim ymofynodd am le y gallasai gadw oedfa ynddo. Agorodd Thomas Walter ddrws ei dy iddo, a phregethodd yno am y waith gyntaf Mawrth 9fed, 1840, i lonaid y ty o wrandawyr astud. Addawodd ddyfod drachefn yn mhen y pythefnos, ond dymunodd y bobl arno ddyfod yn mhen wythnos, felly fu, a pharhaodd i ddyfod yma yn wythnosol dros dymor. Cynygiwyd iddo gapel y Methodistiaid, a chapel y Wesleyaid i bregethu * ynddo, ond gwrthododd eu cynygion caredig, am fod yn  fryd i godi achos Annibynol yn y lle. Cymerwyd ystafell yn nhy Evan Rowlands, Cigydd, am yr ardreth blynyddol o ddeg-swllt-ar-hugain. Wedi dechreu pregethu yn yr ystafell hon, cadwyd cyfeillachau ar ol yr oedfaon, a thueddwyd rhai o'r gwrandawyr i aros ar ol, fel yr oedd yma yn mhen ychydig o wythnosau gryn nifer o ddychweledigion. Penderfynwyd ffurflo eglwys yma, yr hyn a wnaed Awst 23ain, 1840, a derbyniwyd pymtheg o'r newydd yn gyflawn aelodau. Cynyddodd yr achos yn gyflym, fel erbyn y mis Mai canlynol yr oedd rhifedi yr aelodau yn ddeg-ar-hugain. Bu Thomas Walter, ac Evan Rowlands, a'u teuluoedd, ac eraill, yn hynod garedig i'r achos, a dangosodd Thomas Anwyl, Dyffryngwyn, diacon gyda Mr Lloyd yn Towyn, lettygarwch cynes i'r rhai a ddeuai yma i bregethu. *

Yn yr adeg obeithiol yma ar bethau, derbyniodd Mr Roberts alwad o Llanrhaiadr a Phenybontfawr, a symudodd yno, yr hyn oedd yn siomedigaeth ddirfawr i'r achos ieuangc yma yn arbenig. Wedi ymadawiad Mr Roberts, gan nad oeddynt yn cyduno a Phennal yn eu dewisiad o Mr Grey Evans, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr Evan Griffith, Llanegryn, yr hwn a ddeuai atynt yn fisol, ond oblegid pellder ffordd, nid oedd Mr Griffith yn gallu rhoddi y sylw a ddylasai achos newydd gael. Rhoddodd Mr Griffith hwy i fyny, a chymerodd Mr Grey Evans eu gofal, a bu yn nodedig o ffyddlon yn gofalu am danynt. Barnwyd fod yn angenrheidiol cael capel newydd, a chafwyd tir i'w godi arno gan Mr Thomas Lewis, Glasbwll. Agorwyd ef rywbryd yn 1845, nis gallasom gael y dyddiad, ond dywedir mai Meistri S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair, ac O. Thomas,

* Llythyr Mr W. Roberts.

495

Talybont, a bregethodd ar yr achlysur. Yr oedd yr hen efengylwr teithiol, Richard Jones, Llwyngwril, wedi pregethu ynddo unwaith cyn diwrnod yr agoriad cyhoeddus. Bu Mr Evans yn ffyddlon a llwyddianus i gasglu er talu dyled y capel, a chafodd Mr Micha Jones, Cefncrib, Pennal, yn gynorthwywr ffyddlon. Talwyd yr holl ddyled, ond £20 oedd yn ddyledus i Richard Jones, Llwyngwril. Arferai Richard Jones bregethu yma yn fisol, a gofynodd am ganiatad i fyned i gasglu yr £20  bob lle y cai dderbyniad. Aeth yn nghyd a'r gorchwyl, gan eu casglu bob yn ddimai - ni fynai ond dimai gan neb at yr amcan, a chyn pen ychydig amser yr oedd yr £20 oll wedi eu casglu, a'r ddyled felly wedi ei chwbl dalu. Dirywiodd yr achos gryn lawer rhagor y peth a fuasai unwaith, a chododd ryw anghydwelediad rhwng Mr Grey Evans a'r eglwys yma, a rhoddodd ef y lle i fyny, a chymerodd Mr Lloyd a Mr Thomas, Towyn, y gofal yn Medi, 1851, ac mewn cysylltiad a gweinidogaeth Towyn a Bryncrug y bu hyd Mai, 1864. Pedwar oedd yn cymuno yma pan ddechreuodd Mr Thomas, Towyn, yma yn 1851, gan mor isel yr oedd yr achos wedi disgyn, ond gwelodd hwy wedi hyny yn fwy na thriugain-a-deg. Unodd yr eglwys yma a Pennal i roddi galwad i Mr William Perkins, yn 1865, ac y mae yr undeb yn para rhwng y ddwy eglwys ag yntau etto, a'r anwyldeb yn ymddangos yn cryfhau. Mae y lle y saif y capel presenol arno yn dra anghyfleus, ac y mae llawer o gynllunio a bwriadu wedi bod at gael capel newydd mewn lle mwy manteisiol, a hyny a wneir os caniata Duw. Mae yma eglwys fywiog a gweithgar, yn rhifo tua thriugain o aelodau. Y diaconiaid presenol ydynt Meistri J. H. Jones, J. Roberts, ac H. Pugh. Nid ydym yn gwybod fod un pregethwr wedi codi yma, ac am y gweinidogion a fu mewn cysylltiad a'r eglwys hon, y rhai sydd wedi marw, yr ydym eisioes wedi crybwyll am danynt yn nglyn a Thowyn a Pennal.

Translation by Eleri Rowlands (4/2021)

Aberdyfi is a little town in the south-western corner of the county. It is one of the most pleasant places in North Wales, but, until recently, the Independents didn't have one place in which to accept members who came to live here.  The occasional one would go to Tywyn on a communion Sabbath, but many others went from time to time to the different denominations that were already here. In 1839, after Mr William Roberts started his ministry in Pennal, his eye fell on Aberdyfi, as a place that should have an Independent cause. Mr Roberts consulted Mr Lloyd, Towyn, but since he was over-prudent, he didn't give his young friend any support; but Mr Roberts wasn't a man to be turned away, and without worrying about it he enquired about a place in which he could hold a service. Thomas Walter opened his door to him, and he preached there for the first time on March 9th, 1840, to a full house of attentive listeners. He promised to call again within a fortnight, but the people begged that he return within a week, and so it was, and he continued coming here weekly for a while. The Methodist chapel and the Wesleyan chapel were offered to him, in which to preach * but he refused their kind offers, as he wanted to open an Independent cause in the place. He took a room in Evan Rowlands, the butcher's house, for an annual rent of thirty shillings. Once he had started preaching in this room, fellowships were held after the services, and some of the listeners tended to stay on, so that within a few weeks there were quite a lot of returners. The decision was made to form a church here, which happened on August 23rd, 1840. Fifteen new members were accepted to full membership. The cause increased quickly, so that by the following May the number of members reached thirty. Thomas Walter, and Evan Rowlands, and their families, and others, were incredibly kind to the cause, and Thomas Anwyl, Dyffryngwyn, a deacon with Mr Lloyd in Towyn, showed warm hospitality to those who came here to preach. *

At this optimistic time, Mr Roberts accepted a call from Llanrhaiadr and Penybontfawr, and he moved there, which was a great disappointment to this young cause. After Mr Roberts left, since they did not agree with Pennal in their choice of Mr Grey Evans, they placed themselves in the hands of Mr Evan Griffith, Llanegryn, who came to them monthly, but as a result of the distance, Mr Griffith was unable to give them the attention that they should have had as a young cause. Mr Griffith gave them up, and Mr Grey Evans took over their care. He was extremely faithful in caring for them. It was judged necessary to build a new chapel, and Mr Thomas Lewis, Glasbwll obtained land to for them. It was opened sometime in 1845. We cannot find the date, but it is said that Messrs S. Roberts, and J. Roberts, Llanbrynmair, and O. Thomas,

* Mr W. Roberts' letter.

495

Talybont, preached on the occasion. The old travelling Evangelist, Richard Jones, Llwyngwril, had preached there once before the public opening day. Mr Evans was faithful and successful in collecting in order to pay the chapel debt, and Mr Micha Jones, Cefncrib, Pennal, was found to be a faithful supporter. The whole debt was paid, but there was £20 which was outstanding to Richard Jones, Llwyngwril. Richard Jones used to preach here monthly, and he asked for permission to collect the £20 everywhere that accepted him. He carried out the task, collecting a halfpenny at a time - he would accept only a halfpenny from all, and within a short time the whole £20 had been collected, and the debt had been completely paid. The cause declined a great deal compared with what it used to be, and a disagreement arose between Mr Grey Evans and the church here, and he gave up the place, and Mr Lloyd and Mr Thomas, Towyn took over the care in September, 1851. It joined up with the ministry in Towyn and Bryncrug until May, 1864. When Mr Thomas, Towyn, started in 1851, just four met here, since the cause had declined so much, but after that it grew to more than seventy. This church and Pennal united in sending a call to Mr William Perkins, in 1865, and the union between the churches and him continues, and the fellowship seems to be getting stronger. The place where the present chapel stands is rather inconvenient, and there has been much discussion and planning towards having a new chapel in a more advantageous place, and that will happen if God wills it. It is now a lively, hard working church, which numbers about sixty members. The present deacons are Messrs J. H. Jones, J. Roberts, and H. Pugh. We know of no ministers that have been brought up in this church, and of those who have been connected with it, those who have died, we have already mentioned them in connection with Towyn and Pennal.

  

LLWYNGWRIL

(Llangelynin parish)

Mae enw y lle bychan hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru, yn nglyn a'r hen bregethwr parchus Richard Jones, Llwyngwril, ac y mae hanes cychwyniad yr achos yma yn gymhlethedig a'i hanes personol ef. Yr oedd Richard Jones wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond oblegid i'w frawd William wneyd rhywbeth, fel y tybid, yn galw am gerydd, tramgwyddodd y teulu ac ymadawsant a'r enwad. Dywed Lewis Morris, yr hwn oedd yn adwaen Richard Jones o'i febyd, nad oedd dim amgen na da i'w ddyweyd am dano, ond iddo deimlo oblegid y tybiai fod ei frawd yn cael cam. Ar ol hyn gwahoddodd Richard Jones Mr H. Pugh, o'r Brithdir, i ddyfod yma i bregethu, a dyna gychwyniad yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma eglwys yn y flwyddyn 1805, a chadwyd y cymundeb cyntaf gan Mr W. Hughes, Dinas. Nid oedd nifer y rhai a ymunent ond chwech, ac yr oedd Richard Jones, a Lewis Evans, Bwlchgwyn, a'i wraig, (tad a mam Mr Evans, Llangollen,) yn eu plith. Daeth Lewis Pugh, yma i gadw ysgol yn fuan, a bu hyny yn gynorthwy i'r achos yn ei wendid. Ar sefydliad Mr James Griffith yn weinidog yn Machynlleth, cymerodd ef ofal y gangen fechan yma, ac yn ei amser ef yn 1810, y codwyd yma gapel bychan. Nid oedd ganddynt hyd yn hyn ond ystafell wael at addoli. Bu y lle yma wedi hyny dan yr un weinidogaeth a'r

496  

Towyn yn amser Mr Morgan a Mr Lloyd, and pan y gwelodd Mr Lloyd fod y maes yn rhy eang iddo, unodd Llwyngwril, Llanegryn, a Llanfihangel i roddi galwad i Mr Evan Griffith, yn hwn a urddwyd Ionawr 3ydd, 1836, a bu yma hyd nes y penderfynodd ymfudo  America. Dilynwyd ef gan Mr John Owen, ac wedi hyny, gan Mr Robert P. Jones, ac yn nhymor gweinidogaeth yn olaf a enwyd, ad-drefnwyd a phrydferthwyd y capel, fel y mae yn awr yn wahanol lawn i'r peth y gwelwyd ef. Rhoddodd Mr Jones y lle i fyny yn ddiweddar, gan anog yn eglwys yma uno ag Arthog i gael gweinidog iddynt eu hunain, a rhoddwyd galwad  Mr Peter Dayies, myfyriwr o athrofa y Bala, yn hwn a urddwyd Mai 9fed, 1871. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae cryn dipyn o adfywiad wedi bod ar fasnach, a chynydd ar y boblogaeth yma wedi agoriad y ffordd haiarn, ac nid yw hyny wedi bod yn anfantais i'r achos. Bu teulu Bwlchgwyn yn gefn cryf i'r achos yma am flynyddau lawer, ac er fod ganddynt bedair milldir o ffordd, anaml y byddai cyfarfod yn y capel heb rai o'r teulu ynddo. Yr oedd Richard Jones yn gynorthwy mawr i'r achos yma yn y cyfeillachau crefyddol cyn iddo ddechreu teithio y wlad i efengylu, ond ar ol hyny nis gallesid dibynu arno, oblegid mai anfynych y byddai. gartref. Bu Mr H. Pugh, o Fostyn yma yn cadw ysgol pan yn ieuangc, ac oddiyma yr aeth i Bethel i gadw ysgol, ac i weinidogaethu, lle y llafuriodd am un-mlynedd-ar-ddeg.

RICHARD JONES, hyd y gwyddom, oedd yn unig un a godwyd yma  bregethu. Ganwyd ef yn y gymydogaeth yma, ac yn oedd ei rieni John a Gaynor Williams yn byw mewn tyddyn a elwir Tydu, ac fel Richard Jones, Tydu, yn adnabyddid ef yn ei wlad. Yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo er yn fachgen, ond yn oedd yn hynod o anfedrus yn mhob gorchwyl yn ymaflai ynddo. Ni bu dyn erioed yn fwy dielfydd at bob gwaith. Gosodwyd ef gyda'i frawd  ddysgu bod yn grydd, a bu yn dilyn yn alwedigaeth hono am flynyddau, ac yn mynychu ffeiriau i werthu yn esgidiau a wnai, y rhai a gyfrifid yn wastad y rhai salaf ar y farchnad. Ond yr oedd gallu o fath arall yn Richard Jones - mewn egluro yr Ysgrythyrau - mewn cynghori a gweddio mewn cyfeillachau a chyfarfodydd - ac mewn cof  ddal y pregethau a wrandawai, a medr i'w hadrodd, rhagorai ar ei holl gymydogion. Dechreuodd bregethu tua'r fiwyddyn 1817, ac o hyny allan, i bregethu y cwbl ymroddodd. Yr oedd wedi darllen pob llyfr Cymraeg a ddaeth i'w gyrhaedd, yn enwedig llyfrau Ysgrythyrol a duwinyddol, ac yr oedd yn mynu deall yn hyn a ddarllenai. Y pyngciau hyn fyddai prif destynau ei ymddiddanion lle bynag yn elai. Ni bu yr un pregethwr teithiol erioed yn Nghymru yn ymyraeth llai a materion rhai eraill, ac ofer hollol fuasai i neb ei holi gan ddisgwyl gwrachiaidd chwedlau ganddo. Nid angel newyddion drwg ydoedd yn myned trwy y wlad, ond un "yn efengylu pethau daionus." Yr oedd wedi myfyrio y " system newydd," fel ei gelwid, yn dda, a byddai yn wastad yn prophwydo yn ol " cysondeb y ffydd." Yr oedd ei dafod yn floesg, fel na allasai swnio rhai llythyrenau yn gywir, ac yr oedd hyny weithiau yn peri digrifwch mawr i rai pobl ysgafn a chellweirus. Ni theimlasom ni erioed wrth ei wrandaw fod ei dafod mor floesg ag y darlunir ef gan rai sydd yn ei adrodd, ond dichon fod hyny yn cyfodi oddiar fod ei bethau yn ein boddio mor fawr. Yr oedd ei bregethau yn llawn o feddwl, ac wedi eu parotoi yn gryno, a threfnus, gyda detholiad o eiriau chwaethus, ac ambell air digrifol ar brydiau. Traddodai yn fywiog a chyflym, ac yn oedd rhyw oslef dyner, swynol yn

497

ei lais, ac erioed ni chwynwyd ei fod yn blino ei wrandawyr a meithder. Gan mai fel pregethwr teithiol y daeth Richard Jones yn adnabyddus i eglwysi Cymru, rhoddwn y difyniadau canlynol o'r benod ar ei gymeriad fel y cyfryw, yn y cofiant dyddorol iddo, a gyhoeddwyd gan ei hen gyfaill, Mr E. Evans, Llangollen. "Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bod angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gof mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril,  hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhraai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw ef yn cychwyn i'w ffordd, a'i got fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed a llangc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbio yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus, ni chyhuddid of un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd gyda'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, fe allai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun a rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosau, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais, a phan ddeallai ei bod yn amser priodol  gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn etto, eisteddwch, y mae yn ddigon buan, ni ddaw yma ddim pobl y rhawg etto." Dyma fi yn myn'd,' meddai yntau, 'dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther.' Ofer fyddai ei berswadio  aros wrth undyn - ffwrdd ag ef yn ddiymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn wr tew a chorphol. Codai ei' olwg ar yr areithfa, ac os digwyddai ei bod yn lled uchel, dywedai, "Daf fi ddim yna, ni dda gen i mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli - bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn' nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed."Dyna fo, Richard Jones.' Yna efe a safai arno a'r Bibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan benodol ynddo a ragfwriadasai efe ddarllen. Darllenai y benod neu y Salm gan ei hesbonio wrth fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd  blant yr Ysgol Sabbothol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuangc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai  esbonio, oblegid buan iawn yr anghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreu y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn golledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned trwy hyn, rhoddai benill allan.  Ac os digwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei

 

CONTINUED