Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008) - with translation


Groeslwyd

(Vol 1, p 376)

"Mae y lle hwn tua milltir o Gygigfa, (Guilsfield), a thair milltir o dref y Trallwm. Nid yw yn mhell o fod tua haner y ffordd o'r Cloddiau-cochion i'r Pantmawr. Dechreuwyd pregethu yma, fel yr ymddengys, tua'r flwyddyn 1820, gan Mr. George Ryan, gweinidog y Trallwm, yn Moelygarth, lle y preswyliai Mr. Griffith Williams, yr hwn am lawer o flynyddoedd wedi hyny a fu yn brif atteg i'r achos yn y lle. Rhoddodd dir yn rhad i adeiladu capel arno, ac i fod dros byth yn feddiant i'r eglwys. Dyddiad y weithred yw Medi 17eg, 1823. Tynwyd hi allan gan Syr John Bickerton Williams, ac y mae enwau un-ar-hugain o ymddiriedolwyr wrthi ; ond y mae pob un o honynt wedi marw er ys blynyddau. Mae y lle wedi bod dan ofal gweinidogion Seisnig y Trallwm fynychaf, ond bu gweinidogion y Sarnau ar brydiau yn gofalu am y lle. Yn 1853, cymerodd Mr. R. Hughes, Trallwm, ofal yr eglwys, a bu yn gweinidogaethu yma hyd ymadawiad i Cendl, a bu y lle dan ofal Mr. J. Price, Trallwm, am yr ychydig fisoedd y bu efe byw ar ol ei ordeinio, er hyny ni bu yma un gweinidog sefydlog. Achos Saesonaeg sydd yma o'r dechreuad, a'r Annibynwyr a gafodd y cynyg cyntaf ar y gymydogaeth, ac oni buasai esgeulusdra mawr, gallasent fod wedi cymeryd meddiant llwyr o'r ardal. Nid oes dim yn eisiau etto, ond sel dduwiol yr hen Annibynwyr a fuont yn addoli yn y Cloddiau-cochion a'r Pantmawr er adennill y tir a gollwyd."

Translation by Maureen Saycell (Feb 2008)

 "This place is about a mile from Guilsfield, and three miles from Welshpool. It is near half way between Cloddiau-Cochion and Pantmawr. Preaching here started, apparently, around 1820, by Mr George Ryan, Minister of Welshpool, in Moelygarth, where Mr Griffith Williams lived, he was one of the main supporters of the cause for many years. He gifted some land to build a chapel on, and to be forever the property of the church. The deed is dated September 17th, 1823. It was drawn up by Sir John Bickerton Williams, and there are names of twenty one trustees on it, but they have all died many years ago. This place has been in the care of English ministers mainly from Welshpool, but ministers from Sarnau cared for it at times. In 1853, Mr R. Hughes, Welshpool, took charge of the church and was minister here until he left for Kendal, and the place was under the care of Mr J. Price, Welshpool for the few months that he lived after being ordained, since then there has not been a regular minister. It has been an English cause from the start, and the Independents had the first chance in the neighbourhood, and but for considerable negligence, they could have taken control of the whole area. There is nothing needed but the religious zeal of the old Independents that worshipped at Cloddiau-cochion and Pantmawr to regain the ground that has been lost."