Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books See main project page

MERIONETHSHIRE   (Vol 1)

Pages 512 -518

Proof read by Maureen Saycell (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) LLANDRILLO (with translation)
  • CORWEN  (with translation)

 


Pages  512 -518

512

(Continued) LLANDRILLO

William Fairclough. Ond yn y flwyddyn 1826, cafwyd tir ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. T. Jones, clochydd, Corwen, am £12/1/00 yn y flwyddyn o ardreth, a chyflwynwyd ef i Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn ; J. Ridge, Bala ; C. Jones, Dolgellau ; E. Davies, Traws-fynydd ; S. Roberts, Llanbrynmair ; J. Jones, Syrior ; T Jones, Braichdu ; J. Jones, Penygeulan; D. Owen, Tyuchaf, a W. Jones, Penygeulan Glynarthen, wedi hyny - fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Hananeel. Agorwyd ef Gorphenaf 3ydd, 1827, a'r un pryd ag agoriad y capel, urddwyd Mr Hugh Pugh i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, fel y crybwyllasom yn hanes Rhydywernen. Bu Mr Pugh yma yn ymdrechgar hyd 1837, pan y symudodd i Mostyn. Nid oedd yr achos yma yn gryf, ond bu yma rai yn ffyddlon iddo yn ei wendid. Am flynyddau wedi ymadawiad Mr Pugh, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, ond yr oedd y gofal yn benaf ar Mr Thomas Davies, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac a wir ofalai am y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Nghorwen, a Chynwyd, alwad i Mr John Evans, yr hwn am lawer o flynyddau a fuasai yn weinidog yn Beaumaris, Mon. Yr oedd Mr Evans yn oedranus pan ddaeth yma, fel nad oedd ynddo yr yni oedd yn ofynol gydag achosion newydd a gweiniaid, ond yr oedd yn barchus a chymeradwy gan bawb. Unwaith yn y mis y deuai yma, fel nad oedd yr eglwys hon yn cael fawr o'i lafur. Yn mhen ychydig flynyddoedd, rhoddodd yr eglwysi i fyny, a dychwelodd i Beaumaris, lle yr arhosodd weddill ei oes. Yn niwedd y flwyddyn 1850, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr Humphrey Ellis, Llangwm, ac y mae efe yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn ystod ei weinidogaeth wedi ennill tir, a chasglu nerth, fel y mae golwg siriol arno. Mae amryw bregethwyr wedi codi yma. Perthyn i'r gangen hon yr oedd William Jones, er mai yn Bethel y pregethodd gyntaf. Yma hefyd y cododd Robert Fairclough i bregethu. Ond Thomas Davies, Pentre', yw y pregethwr sydd wedi bod hwyaf yn nglyn a'r eglwys, ac wedi bod o fwyaf o wasanaeth iddi o'r un a godwyd ynddi. Mae wedi treulio ei oes yma, ac wedi pregethu llawer, nid yn unig yma, ond hefyd trwy yr holl eglwysi cylchynol. Yn ddiweddar barnodd yr eglwys yma, a gweinidogion y Sir, yn briodol ei urddo i holl waith y weinidogaeth, gan fod yma gynifer o eglwysi, ac amryw o honynt fynychaf heb neb i weini yr ordinhadau iddynt. Cymerodd ei urddiad le yma Mehefin 2il, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Ellis, M. D. Jones, Bala; J. Peter, Bala ; D. Ll. Jones, Ruthin ; J. Jones, Abermaw ; R. P. Jones, Llanegryn ; R. Ellis, Brithdir ; E. A. Jones, Dolgellau ; E. Williams, Dinas ; E. Wynne, Soar; W. I. Richards, Abererch ; T. Jones Middlesborough, a J. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llan

Gwelodd yr achos yma wahanol dymhorau, ond y mae wedi dal ei dir, ac y mae yr achos yn fwy siriol yn awr nag y gwelwyd ef erioed. Coffeir yn barchus yma am Mr. John Petty, a'i wraig, y rhai a fuont yma am gryn dymor, ac yn llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Daeth Mr. Petty, o Cornwall, i'r Llwyn, Dolgellau, yn oruchwyliwr, ac wedi hyny bu yn amaethwr, ac yn cadw siop yma. Yr oedd wedi dysgu Cymraeg lled dda.* Bu yma eraill er nas gallasent wneyd llawer, etto a fuont ffyddlon yn ol eu gallu, ac nad a eu llafurus gariad yn anghof.

* Llythyr Mr T. Davies.

Translation by Eleri Rowlands (5/2020)

In 1814, John Jones, his wife, and family came here from the mill at Frongoch, near Bala, to live in the mill at  Llandrillo. Before they moved they used to worship in Ty'nybont and after they moved, some of the members from Ty'nybont started coming to their house in Landrillo, on weeknights to hold prayer meetings. John Jones, Hafodfawr, also joined them. He occasionally preached to them. Around the same time as the the family moved to the mill, a woman called Elizabeth Roberts came to live here from Llanuwchllyn. She was a member with the Independents. After this preaching was held here more often. Mr M. Jones, Llanuwchllyn and Mr J. Lewis, Bala, came to preach here and occasionally Dr. Arthur Jones, Bangor visited his brother in the area and he would preach each time he came. In 1818, William Fairclough rented a house to preach on a Sunday and to keep a day school. Mr M. Jones, Llanuwchllyn was responsible for the rent for the house. At this time Mr Moses Ellis - (afterwards from Mynyddislwyn) - came here  to keep a school and he was very useful in starting a cause here. A branch church was formed here within a year or two of taking that house for preaching and even though there were only a few pitiful, poor people starting the cause, Mr M. Jones was faithful in visiting them and he was assisted by Messrs J. Roberts, Capelgarmon; J. Lewis, Bala; J. Jones, Bancog; J. Jones, Hafodfawr and others. The family in Syrior were very kind to the cause and the Lord's blessing is on them today. In 1821, the cause moved to the old Methodist chapel and has been there for a while. It then moved again to a room attached to New Inn, which belonged to


512

William Fairclough. But in 1826, land was obtained on a lease of ninety nine years from Mr. T. Jones, a bellringer from Corwen, for £12/1/00 a year of rent, and he was introduced to Messrs Michael Jones, Llanuwchllyn; J. Ridge, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Traws-fynydd; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Syrior; T Jones, Braichdu; J. Jones, Penygeulan; D. Owen, Tyuchaf and W. Jones, Penygeulan Glynarthen - as trustees. The chapel was called Hananeel. It was opened on July 3rd, 1827, and on the same day it opened, Mr Hugh Pugh was ordained to be a co-minister with Mr Michael Jones, as we mentioned in the history of Rhydywernen. Mr Pugh stayed here diligently until 1837, when he moved to Mostyn. This cause wasn't a strong one but there were some people who were faithful in its weakness. For years after Mr Pugh left, the church depended on the help of lay ministers and preachers, but the care fell mainly on Mr Thomas Davies, who had started preaching and in fact supported the cause. At the beginning of 1842, this church and the churches in Corwen, and Cynwyd, sent a call to Mr John Evans, who had, for many years, been a minister in Beaumaris, Anglesey. Mr Evans was elderly when he came here, so he didn't have the energy that was needed for new causes and his service, but he was respected and lauded by all. This church didn't have much of his labour as he came here just once a month. Within a few years he had to give up the church and he returned to Beaumaris, where he spent the rest of his life. At the end of 1850, this church sent a call to Mr Humphrey Ellis, Llangwm, and he continues to labour here and the cause, during his ministry has gained ground and strength. Several preachers were raised here. William Jones belonged to this branch even though he preached in Bethel first. Robert Fairclough was also raised here. But Thomas Davies, Pentre', is the preacher that has been connected to the church the longest and has been of more service to it. He spent his life here and has preached a lot, not only here, but also throughout all the circuit of churches. Recently the church and the ministers of the county felt that it would be appropriate to ordain him to the whole work of ministry, since there are so many churches and several of them often with nobody to officiate to them at communion. His ordination took place here on June 2nd, 1870. On the occasion Messrs H. Ellis, M. D. Jones, Bala; J. Peter, Bala; D. Ll. Jones, Ruthin; J. Jones, Abermaw; R. P. Jones, Llanegryn; R. Ellis, Brithdir; E. A. Jones, Dolgellau; E. Williams, Dinas; E. Wynne, Soar; W. I. Richards, Abererch; T. Jones, Middlesborough, and J. Williams, a minister to the Calvinist Methodists in Llan officiated.
This cause saw different seasons, but it has managed to hold its ground and the cause is more comfortable now than ever. We respectfully remember Mr. John Petty, and his wife, who have been here a long time and have been hospitable to the preachers who called by. Mr. Petty, came from Cornwall, to Llwyn, Dolgellau, as an overseer  and afterwards a farmer and kept a shop here. He had learned Welsh quite well.* Some others were here although we cannot say much about them, but they were faithful according to their abilities and their labour will never be forgotten.


* Mr T. Davies' letter.

 

513

CORWEN

Yn nechreu y flwyddyn 1827, daeth Mr Robert Ellis, Caere, (Brithdir yn awr,) at William Roberts, Brynsaint, amaethdy yn ymyl y dref, ac aethant gyda'u gilydd a chymerasant lofft yn ngwesty y Queen, dan ardreth o dair punt y flwyddyn, er dechreu achos Annibynol. Gweithredai Mr Ellis, dan gyfarwyddyd eglwys Bethel, a hwy oedd yn gyfrifol am yr ardreth. Am ddau o'r gloch y Sabboth cyntaf yn Chwefror, daeth Mr Hugh Pugh ac a bregethodd yn y lle am y waith gyntaf. Ei destyn oedd Ioan ix. 4. - " Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd." Daeth Mr John Griffith, Rhydywernen - y pryd hwnw yn ddyn ieuangc - yma gyda Mr Pugh, i ddechreu canu, a daeth yma lawer gwaith ar ol hyny i gynorthwyo yr achos. Yn mis Mawrth canlynol, daeth Mr Michael Jones yma i ffurfio eglwys, a phregethodd ar 1 Pedr iii. 13. - " A phwy a'ch dryga chwi os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda ?" Saith oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad ; sef William a Jane Roberts, Brynsaint, a Mary, eu merch; John a Sarah Owen, Ty'nycefn; Elizabeth Williams, Llygadog, a Jane Davies, Penybryn, Corwen. Y cyntaf a dderbyniwyd yn aelod yma oedd Joseph Jones, Penybryn, yr hwn sydd etto yn aros yn ffyddlon. Gwan fu yr achos yma am flynyddau, ond deuai Mr Jones a Mr Pugh yma mor reolaidd ag y medrent, a chynorthwyid hwy gan eraill, Bu Mr Pugh am flynyddoedd yn cerdded yma yr holl ffordd o Goedybedo - pellder o ddeng milldir - bob pythefnos i gadw cyfeillach. Yr oedd y lle yr oeddynt yn cyfarfod ynddo i addoli yn anghyfleus, ond nis gallesid cael ei well, a gwnaed llawer cynyg am dir i godi capel arno, ond yn ofer, oblegid mai Toriaid ac Ucheleglwyswyr oedd yr holl berchenogion tiroedd o gylch yma. Wedi ymadawiad Mr Pugh i Mostyn, yn 1837, bu yr achos yma dan anfantais fawr, oblegid nad oedd neb yn arbenig i ofalu am dano. Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr Robert Jones, o Sir Fon. Urddwyd ef Ebrill 20fed, 1840. Ar yr achlysur, traethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr D. Price, Penybont. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri Jeremiah Jones, Llanfyllin, a John Jones, Parc, Penybont.* Yn y tymor byr y bu Mr Jones yma, sicrhawyd darn o dir trwy ddylanwad Mr John Jones (Glanalwen), Gibson Square, Llundain, i adeiladu capel arno. Eiddo Mr T. Lloyd, Llundain, oedd y tir, ac yn y flwyddyn 1841, cyflwynwyd ef i Meistri J. Jones, Gibson Square; J. Prichard, Corwen ; H. Davies, Penlan ; Joseph Jones, Corwen ; R. Evans, Corwen, ac R. Evans, Derwen, fel ymddiriedolwyr. Dangosodd Mr Jones, Gibson Square, ffyddlondeb mawr yn nglyn a chodi y capel. Rhoddodd £20 ei hun ato, a'r gweithredoedd yn rhad, a bu yn casglu ato oddiar ei gyfeillion yn Llundain. Cymerodd Mr Prichard, Harp Inn, ofal yr adeiladu, a bu yn ffyddlon gyda'r capel yn mhob peth, nes gweled y geiniog olaf o'r ddyled wedi ei thalu. Ni bu Mr R. Jones yma ond ychydig, gan nad oedd yr un o'r eglwysi eraill, a arferai fod dan yr un weinidogaeth, yn uno i roddi galwad iddo. Symudodd i Ceri, Sir Drefaldwyn, cyn diwedd 1841. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr John Evans,

* Dysgedydd, 1840. Tu dal. 287.

514

yr hwn oedd wedi bod am lawer o flynyddau yn weinidog yn Beaumaris, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Llandrillo a Chynwyd. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad, ac agoriad y capel newydd yr un pryd, sef Ebrill 12fed a'r 13eg, 1842; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Mostyn; T. Ellis, Llangwm ; D. Morgan, Llanfyllin; J. Parry, Wern ; D. Price, Rhos ; W. Thomas, Dwygyfylchi ; A. Jones, Bangor ; T. Griffith, Rhydlydan ; W. Roberts, Llanrhaiadr ; W. Rees, Dinbych; S. Jones, Maentwrog; D. Griffith, Ruabon; H. Ellis, Llangwm, a J. Griffith, Rhydywernen.* Bu Mr Evans yma dros rai blynyddoedd, ac yna dychwelodd i Beaumaris, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn y flwyddyn 1850, derbyniodd Mr Humphrey Ellis, Llangwm, alwad gan yr eglwys yma, a dechreuodd ei weinidogaeth Hydref 6ed, y flwyddyn hono, ac wedi llafurio yn ddiwyd, a chyda gradd o lwyddiant am bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwysi yn Nghorwen a Chynwyd i fyny, oblegid fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang iddo allu gofalu am dano i gyd. Rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghynwyd, alwad Mr John Lewis, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog iddynt, ac urddwyd  Gorphenaf 26ain, 1865. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, Bala ; holwyd y gofyniadau gan Mr I. Davies, Ruthin ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr R. Williams, Bethesda ; pregethodd Mr M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr H. Ellis, (eu cynweinidog,) i'r eglwysi. Bu Mr Lewis yma yn ymdrechgar hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Birmingham, ac hyd yma y mae y ddeadell hon heb fugail i fwrw golwg drosti.

Heblaw y personau a grybwyllwyd eisioes, bu yma eraill yn ffyddlon gyda'r achos, llawer o ba rai a hunasant, ond y mae yma rai etto yn aros. Bu teuluoedd Penlan a'r Harp, yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, a dangosodd Mr. J. Prichard ofal mawr, nid yn unig am y capel, ond am yr achos yn ei holl ranau ; a chyda'r Ysgol Sabbothol, anaml y gwelwyd ei ragorach. Mae Joseph Jones, yr aelod cyntaf a dderbyniwyd yma'i yn aros etto, ac yn ddiacon ffyddlon, a Robert Owen, Tanycelyn, yn gydswyddog ag ef, yr hwn a dderbyniwyd yn aelod yn 1840, ac a ddewiswyd yn ddiacon yn fuan wedi hyny, ac y mae yn parhau yn flaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

ROBERT JONES. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes i'w roddi. Yr oedd yn enedigol o Lanfwrog, yn Sir Fon, ac yn frawd i Thomas Jones, Amlwch, a Rees Jones, dau bregethwr pur adnabyddus yn eu tymor yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Cyfieithodd Thomas Jones lawer o lyfrau yn ei oes, ac efe a gyfieithodd Esboniad Scott. Yr oedd Rees Jones yn fwy poblogaidd fel pregethwr, a bu am ysbaid yn gweinidogaethu yn nghapeli Arglwyddes Barham, yn Browyr, Morganwg, lle y bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Nis gwyddom pa fodd, nac yn mha le, y daeth Mr. Robert Jones i gysylltiad a'r Annibynwyr, ond treuliodd lawer o flynyddoedd yn Lloegr, ac yno, fel y tybiwn, y dechreuodd bregethu. Lled ddiddawn ydoedd fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn gwybodus, ac wedi bod yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Daeth i Gorwen yn nechreu y flwyddyn 1840, ac

* Dysgedydd, 1842. Tu dal. 189.

515

urddwyd ef yn niwedd Ebrill, y flwyddyn hono. Gwrthododd pob un o'r eglwysi a arferai a bod dan yr un weinidogaeth, ag uno i roddi galwad iddo, ac un rheswm o leiaf am hyny, oedd y tywyllwch oedd o gylch ei hanes blaenorol. Yn Hydref, 1841, derbyniodd alwad o Ceri, gerllaw y Drefnewydd, ac aeth yno i ddechreu ei weinidogaeth, ond ar ol bod yno dros ychydig wythnosau, dychwelodd i Gorwen i ymofyn ei deulu. Pan ar ei daith gyda'i deulu yn agos i'r Nag's Head, rhwng y Trallwm a'r Drefnewydd, dymchwelodd y cerbyd, a chan fod Mr. Jones yn ddyn o gorph trwm, ysigwyd ef gymaint fel y bu farw yn mhen tridiau, (Rhagfyr 13eg, 1841). Dyoddefodd i boen mewn hollol ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Gadawodd weddw a thri o blant amddifaid heb ddim darpariaeth ar eu cyfer.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)

Early 1827 Mr Robert Ellis, Caere, now Brithdir, came to William Roberts, Brynsaint, a farm near the town. Together they rented an upstairs room in the Queens Hotel, for £3.00 per year, in order to set up an Independent cause. Mr Ellis operated under the direction of Bethel chapel, they also took responsibility for the rent. At 2 pm the first Sunday in February Mr Hugh Pugh was the first to preach here from John ix 4 -" While daylight lasts we must carry on the work of  him who sent me." Mr John Griffith, Rhydydwernen, came with Mr Pugh to help with the singing, the first of many visits. The next month, March, Mr Michael Jones came to form a church, he preached from 1 Peter iii 13 (appears to be 14 in the New English Bible, 1970) "Submit yourselves to every human institution for the sake of the Lord, .........................for the punishment of criminals and the commendation of those who do right." There were 7 members - William and Jane Roberts, Brynsaint, Mary, their daughter. John and Sarah Owen, Ty'nycefn. Elizabeth Williams, Llygadog, and Jane Davies, Penybryn, Corwen. The first to be confirmed was Joseph Jones, Penybryn, who remains faithful. The cause remained weak for years despite Mr Jones and Mr Pugh visiting as frequently as possible, the latter walking about 10 miles from Coedybebo every 2 weeks for socials. The place they worshipped was not ideal, but attempts to acquire land for building were frustrated by Tories and High Churchmen owning the land around. After Mr Pugh's departure to Mostyn in 1837 there was nobody to care for them. Early 1840 Mr Robert Jones, Anglesey, was called. He was ordained April 20th, 1840, those officiating were -  Mr T. Ellis, Llangwm, Mr M. Jones, Llanuwchllyn, Mr D. Price, Penybont. Sermons were given by Messrs Jeremiah Jones, Llanfyllin, and John Jones, Parc, Penybont.* In the short time he was here a piece of land was acquired to build on, through the influence of Mr John Jones (Glanalwen), Gibson Square, London. It was owned by Mr T Lloyd, London and in 1841 it was presented to the Trustees - Messrs J. Jones, Gibson Square, J. Prichard, Corwen, H. Davies, Penlan, Joseph Jones, Corwen, R. Evans, Corwen, and R. Evans, Derwen. Mr Jones, Gibson Square was very generous toward the building of the chapel with a gift of £20 and collecting from his friends in London. The building was overseen by Mr Pritchard, Harp Inn. Mr R Jones was here for a very short time and moved to Kerry, Montgomeryshire. Early 1842 a call was sent to Mr John Evans, minister of Beaumaris for many years, to minister here and Llandrillo and Cynwyd. His induction took place on April 12th and 13th, 1842. Those officiating were Messrs H. Pugh, Mostyn, T. Ellis, Llangwm, D. Morgan, Llanfyllin, J. Parry, Wern, D. Price, Rhos, W. Thomas, Dwygyfylchi, A. Jones, Bangor, T. Griffith, Rhydlydan, W. Roberts, Llanrhaiadr, W.Rees, Dinbych, S. Jones, Maentwrog, D. Griffith, Ruabon, H. Ellis, Llangwm, and J. Griffith, Rhydywernen.** He was here for some years then returned to Beaumaris where he spent the rest of his life. In 1850 Mr Humphrey Ellis, Llangwm accepted a call and began his ministry on October 6th, the same year, He had reasonable success here over the next 15 years, he gave up the ministry of  Corwen and Cynwyd as the area was too large for him. They called Mr John Lewis, student at Bala, and he was ordained July 26th, 1865, those officiating were -  Mr J. Peter, Bala, Mr I. Davies, Ruthin, Mr R. Williams, Bethesda, Mr M. D. Jones, Bala,  Mr H. Ellis, (the old minister). Mr Lewis was here until 1870, when he accepted a call to the Welsh Church, Birmingham, and so far there is no new minister.

As well as those already mentioned there were many who were faithful to the cause. They include the families of Penlan and Harp, Mr J Prichard with both Sunday School and the chapel. Joseph Jones, first member, and Robert Owen, Tanycelyn as officers, he was confirmed in 1840 and became deacon soon after.

BIOGRAPHICAL NOTES***

ROBERT JONES - Born Llanfwrog, Anglesea, brother to Thomas Jones, Amlwch, and Rees Jonesboth well known preachers with the Calvinistic Methodists - spent many years in England - after leaving for Kerry, Montgomeryshire he returned for his family and the cart overturned near the Nags Head, between Welshpool and Newtown and being heavy he was badly shaken and died 3 days later, December 13th, 1841 - he left a widow and 3 children.

* Dysgedydd, 1840. Tu dal. 287.

** Dysgedydd, 1842. Tu dal. 189.

*** Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

CYNWYD

(Gwyddelwern parish)

Mae pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y lle yma er's pedwar-ugain-mlynedd yn ol. Yr oedd Sion Edward, yr hwn oedd yn byw yn melin Cynwyd, yn aelod yn Rhydywernen, a bu llawer o bregethu yn ei dy gan Meistri A. Tibbot, W. Thomas, Bala, ac R. Roberts, Tyddynyfelin, ond wedi ymadawiad Sion Edward, rhoddwyd i fyny bregethu yma'i gan mai efe a'i wraig oeddynt yr unig aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn y lle.* Ni wnaed cynyg ar bregethu gydag un cysondeb yma ar ol hyny hyd y flwyddyn 1838. Yr oedd yma hen wraig o'r enw Gwen Jones yn byw. Symudasai yma o'r Bala, a bu yn myned yn fisol am flynyddoedd yno i gymundeb, hyd nes yr adeiladwyd Bethel. Ar ol codi capel yn Llandrillo, elai yno yn rheolaidd, ond aeth o'r diwedd yn analluog i gerdded na marchogaeth yno, a chwynai yn ei dagrau wrth Mr Thomas Davies, Llandrillo, i fod yn ei gadael yno heb roddi ambell bregeth iddi. Boddlonodd Mr Davies i ddyfod os gellid cael rhywle i bregethu. Cymerodd yr hen wraig Coach-house oedd yno yn wag am yr ardreth o £2 yn y flwyddyn, a'r nos Ferchcr cyntaf yn y flwyddyn 1838, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yno gan frodyr o Landrillo, a'r boreu Sabboth canlynol, pregethodd Mr T. Ellis, Llangwm. Bu yr achos yn y lle yma am ddeuddeng mis, hyd nes y collwyd yr ystafell, ac am chwe' mis ar ol hyny, ymgynnullid yn mharlwr tafarndy yn y lle. Symudwyd wedi hyny i'r Boncynglas, ty Griffith Hughes. Yr oedd y gwr hwnw yn aelod gyda'r Methodistiaid, ond nid amlygwyd un gwrthwynebiad iddo roddi ei dy i'r Annibynwyr i bregethu ynddo. Gwelwyd yn fuan fod yr ystafell yno yn rhy gyfyng, ac wedi ymddiddan a'r eglwysi a'r gweinidogion cylchynol, ac yn neillduol a Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a J. Griffith, Rhydywernen, penderfynwyd ymofyn am le i godi capel. Cafwyd prydles am fil o flynyddoedd ar ddarn o dir gan Mr. Thomas Williams, Felinuchaf, a thalwyd am dano 16p. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Mehefin 27ain a'r 28ain, 1842. # Galwyd ef Carmel ; ac yn yr agoriad, pregethodd Meistri T. Ridge, Llangwyfan ; H Ellis, Llangwm ; J. Davies, Llanfaircaereinion ; W. Jones, Dolyddelen ; E. Hughes, Treffynon ; J. Jones, Rhos ; J. Parry, Wern, a D. Price, Rhos. Bu Mr. Thomas Davies, Llandrillo o gynorthwy mawr i'r achos yma o'i gychwyniad, a chaffaeliad mawr i'r achos a fu symudiad Mr. Morgan Edwards o Faentwrog i Benybont, Cynwyd. Mae y lle wedi

* " Sion Edward," Cronicl, 1853. Tu dal. 36,    # Dysgedydd, 1812, Tu dal. 351.

516  

bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorwen, ac felly y mae yn parhau, ond fod y ddau le ar hyn o bryd yn amddifaid o weinidog, ond gofelir am y lle hwn yn benaf gan Mr T. Davies, Llandrillo.

Translation by Maureen Saycell (Feb 2011) 

There has been preaching here by the Independents for 80 years. Sion Edward, Cynwyd Mill, member of Rhydywernen, hosted frequent sermons at his home from Messrs A. Tibbot, W. Thomas, Bala, and R. Roberts, Tyddynyfelin, but after he moved away this stopped as he and his wife were the only Indepenent members in the area.* There was no real effort then until 1838. An old lady named Gwen Jones moved here from Bala and returned there monthly for communion, until Bethel was built. After the chapel was built in Llandrillo, she attended regularly until she could no longer walk or ride there, and she complained bitterly to Mr Thomas Davies, Llandrillo, that she was left without any sermon. Mr Davies agreed to come if somewhere suitable could be found to preach. The old lady rented the Coach House for £2 per year and on he first Wednesday of 1838 a prayer meeting was held there by members of Llandrillo, the following Sunday morning Mr T Ellis, Llangwm preached there. There was a cause there for 12 months, until the room was lost and for 6 months services were held in the parlour of the tavern. Then they moved into Boncynglas, home of Griffith Hughes. He was a member with the Methodists but there was no objections to his home being used for preaching by the Independents. Soon the room became too small and after discussion with local churches and ministers, particularly Messrs M Jones, Llanuwchllyn and J Griffith, Rhydywernen, it was decided to look for land to build a chapel. A lease on some land was agreed with Mr Thomas Williams, Felinuchaf, for £16. The chapel was built and opened on June 27th and 28th, 1842#. It was named Carmel, the following officiated - Messrs T. Ridge, Llangwyfan, H Ellis, Llangwm, J. Davies, Llanfaircaereinion, W. Jones, Dolyddelen, E. Hughes, Treffynon, J. Jones, Rhos, J. Parry, Wern, and D. Price, Rhos. Mr Thomas Davies, Llandrillo was very supportive of the cause from the start and gained with the arrival of Mr Morgan Edwards from Maentwrog to Penybont, Cynwyd. It has always been under the same ministry as Corwen, both are without ministers currently and cared for by Mr T Davies, Llandrillo.

* " Sion Edward," Cronicl, 1853. Tu dal. 36

# Dysgedydd, 1812, Tu dal. 351.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

BETTWS-GWERFIL-GOCH

Yn y flwyddyn 1843, symudodd teulu o ardal Cynwyd i'r ardal yma. Gan eu bod yn aelodau gyda'r Annibynwyr, byddai Mr T. Davies, Llandrillo, yn myned i bregethu yn achlysurol iddynt yn eu ty. Yn y flwyddyn 1850, daeth Mr Robert Fairclough yma gan benderfynu pregethu yn rheolaidd, a chodi achos yn y lle. Cymerodd dy gwag oedd yn eiddo Mr Griffith Evans, Bodynlliw, i bregethu ynddo, a'r tro cyntaf yr aeth i dalu yr ardreth am dano, dychwelodd Mr Evans yr arian iddo, a gwerthodd ddarn o dir i adeiladu capel arno. Dyddiad y gwerthiad ydyw Mai, 1850. Agorwyd y capel cyn diwedd 1852, a thrwy ymdrech Mr Fairclough, talwyd y ddyled, fel y mae y capel a'r ty perthynol iddo yn rhydd. Bu y brodyr Edward Wynne a Robert Evans, Derwen, yn ffyddlon iawn i gynorthwyo yr achos yma, ac y maent yn parhau i ymweled a'r lle. Ni bu Mr Fairclough yma yn hir ar ol adeiladu y capel, ac y mae y lle wedi bod yn benaf er hyny dan ofal Mr M. D. Jones, Bala, yr hwn sydd yn dyfod yma fynychaf bob mis i gadw cymundeb, ac ar y Sabbothau pregethir gan fyfyrwyr yr athrofa, neu gan rai o'r pregethwyr cynorthwyol sydd yn yr eglwysi cylchynol. Yn nechreu y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad gan yr eglwys yma i Mr John Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Chwefror 10fed a'r 11 eg ; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Peter, Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr H. Ellis, Llangwm ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr M. D. Jones, Bala ; pregethodd Mr D. M. Davies, Llanfyllin, i'r gweinidog, a Mr R. Thomas, Bangor, i'r eglwys.* Ni bu arosiad Mr Williams yma ond byr, canys symudodd cyn diwedd y flwyddyn ganlynol i Penygroes, Sir Benfro, ac y mae gofal yr achos fel cynt ar Mr M. D. Jones.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

ROBERT FAIRCLOUGH. Ganwyd ef yn Llandrillo. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yno gan Mr Michael Jones, Llanuwchllyn. Wedi bod yn pregethu dros rai blynyddau, ac ar adegau yn yr ysgol, derbyniwyd of i athrofa Aberhonddu, lle y treuliodd bedair blynedd. Ychydig o gynydd a wnaeth mewn dysg tra yno, ond cyfrifid ef yn ddyn da, ac awyddus. am wneyd daioni. Urddwyd ef yn Bethania, Ffestiniog, lle y bu dros rai blynyddoedd. Ar ol hyny, aeth i Bettwsgwerfilgoch, lle y bu yn ymdrechgar i godi capel a thalu am dano ; a bu yn y Drefnewydd a Phenllys, ac o'r diwedd, daeth adref i Landrillo, lle y bu farw. Barnai llawer o'r rhai a'i hadwaenai ei fod yn ddyn da, ond i fod yn annoeth, ac yn gyndyn dros fesur. Mewn casglu at gapeli y rhagorai, ac yn nglyn a hyny y tynodd arno i hun, ac y rhoddodd i eraill, fwyaf o flinder. Yn y Bettws y gwnaeth fwyaf o ddaioni. Cododd gapel yno, a thalodd am dano agos yn gwbl trwy ei lafur personol.

* Dysgedydd, 1868. Tu dal. 104.

Translation by Maureen Saycell (Feb 2011)

In 1843, a new family moved from Cynwyd to the area. As they were members of the Independents, Mr T Davies, Llandrillo came to preach to them occasionally. In 1850 Mr Robert Fairclough decided to preach here on a regular basis and raise a cause. He rented an empty house from Mr Griffith Evans, Bodynlliw, to preach in, the first time he went to pay the rent, it was returned to him and sold him a piece of land to build on. The date of the sale was May, 1850. The chapel was opened in 1852, and the debt paid, thanks to the efforts of Mr Fairclough, for the chapel and a house with it. Edward Wynne and Robert Evans, Derwen, supported the cause faithfully. Mr Fairclough left soon after the chapel was built and most of the care undertaken by Mr M D Jones, Bala, who visits monthly to hold communion and sermons on other Sundays given by students at the College, or neighbouring ministers. A student, Mr John Williams, accepted a call early 1868 and was ordained on February 10th and 11th, when the following officiated - Mr J. Peter, Bala, Mr H. Ellis, Llangwm, Mr M. D. Jones, Bala, Mr D. M. Davies, Llanfyllin an Mr R. Thomas, Bangor*. Mr Williams left before the end of the following year and care reverted to Mr M D Jones.

BIOGRAPHICAL NOTES**

ROBER FAIRCLOUGH -  Born Llandrillo, confirmed by Mr Michael Jones, Llanuwchllyn - educated Brecon for 4 years - ordained Bethania, Ffestiniog - then moved to Bettwsgwerfilgoch, was also at Newtown and Penllys - eventually went back to Llandrillo, where he died - he excelled at collecting funds for chapels.

* Dysgedydd, 1868. Tu dal. 104.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

517

TRE'RDDOL

(Corwen parish )

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma gan Mr. Thomas Davies, Llandrillo, yn nhy cefnder iddo, o'r enw Robert Ellis. Yr oedd Robert Ellis ar y pryd hwnw, yn gorwedd yn ei wely wedi tori ei glun trwy syrthio dan drol, pan o dan effeithiau diodydd meddwol. Ymddangosai yn edifeiriol iawn, a phrofodd ei ymddygiad iddo gael ei anwiredd yn atgas. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1843.* Yr oedd teulu Penlan y pryd hwn yn arfer myned i Gorwen, ac yr oedd rhai eraill yn arfer myned i Gynwyd. Cynhelid ysgol mewn lle a elwid y Green, ar dir Penlan, ac yr oedd y Bedyddwyr yn arfer pregethu yn yr ardal, ond am dymor unwyd i gynal yr ysgol a'r moddion yn nhy Robert Ellis, ac ni bu ef a'i wraig yn hir cyn ymuno a'r achos. Yn y flwyddyn 1845, collodd Robert Ellis ei dyddyn, a symudodd i ardal Llandrillo; ond agorodd Rhagluniaeth ddrws i'r achos mewn goruwchystafell perthynol i Mr John Edwards, Penybont, a threfnwyd i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr i addoli ynddi bob yn ail Sabboth, ac felly y maent yn parhau hyd heddyw. Wedi i Mr Humphrey Ellis ddyfod yn weinidog i Gorwen, ffurfiwyd yma eglwys Annibynol yn ngwanwyn 1851. Dyma enwau yr aelodau cyntaf - John a Sarah Owen, Mrs Davies, Penlan; John a Lowry Morris, Berthddu; Robert a Mary Ellis; ac o'r newydd derbyniwyd Miss Davies, Penlan;  Miss Catherine Davies, a Watkin Ellis, Plasynddol. Agos yr un amser, ffurfiodd y diweddar Mr R. Roberts, Plasynbonum, yr ychydig Fedyddwyr oedd yn y lle yn eglwys, a bu y ddau weinidog yn pregethu bob yn ail Sabboth, a'r ddwy eglwys yn cydaddoli bob Sabbath, ond fod pob un yn gofalu am ei Sabboth ei hun, ac yn cynal eu cyfeillachau, ac yn gweini yr ordinhadau ar wahan, a'r cwbl trwy y blynyddoedd yn y teimladau mwyaf heddychol a brawdol. Tystiai Mr Ellis, ar lan bedd Mr Roberts, Plasynbonum, na bu yr un gair o gamddealldwriaeth rhynddynt yn ystod y deunaw mlynedd y buont yn cydweinidogaethu yn Nhre' rddol. Aeth yr ystafell gyntaf a roddwyd gan Mr Edwards, Penybont, yn fuan yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd un arall, eangach, a llawer mwy cyfleus, a dodrefnwyd y lle gan y gynnulleidfa unol, ac yn ol argoelion presenol, bydd raid cael pabell helaethach yn fuan etto. Bu Mrs Davies, Penlan, yn golofn gref i'r achos yma o'i gychwyniad. " Mam yn Israel," ydoedd hi, ac yn ei gofal a'i thynerwch anaml y ceid ei chyffelyb. Da genym fod ei hesiamplau yn cael eu dilyn gan ei merched. Cafodd yr eglwys yma golled fawr yn symudiad Mr Morgan Edwards, Ucheldre. Yn Maentwrog, Cynwyd, ac yma, profodd ei fod yn gwir ofalu am achos y Gwaredwr ; ond er colli ffyddloniaid, y mae yma etto ffyddloniaid yn aros.  "Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau."

Translation by Maureen Saycell (March 2011) 

Mr Thomas Davies, Llandrillo, began preaching here in Robert Ellis, his cousin's home. At that time Robert Elis was in bed after breaking his knee while drunk. This was in 1843*. The family of Penlan used to go to Corwen, but others frequented Cynwyd. A school was held in a place named the Green on Penlan land,the Baptists also preached in the  area and they united to hold services and the School in Robert Ellis' home. It was not long before he and his wife joined the cause. In 1845 Robert Ellis lost the tenure of his holding and moved to the area of Llandrillo.Providence took a hand and an upstairs room owned by Mr John Edwards, Penybont was made available for the Indepedents and the Baptists to worship on alternate Sundays, and continues to this day. After Mr Humphrey Ellis became minister of Corwen a church was formed here in the Spring of 1851. These were the founding members - John and Sarah Owen. Mrs Davies, Penlan. John and Lowry Morris, Berthddu. Robert and Mary Ellis,and new confirmations Miss Davies, Penlan,  Miss Catherine Davies, and Watkin Ellis, Plasynddol. About the same time Mr R Roberts, Plasybonum, formed the few Baptists into a church and the two ministers preached alternate Sundays, with the two churches worshipping together but socialising and holding the Sacraments separately. All this in a peacful and friendly way. Mr Ellis stated, at the graveside of Mr Roberts, Plasybonum, that there had been no cross words between them during the 18 years they ministered together in Tre'ddol. The first room donated by Mr Edwards, Penybont, soon became too small and a larger one was built and furnished by the combined congregations. Mrs Davies, Penlan, was a great support as were her daughters. The church suffered a great loss when Mr Morgan Edwards, Ucheldre moved. It was here Maentwrog and Cynwyd that he proved his true care for the Saviour. There are still faithful here.

* Llythyr Mr T. Davies, Llandrillo.

GLYNDYFRDWY

(Corwen parish)

Nid oedd un lle o addoliad gan yr Annibynwyr o Gorwen hyd Langollen, ac fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, ac amryw o aelodau a gwrandawyr perthynol i'r enwad yn myned i'r ardal i fyw, meddyliwyd y dylasid cychwyn achos, a chodi capel yma. Dechreuwyd pregethu yma mewn anedd-dai, ac yn achlysurol yn nghapeli enwadau eraill yn yr ardal. Y rhai mwyaf gweithgar y tu allan i'r ardal yn y gorchwyl oedd Mr J. Lewis, Corwen,

* Llythyr Mr T. Davies, Llandrillo.

518

a Mr T. Davies, Llandrillo, ond bu cyfundeb y sir yn dra chefnogol i'r amcan, a rhoddodd athrawon a myfyrwyr athrofa y Bala help effeithiol er sefydlu achos yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu gan y Milwriad Tottenham, am £14. Cynlluniwyd y capel gan Mr S. Evans, Llandegle, a chostiodd yr adeilad £400. Mae wedi ei gyflwyno i John Jones, Robert Ellis, Humphrey Ellis, Michael D. Jones, John Lewis, Samuel Evans, John Peter, Thomas Davies, Hugh Jones, Robert Evans, Robert Jones, a Hugh Eastick, fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel Mai 27ain, 1869, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Thomas, Bangor; E. Evans, Caernarfon; M. D. Jones, Bala; J. Rowlands, Rhos, ac eraill. Nid oedd yma ond ugain o aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys gan Mr Lewis, Corwen, ond y mae yn myned rhagddi yn raddol, a baich y ddyled agos oll wedi ei symud. Mae y lle heb weinidog er ymadawiad Mr Lewis i Birmingham, ond y mae y gweinidogion cylchynol, a myfyrwyr y Bala yn barod bob amser i gynorthwyo yr achos yma. Y mae agoriad y chwareli yn y gymydogaeth yn argoeli yn ffafriol i ddyfodol y lle hwn.*

* Yr ydym yn ddyledus i Meistri H. Ellis, Llangwm ; T. Davies, Llandrillo ; W. Davies, Bethel ; R. Owen, Ty'nycelyn ; J. Jones, Llangiwc ; J. Lewis, Birmingham, a T. Prichard, Plasyndinam, am lawer o ddefnyddiau hanes yr eglwysi o Rhydywernen Glyndyfrdwy, ac o Landrillo i Bettwsgwerfilgoch.

Translation by Maureen Saycell (March 2011)

The Independents had no place to worship between Corwen and Llangollen, and as the population grew and there were members and listeners moving in, it was decided that there should be a cause started here with a chapel. Preaching began in houses, occasionally in chapels of other denominations. Mr J. Lewis, Corwen, and Mr T. Davies, Llandrillo, were the prime movers in this work, with the backing of the county union, with much help from staff and students at Bala College. Land to build on was acquired from Tottenham Military, for £14. The chapel was designed by Mr S Evans, Llandegle, and cost £400. The trustees were John Jones, Robert Ellis, Humphrey Ellis, Michael D. Jones, John Lewis, Samuel Evans, John Peter, Thomas Davies, Hugh Jones, Robert Evans, Robert Jones and Hugh Eastick. The chapel was opened May 27th, 1869. Messrs R. Thomas, Bangor, E. Evans, Caernarfon, M. D. Jones, Bala, J. Rowlands, Rhos, and others officiated. There were only 20 members when the church was formed by Mr Lewis, Corwen, but is increasing slowly and all the debt paid. There has been no minister since Mr Lewis left for Birmingham, but the College is very supportive.*

 

* We thank Mesrs H. Ellis, Llangwm, T. Davies, Llandrillo, W. Davies, Bethel, R. Owen, Ty'nycelyn, J. Jones, Llangiwc, J. Lewis, Birmingham, and T. Prichard, Plasyndinam, for the historical materials for Rhydywernen Glyndyfrdwy, and Landrillo to Bettwsgwerfilgoch.

________________________

Dylasem grybwyll hefyd yn nglyn a Phenstryd, am ddau bregethwr arall a godwyd yno, sef John Gwilym Roberts, brawd Robin Meirion. Bu yn athrofau y Bala ac Airedale. Urddwyd ef yn Lloegr, ac y mae yn awr yn Howden, Yorkshire ; ac Ellis Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddar, ac y mae fel y deallwn, wedi derbyn galwad o Langwm, Gellioedd, a Phentrellyncymer. Gadawyd y cyntaf o'r ddau allan gan yr Argraffydd, ac ar ol gweithio hanes Penstryd, yr anfonwyd i ni enw yr olaf. Yr ydym mor ofalus ag y gallom, ond y mae rhai gwallau yn diangc er i ni wneyd ein goreu. Cywirir y cwbl y deuwn i wybod am danynt mewn Attodiad yn niwedd y gwaith.

   

End of Merionethshire