Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages  388 - 397

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (Sept 2008)

Chapels below;

  • (Continued) DREFNEWYDD. (SAESONAEG)  
  • DREFNEWYDD  (CYMREIG) (with translation)
  • CERI (with translation)
  • FORDEN  (with translation)

 


Pages 388 - 397

388

(Continued) DREFNEWYDD. (SAESONAEG)

(Not fully extracted)

389

EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Ashton, Sir Amwythig, am un-ar-ddeg o'r gloch y bore, Mawrth 13eg, 1796. Enwau ei rieni oeddynt Edward a Margaret Davies. ...................................

390 / 391

392  

DREFNEWYDD  (CYMREIG)

(Newtown parish)

Nid yw yr achos Cymreig yma ond diweddar mewn cydmariaeth. Gwelsom fod yma achos Cymreig gynt, ond darfyddodd hwnw yn hollol; a phan ail gychwynwyd yr achos yn y dref, er mai yn achos Cymreig bwriadid ef, ni bu yn hir cyn cael ei droi yn gwbl i'r Saeson, ac er fod y rhan fwyaf o'r rhai a berthynai iddo yn Gymry ; ac ar ol hyny nid oedd yma un ddarpariaeth gan yr Annibynwyr ar gyfer y Cymry. Yn 1844, ysgrifenodd Mr John Davies lythyr at Gymanfa Machynlleth, yn galw sylw y gweinidogion ac eraill at amddifadrwydd y dref. Cymerwyd sylw o'r mater, ac anfonwyd atebiad caredig i'r llythyr. Yn Nghymanfa Penarth, yr hon a gynhaliwyd Mehefin 30ain, a Gorphenaf 1af, 1847, penderfynwyd "Fod y Gymanfa yn rhoddi anogaeth i achos Cymreig i gael ei gychwyn. yn y Drefnewydd." Yn mis Awst, y flwyddyn hono, wedi ymgynghori a chyfeillion yn y dref, daeth Mr R. D. Thomas, Penarth, yma ar un Sabboth, a phregethodd mewn ystafell yn Severn Street ; a'r mis canlynol corpholwyd o gylch deuddeg o bersonau yma yn eglwys ; a bu gweinidogion a phregethwyr y Sir yn nodedig o gynorthwyol i'r achos, ac aeth pob peth yn mlaen yn dra chalonog, fel cyn pen blwyddyn yr oedd nifer yr aelodau yn ddeg-ar-hugain.

Yn y flwyddyn 1848, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Hugh D. Pughe, yr hwn oedd yn weinidog yn y Main a'r canghenau, i fod yn weinidog iddi, a chydsyniodd yntau a'r gwahoddiad ; a bu yma yn dra ymdrechgar hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur yn mis Hydref, 1850.

Ar ol hyny bu yr eglwys yn anffortunus fawn yn ei gweinidogion dros amryw flynyddoedd. Bu Meistri Isaac Francis, Mathew Lewis, Robert Fairclough, a William Jones yma yn olynol, o'r flwyddyn 1851, pan ddaeth y cyntaf yma, hyd y flwyddyn 1862, pan yr ymadawodd yr olaf. Yr oedd y tri blaenaf wedi eu hurddo cyn dyfod yma ; ond yma yr urddwyd yr olaf. Dyoddefodd yr achos bychan yma yn fawr oddiwrth ddrwg fuchedd y naill, ac annghallineb y lleill o'r gweinidogion hyn, ac ysigwyd ef trwy wahanol amgylchiadau a'i cyfarfu, fel mai y syndod mwyaf ydyw na buasai wedi ei lwyr ddinystrio. Yn y flwyddyn 1863, cymerodd Mr J. Jones, Smethcott ofal y lle, ac yn ei amser ef y codwyd y capel prydferth sydd yma yn bresenol. Hyd hyny, parheid i addoli mewn ystafell. Costiodd y capel fwy na £500, a chyfranwyd yn helaeth tuag ato gan gyfeillion y lle ; a chafwyd cynorthwy effeithiol gan gyfeillion y tu allan i'r eglwys.

Yn agos i ddiwedd 1866, cymerodd Mr D. M. Jenkins ofal yr eglwys; a llafuriodd yma gyda diwydrwydd mawr hyd ddiwedd 1870, pryd y symudodd i Salem, Penmaenmawr. Mae achos Cymreig dan anfantais dirfawr mewn tref fel hon, pan nad oes ganddo ond ymddibynu yn unig ar y dyfodiaid o'r rhanau gwledig, ac y mae arhosiad y rhai hyny pan deuant yn hynod o ansicr ; ond y mae y rhai sydd yn glynu wrth yr achos yn nodedig am eu ffyddlondeb a'u haelioni.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HUGH D. PUGHE. Ganwyd ef yn y Pandy, Rhydyronen, Bryncrug, yn agos i Dowyn, Meirionydd, yn 1820. Derbyniwyd ef yn aelod a dechreuodd bregethu trwy gymhelliad Mr Lloyd, Towyn, a'r eglwys yn

393

Bryncrug. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, yn un o'r dosbarth cyntaf a dderbyniwyd iddi ar ei sefydliad, a'i enw ef sydd gyntaf ar y rhestr. Bu yn yr athrofa am dair blynedd. Urddwyd ef, fel y gwelsom, i fod yn weinidog yn y Main a'r canghenau, Tachwedd  11eg a'r 12fed, 1845. Bu yno hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i'r Drefnewydd ; a bu yno yn ddefnyddiol a pharchus am fwy na dwy flynedd. Ymaflodd oerfel ynddo trwy eistedd ar y ddaear ar un prydnhawngwaith, yr hwn a drodd yn enynfa ar yr ymenydd, ac a effeithiodd yn hollol ar ei ymwybyddiaeth. Cafodd gystudd caled, yr hwn a derfynodd yn ei angau, Hydref 19eg, 1850, yn 30 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llanllwchaiarn ; and nid oes careg arno, na dim i ddynodi y lle y gorwedd.

Yr oedd Mr. Pughe yn gyfaill hynaws a charedig, heb wybod dim am frad a dichell. Yr oedd yn llawn o ysbryd pregethu, a chwaeth nodedig ganddo at iaith gref, flodeuog, yn ymylu weithiau hwyrach ar chwyddiaith ; and pe cawsai fyw ychydig yn hwy, buasai yn tyfu allan o hyny. Mae ei gydefrydwyr yn yr athrofa, a'i frodyr yn y weinidogaeth a gair da iddo ; ac yr oedd yn anwyl gan, ac yn barchus yn ngolwg y bobl yn mysg y rhai y bu yn llafurio. Ond "gostyngwyd ei nerth ar y ffordd," a thorwyd ef i lawr yn mlodeu ei ddyddiau. Gadawodd weddw ac unig ferch i alaru ar ai ol.

Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)

The Welsh Cause is comparatively recent. This story is told in the history of the English cause. In 1844 Mr John Davies wrote to the Machynlleth Assembly drawing attention to the situation here, a sympathetic reply was received. At the Penarth Assembly on June 30th and July 1st 1847 it was decided that "encouragement should be given to the founding of a Welsh cause at Newtown". In August that year Mr R D Thomas, Penarth came and preached in a room on Severn Street and the following month 12 members were formed into a church. With the support of local ministers the membership was 30.

In 1848 Mr Hugh D Pughe, minister of Main and branches, was called as minister here. He was here until his death in October 1850.

The following years they were unfortunate with their ministers - Messrs Isaac Francis, Mathew Lewis, Robert Fairclough, and William Jones succeeded each other from 1851 to 1862. It is surprising that the cause survived all the trials. In 1863 Mr J Jones, Smethcott took on the ministry and a new chapel was built during his time. The cost was £500, contributions were made by members and supporters of the church.

Mr D M Jenkins came in 1866 and was successful here until 1870 when he moved to Salem, Penmaenmawr. A Welsh cause is vulnerable here, depending on new arrivals from rural areas, their tenure sometimes short.

BIOGRAPHICAL NOTES *

HUGH D. PUGHE - Born Pandy, Rhydyronen, Bryncrug, near Tywyn, Meirioneth, in 1820 - became a member and encouraged to preach by Mr Lloyd, Towyn, and Bryncrug - went to Bala College, his is the first name in the register, spent 3 years there - ordained Main and branches, November 11th and 12th, 1845 - until 1848, moved to Newtown - He was taken ill and died October 19th, 1850, aged 30 - buried at Llanllwchaiarn, no stone.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CERI

 Symudiad yr athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd a fu yr achlysur i ddechreu pregethu yn y Drefnewydd. Agorwyd y drws i'r efengyl gyntaf yma gan hen wraig, yr hon a ddaeth yma i fyw o Carno; a phregethwyd y bregeth gyntaf yn ei thy Hydref 27ain, 1822, gan Mr Samuel Roberts, myfyriwr y pryd hwnw yn yr athrofa. Yr oedd yr hen wraig hon yn byw yn y ty agosaf i'r Persondy ; ac o hyny allan bu pregethu cyson yn y lle, ac agorwyd amryw ddrysau yn fuan. Corpholwyd eglwys yma Ebrill 11eg, 1824; a dechreuwyd meddwl am dir i godi capel arno. Yr oedd gan Mr Jones, Banbury, dir yn y lle, a rhoddodd brydles ar ddarn ohono am fil o flynyddoedd, am yr ardreth o swllt y flwyddyn, a chodwyd capel gwerth £270, heb gyfrif y cludiad, yr hyn a roddwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo Tachwedd 21ain, 1824, gan Mr Samuel Bowen, athraw Ieithyddol yn athrofa yn y Drefnewydd ; an agorwyd ef yn gyhoeddus Rhagfyr 29ain a'r 30ain, 1824 ; ac ar yr un pryd urddwyd Mr Samuel Bowen i fod yn weinidog yn y lle. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr I. Roberts, Llanbrynmair ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr D. Jones, Treffynon, ac i'r eglwys gan Mr J. Pearce, Wrecsam. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, a'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y Drefnewydd. Llafuriodd Mr Bowen yma gyda chymeradwyaeth mawr am flynyddau, ac yr oedd golwg obeithiol ar yr achos ; se wedi ei ymadawiad ef i Macclesfield, gofalwyd am yr achos yn ffyddlon gan y myfyrwyr, hyd nes y symudwyd yr athrofa i Aberhonddu. Daeth un Mr David Evans, o athrofa Caerfyrddin yma am ychydig, yr hwn a drodd wedi hyny i'r Eglwys Sefydledig. Ar ei of of daeth Mr Methusalem Davies yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Abergwyli, ac yn ei amser ef disgynodd yr achos yn isel iawn, fel yr oedd bron wedi gwywo pan y symudodd oddiyma i Penywaun, Sir Fynwy.

394  

Yn 1840, codwyd capel arall yn mhlwyf Ceri, a galwyd ef Bethany, ac y mae claddfa gyfleus yn nglyn ag ef. Agorwyd of Gwener y Groglith, 1840, pryd y pregethodd Meistri J. Jones, Forden; T. Morgan, Trallwm; A. Francis, Drefnewydd, a J. Owen, Bishop Castle. Daeth Mr Robert Jones yma, yr hwn a urddasid yn Nghorwen ;ond ni bu yma ond ychydig. Syrthiodd oddiar ben y cerbyd wrth deithio, a bu farw. Yn y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr William Daniel, ac urddwyd ef Mehefin 7fed ; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Evans, Llanidloes ; A. Francis, Drefnewydd ; J. Owen, Bishop Castle, a T. Jones, Minsterley. Ni bu Mr Daniel yma ond ychydig flynyddoedd ; ac yr oedd yr achos yn nhreflan Ceri wedi disgyn mor isel, fel yn 1849, y gwerthwyd y capel i'r Bedyddwyr. Bu Mr Thomas Davies yma am dymor, ond symudodd ef i Gaerdydd ; ac er hyny ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ; and mae Mr John Owen wedi gofalu am y lle yn fwy na neb arall am y blynyddau diweddaf. Mae golwg lewyrchus ar yr achos yn Bethany, a phob peth yn myned yn mlaen yn llwyddianus ; ond colled fawr i'r achos oedd gwerthu y capel yn y dreflan lle y cychwynwyd yr achos, a lle yr oedd cynnulleidfa luosog, ac eglwys flodeuog, ddeugain mlynedd yn ol. Mae amryw o'r eglwysi ar y terfynau hyn, wedi dyoddef yn enbyd oblegid mai " gweision cyflog" ac nid bugeiliaid sydd wedi bod yn rhy fynych yn bwrw golwg drostynt.

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

It was the removal of the College from Llanfyllin to Newtown that occasioned the start of preaching here. The door was opened by an old lady who moved here from Carno, the first sermon was given at her house on October 27th, 1822, by Mr Samuel Roberts, then a student at the College. This old lady lived next to the Parsonage and from then on there was frequent preaching here with many doors opening to them. A church was formed on April 11th, 1824, and thoughts turned to finding land to build a chapel on. Mr Jones, Banbury, had some land in the area and gave a lease on a portion for 1,000 years at a cost of 1 shilling per year, a chapel worth £270 was built on it, not including carriage, which was provided free by the people. The first sermon was given in the chapel on November 21st, 1824, by Mr Samuel Bowen, the language tutor at the College in Newtown, it was officially opened on December 29th and 30th, 1824, when Mr Samuel Bowen was also ordained there. On the occasion Mr I Roberts preached on the nature of a church, asked the questions and offered the ordination prayer. Mr D Jones, Treffynnon, preached to the minister and Mr J Pearce, Wrexham to the church. Many other ministers were present, as well as most of the students at the College in Newtown. Mr Bowen worked here very well for many years and the cause looked very hopeful. After his departure for Macclesfield the cause was looked after faithfully by the students, until the College was moved to Brecon. A Mr David Evans came here from Carmarthen College for a while, who later turned to the Established Church. Then came Mr Methusalem Davies, who had been minister ar Abergili, and during his time here the cause sank to a very low state when he went from here to Penywaun, Monmouthshire.

In 1840, anotherchapel was built in Ceri parish, named Bethany, with a convenient burial ground. It was opened on Good Friday, 1840  when the following preached - Messrs  J. Jones, Forden; T. Morgan, Welshpool; A. Francis, Newtown, and  J. Owen, Bishop Castle. Mr Robert Jones came here , who had been ordained in Corwen, but had only been here for a short time when he fell from a carriage while travelling and died. In 1843 a call was sent to Mr William Daniel, he was ordained on June 7th when Messrs D. Evans, Llanidloes ; A. Francis, Newtown ; J. Owen, Bishop Castle, and T. Jones, Minsterley, officiated. Mr Daniel was only here for a short time and the cause got so poor that the chapel was sold to the Baptists in 1849. Mr Thomas Davies was here for a short time, but moved to Cardiff, since then there has been no settled minister. Mr John Owen has taken the main burden of care over the last few years. Bethany appears to be flourishing and all going well, but the sale of the original chapel in the area, where there was a large congregation and a successful church, 40 years ago, was a great loss to the people. Many of the churches in this area have suffered from having "paid servants" rather than dedicated shepherds caring for them.

 

FORDEN

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn yn benaf, trwy lafur y myfyrwyr yn athrofa y Drefnewydd, yn fuan wedi sefydliad yr athrofa derfyniad ei amser yn yr athrofa, penderfynodd Mr John Jones, ymroddi lafurio yn yr ardal dywyll yma, ac wedi ymdrechu yn ddiflino, llwyddodd i godi capel a ffurfio eglwys yma, a chymerodd ei urddiad ac agoriad y capel le yr un pryd. Fel hyn y ceir yr hanes yn y Dysgedydd, 1827, tu dal. 53. " Ar y 12fed a'r 13eg o Ragfyr diweddaf, agorwyd addoldy newydd, perthynol i'r Anymddibynwyr, yn Forden, Swydd Drefaldwyn.. Yn yr hwyr y dydd cyntaf, gweddiodd y Parch. E. Bebb, Drefesgob, a phregethodd y Parch. T. James, Minsterley, a'r Parch. S. Bowen, Athraw Awdurol, athrofa Gwynedd, oddiwrth Salm lxviii. 16, a Mat. xviii. 20. Dranoeth am 10, dechreuodd y Parch. J. Jones, Main, a phregethodd y Parch. J. I. Beynon, Dorrington, oddiar Than iv. 19-24. Am ddau yn y prydnhawn, neillduwyd y Parch. John Jones, gynt myfyriwr yn y Drefnewydd, i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys ag gael ei phlanu yn Forden. Cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r gwaith gan y Parch. J. Davies, Llanfair. Darluniwyd natur eglwys efengylaidd, a holwyd y gofyniadau gan y Parch. E. Davies, Athraw Duwinyddol yr athrofa grybwylledig. Traddodwyd yr urdd-weddi gan Parch. G. Ryan, Trallwng. Anerchwyd y gweinidog gan y Parch. T. Weaver, o'r Amwythig, oddiwrth Mat. iv. 19, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Yn yr hwyr, gweddiodd Parch. I. Rees, Sarney, ac anerchwyd yr eglwys a'r gynnulleidfa gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a therfynwyd gwaith y dydd trwy weddi gan y Parch. T. Weaver. Yr oedd y gynnulleidfa yn lled luosog, y gwrandawyr yn astud, a hyderir y bydd i ddwys gyflawniadau y cyfarfod

395

wneuthur argraffiadau arosol ar feddyliau yr ardalwyr. Y mae ymdrechiadau Mr Jones yn adeiladiad yr addoldy uchod mewn ardal dywyll, wedi bod yn dra chanmoladwy, ac y mae lle i obeithio y cant eu coroni a llwyddiant."

Llafuriodd Mr Jones yma yn ddiwyd, er mynych wendid, ac yn ngwyneb llawer o ddigalondid, am bedair-blynedd-ar-ddeg wedi ei urddiad, a bu farw, Tachwedd 30ain, 1840. Dilynwyd Mr Jones, gan un Mr Henley, yr hwn a lafuriodd yma gyda chymeradwyaeth hyd ddydd ei farwolaeth ; ond ni bu ei dymor ond byr. Am yspaid ar of hyny bu yr eglwys mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Trallwm, dan ofal Mr J. Davies, hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai, 1851, rhoddwyd galwad i Mr John Peter Jones, yr hwn oedd eisioes wedi symud o'r Drefnewydd i Marton, a bu yma nes y symudodd i Bromyard, Sir Henffordd, yn Hydref, 1853. Yn nechreu Ionawr, 1855, cymerodd Mr Thomas Peters, pregethwr cynorthwyol o Bwlchyffridd, ofal yr eglwys, ac urddwyd ef Mehefin 21ain, y flwyddyn hono, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. James, Llansantffraid; J. Owen, Bwlchyffridd ; R. Hughes, Trallwm, ac eraill. Ymadawodd Mr Peters i Gaerlleon yn 1857 ; ac yn Hydref y flwyddyn hono, dechreuodd Mr R. W. Lloyd, o Lanbadarn, Sir Faesyfed, ei weinidogaeth yma ; a bu yma hyd Mai, 1865, pryd y symudodd i Woolerton. Yn haf y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr Thomas R. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 3ydd, 1865. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri H. Oliver, B.A., Casnewydd; W. Price, Minsterley; L. Roberts, Dorrington ; D. M. Davies, Llanfyllin, ac eraill. Rhoddodd Mr Davies yr eglwys i fyny yn Hydref, 1868, a symudodd i Polton-le-Fylde, Swydd Lancaster. Yn 1870, rhoddwyd galwad i Mr William Bowen, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn mis Medi, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Jenkins, Pontypool; D. Rowlands, B.A., Trallwm; L. Roberts, Dorrington; W. Price, Minsterley, ac eraill. Mae Mr Bowen yn parhau i lafurio, ac y mae yr achos mewn gwedd siriol, er nad yw wedi gwneyd y cynydd a ddisgwyliasid oddiwrth ei gychwyniad addawus.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL (Not fully extracted)

JOHN JONES. Ganwyd ef yn Llanddeusant, Mon, Gorphenaf 23ain, 1798. ...................................

396 / 397

Translation by Maureen Saycell (Aug 2009)

Preaching began here mainly due to the efforts of the Students at Newtown College. Soon after the settlement of the College, on the completion of his time there, Mr John Jones decided to put his efforts into this dark area and after working tirelessly, he succeeded in forming a church and building a chapel. His ordination and the opening of the chapel coincided. This is the account from the Dysgedydd, 1827, page 53. "On the 12th and 13th of December last, a new house of worship was opened, belonging to the Independents, in Forden, Montgomeryshire. On the evening of the first day Rev. E. Bebb, Drefesgob, offered a prayer, and sermons from Rev. T. James, Minsterley, and Rev. S. Bowen, Lecturer, Gwynedd College, from psalm lxviii. 16, and Mat. xviii. 20. The next day at 10 was opened by Rev. J. Jones, Main, followed by a sermon from Rev. J. I. Beynon, Dorrington, from Than iv. 19-24. At two in the afternoon the Rev. John Jones, late student at Newtown, to take ministerial care of this church and parish of Forden.This was led by Rev. J. Davies, Llanfair. The nature of a church was described and the questions asked by Rev. E. Davies, Lecturer in Divinity at the afore mentioned College. Rev. G. Ryan, Welshpool, offered the ordination prayer and the minister addressed by Rev. T. Weaver, Shrewsbury, from Mat. iv. 19, and the service closed with a prayer from Rev. J. Roberts, Llanbrynmair. In the evening Rev. I. Rees, Sarney, offered a prayer and an address to the church from Rev. J. Roberts, Llanbrynmair, and the day brought to a close through prayer by Rev. T. Weaver. The congregation was fairly large, the listeners being attentive that it is hoped  a lasting impression was made on the local people. Mr Jones' efforts in building a chapel in such a dark area deserves praise, and it is hoped the effort will be crowned with success."

Mr Jones worked hard here, despite frequent weakness, and in the face of low spirits for 14 years after his ordination. He died November 30th, 1840. He was succeeded by a Mr Henley, who worked hard here until his death, his term was short. For a while after this the church joined with Welshpool under the care of Mr J Davies, until his death. In May, 1851 a call was sent to Mr John Peter Jones, who had already moved from Newtown to Marton. He remained here until he went to Bromyard, Herefordshire, in October, 1853. At the beginning of January 1855 a supporting minister named Mr Thomas Peters, from Bwlchyffridd,  took charge of he church and he was ordained on June 21st, that year.. Messrs H. James, Llansantffraid; J. Owen, Bwlchyffridd ; R. Hughes, Trallwm, and others officiated. Mr Peters left for Caerleon in 1857 and in that October  Mr R W Lloyd, from Llanbadarn, Radnorshire, began his ministry here. He remained here until May 1865 when he moved to Woolerton. That summer a call was sent to Mr Thomas R Davies, a student at Brecon College, and he was ordained on October 3rd, 1865. Those officiating were Messrs H. Oliver, B.A., Newport; W. Price, Minsterley; L. Roberts, Dorrington ; D. M. Davies, Llanfyllin, and others. Mr Davies gave up the church in October 1868 and moved to Polton le Fylde, Lancashire. In 1870 Mr William Bowen was called, a student at Bala College, he was ordained in September. Officiating were Messrs J. Jenkins, Pontypool; D. Rowlands, B.A., Welshpool; L. Roberts, Dorrington; W. Price, Minsterley, and others. Mr Bowen continues to labour here, the cause looks promising, although there has not been the increase that was expected.

BIOGRAPHICAL NOTES* (Not fully extracted)

JOHN JONES - born Llanddeusant, Mon, July 23rd, 1798. .......................

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

End of Montgomeryshire

 

(Gareth Hicks - 9 Jan 2011)