Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages 332 -345

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 332 -345

332

 (Continued) SARNAU

perthynasau ei wraig. Wedi rhoddi y weinidogaeth i fyny, pregethai yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol gan bawb ; ond yn 1851, rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur. Rhoddir y cymeriad uchaf i Mr Rees fel Cristion a phregethwr, ac nis gellir yn y Sarnau a'r cylchoedd grybwyll ei enw ond gydag edmygedd a pharch. Gallwn gasglu oddiwrth gofnodion y dyddiau hyny ei fod yn ddyn o ysbryd cyhoeddus ; canys yr ydym yn cael ei enw yn fynych yn nglyn a gweithrediadau ei enwad yn ei sir. Fel pregethwr, yr oedd yn fywiog ac effeithiol, ac etto yn amcanu addysgu ac adeiladu ; ac yr oedd ei draddodiad rhwydd yn y ddwy iaith yn ei wneyd yn dderbyniol gan Gymry a Saeson.

 

PENYGROES

(Llansantffraid-yn-Mechain parish)

Y mae Penygroes yn nhref ddegwm Llanerchemrys, yn mhlwyf Llansantffraid-yn-Mechain. Cafodd y apel ei enw oddiwrth dy bychan oedd yn yml y man y saif. Aelodau yn y Sarnau oeddynt y personau a fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos ; ac oblegid hyny, cangen o'r Sarnau yr ystyrid ef. Tua'r flwyddyn 1795, os nad cyn hyny, agorodd Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, ei dy i'r Annibynwyr i bregethu ; ac er holl anfoddlonrwydd ei feistr tir, parhaodd i gadw cartref i'r achos hyd 1803, pan y symudodd i Llwydiarth ; ond yno hefyd agorodd ei dy i'r efengyl, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at Penllys a Braichywain. Wedi ymadawiad Mr Moreton, agorodd un John Badda ei dy ar ochr y Brynmawr i dderbyn y pregethu ; a buwyd yn ymgynull yno dros rai blynyddoedd. Adroddir fod Mr Williams, o'r Wern, unwaith, tua'r flwyddyn 1812, yn pregethu yn nhy John Badda, ac iddo ar ganol y bregeth droi o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, gan fod yr hwyl wedi myned yn ormod i'r Saesonaeg ei dal. Preswylid y rhan fwyaf o'r anedd-dai bychain ar ochr y Brynmawr y pryd hwnw gan ddynion crefyddol. Crybwyllasom yn hanes y Sarnau am un John Davies, dilledydd wrth ei alwedigaeth, yn byw yn y Gilfach, ac yn aelod ffyddlon yn y Sarnau. Cynhaliai gyfarfodydd gweddio yn ei dy ar y Sabbothau, o'r flwyddyn 1787 hyd 1791 ; ond yn y flwyddyn olaf a nodwyd symudodd i Ty'nystryd, Llanerchemrys, a pharhaodd yr un modd yma i gynal cyfarfodydd gweddi Yn ei dy am saith mlynedd. Adeiladodd dy bychan iddo ei hun, a galwodd ef Penygroes, a thrwyddedodd ef i bregethu tua 1798, neu y flwyddyn ganlynol. Bron yr un amser dechreuwyd pregethu yn yr Aethnen, lle preswyliai Mr Thomas Moreton, mab Mr Moreton, Pentreheilyn. Yn fuan ar ol dechreu pregethu yn y ddau le, corphorwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys. Yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys oeddynt John Davies, a'i wraig Ann Davies; Thomas Moreton, a'i chwaer Rebecca Moreton; Edward Edwards, slater, ac Elizabeth Edwards ei wraig. Dyma flaenffrwyth eglwys Penygroes. Yn 1801, derbyniwyd pump o aelodau newyddion yn yr Aethnen gan y gweinidog, Mr David Richards, Sarnau; sef Thomas Davies, y Fenn; James Edwards, Tynyrywen ; Robert Williams, Crydd ; Ann Evans, a Mary Jones, merched John Davies, Penygroes. Coffeir am Meistri Rees Davies; Azariah Shadrach ; Hugh Pugh, o'r Brithdir ; Jenkin Lewis, Llanfyllin; David Thomas, o Lanfair, John Jones, Afonfechan ; J. Lewis, Llanuwchllyn ; ac eraill, yn mysg y pregethwyr a ymwelent a'r Aethnen a Phenygroes yn yr adeg dan sylw.

333

Pregethodd y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, hefyd lawer yn yr ardal, a choffeir yn nodedig am bregeth o eiddo Mr Robert Jones, yr hon a draddodedd efe yn y flwyddyn 1808, oddiar y geiriau, " Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl ?" a'r hon a ddilynwyd ag effeithiau grymus. Dalai amryw o aelodau y Sarnau yma i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio yn absenoldeb pregethwr. Yr oedd Edward Morris, gwas i Mr Owens, Penrhos, yn un o'r cyfryw. Pan glywodd ei feistr fod Edward wedi ymuno a'r capelwyr ffromodd yn aruthr, a dywededd wrtho am ddewis yr un a fynai- ai y Penrhos, ai y capel. " 0 y Capel, Syr," meddai Edward, heb ddim petrusder. " Yna, ynte, ymadewch a'm gwasanaeth," meddai ei feistr ; ac felly fu. Yn mhen amser, daeth ei hen feistr heibio i Edward, a chafodd ef yn teri cerig ar yr heol. " Well, Edward, pa un yw y goreu, y capel a thori cerig, ai ynte Penrhos heb y capel ?" " Y capel a thori cerig o ddigon, Syr," meddai Edward. " Wel," ebe y boneddwr, " dos yn dy ol i dy hen wasanaeth yn Penrhos," ac felly yr aeth, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu Mr. D Richards yn gweinyddu i'r eglwys yn Aethnen a Phenygroes tra y gallodd. Gwnaeth John Davies ystafell at ei wasanaeth yn gydiol a'i dy, fel y gwnaethal y Sunamees hono i Eliseus y prophwyd, yr hwn a dramwyai heibio. Wedi marwolaeth Mr Richards, daeth Mr Daniel Davies, ei olynydd yn y Sarnau, i ofalu am y gangen hon hefyd ; ac yn fuan ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr Davies y cedwyd y capel yma. Sylfaenwyd ef yn y flwyddyn 1811, ond nid agorwyd mo hono yn gyhoeddus hyd Ebrill 21ain, 1813. Pregethwyd yn y boreu gan Mr James Davies, Aberhafesp ; a Mr J. Lewis, Bala ; yn y prydnhawn gan Mr Lewis, Newport ; a Mr W. Williams, o'r Wern ; ac yn yr hwyr gan Mr E. Davies, a Mr C. Jones, Dolgellau. * Y personau oedd a'r llaw flaenaf yn nghodiad y capel oeddynt Meistri Roberts, Priddbwll ; Moreton, Aethnen ; T. Davies, Felin; ar hen frawd ffyddlon John Davies. Costiedd y tir £10, a'r adeilad £190, ond cafwyd digon o gerig ato o'r tir lle y saif. Llafuriodd Mr Davies yma nes y symudodd i Woolerton, Sir Amwythig. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Ridge, ac urddwyd ef Awst 4ydd, 1820. Bu Mr Ridge yn hynod boblogaidd yn y cymydogaethau hyn, a'i weinidogaeth yn dra llwyddianus. Adfywiwyd y canu yn fawr, oblegid rhoddodd Mr Ridge i'r rhan hono o wasanaeth y cysegr sylw arbenig. Talwyd rhan fawr o ddyled y capel, ac aed i draul i wneyd eisteddleoedd newyddion ynddo gan fod galwad am danynt ; ond yn nghanol ei ddefnyddioldeb symudodd Mr Ridge i'r Bala, yn 1824. Yn nechreu Ionawr, 1827, cymerodd Mr John Rees ofal yr eglwys, yr hwn ddwy flynedd cyn hyny oedd wedi ei urddo yn y Sarnau, a bu Mr Rees yma yn llwyddianus am chwe' blynedd, nes y symudodd i Loegr. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Rees, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr John Williams, Ffestiniog, (Llansilin erbyn hyn), a bu Mr Williams yn gweinidogaethu yma ac yn Llansilin hyd nes yr ymfudodd i America, yn y flwyddyn 1840. Wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Howes, yr hwn a urddasid ychydig cyn hyny yn Llansantffraid, a bu yma hyd nes y symudodd i Fachynlleth, yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1840. Yn nechreu y ftwyddyn 1842, derbyniodd Mr Hugh James, Brithdir, alwad gan yr eglwys hon, a'r eglwysi yn Llansantffraid a Llansilin, a dechreu-

*Evangelical Magazine, 1813. Tudal. 430.

334  

odd ar ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono; ac er hyny hyd yr awr hon y mae wedi llafurio yma gyda pharch a chymeradwyaeth mawr. Adgyweiriwyd y capel yn 1845, trwy draul o £30, ond erbyn 1858 barnwyd y dylesid tynu yr hen dy i lawr, ac adeiladu un gwell a helaethach, yr hyn a wnaed trwy draul o £180, heb gyfrif y llafur a roddwyd yn rhad ; ac y mae yr holl ddyled wedi ei thalu. Nid ydym yn cael fod ond dau bregethwr wedi codi yma, sef Edward Davies, yr hwn a ddaw dan ein sylw yn nglyn a Smyrna ; a Thomas Morgan sydd yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Nghroesoswallt. Mae yma lawer o bersonau ffyddlawn a chywir wedi bod yn nglyn a'r achos heblaw y rhai y coffawyd am danynt eisioes ; ac er nas gallwn ni gofnodi eu henwau yma, mae en cymeriadau yn sail dda i gasglu fod eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.

Translation by Maureen Saycell

Penygroes is in the tithe of Llannerchemrys, in the parish of Llansanffraid yn Mechain. The Chapel was named after a small dwelling near where it stood. Those who started the cause were mainly members of Sarnau and it was considered a branch of it. Around 1795, or maybe sooner, Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, opened his home for the Independents to preach there and despite his landlord's disapproval, continued to do so until 1803, when he moved to Llwydiarth and it was there hat he truly opened his home to the scripture, as we will see from Penllys and Braichywaun. After Mr Moreton's departuure one John Badda opened his home on the side of Brynmawr to preaching, meetings continued here for many years. It is said that Mr Williams, Wern, once, around 1812, went from English to Welsh half way through a sermon as he found it too difficult to control his enthusiasm in the English language. Most of the houses on Brynmawr were occupied by religious families. We mentioned John Davies, Draper, with Sarnau, who lived in Gilfach and was a faithful member of that chapel. He held prayer meetings in his home on Sundays from 1787 to 1791, in that year he moved to Ty'nystryd, Llanerchemrys, and meetings continued there for 7 years. He built himself a small house and named it Penygroes, it was licensed for preaching in 1798 or the following year. Almost the same time preaching began at Aethnen, where Mr Thomas Moreton, son of Mr Moreton, Pentreheilyn. Soon after this a church was etablished with the few members here. The members when the church was formed were - John Davies, his wife Ann Davies; Thomas Moreton, and sister Rebecca Moreton; Edward Edwards, slater, and Elizabeth Edwards his wife. In 1801, 5 new members were confirmed at Aethnen by the minister Mr David Richards, Sarnau - they were Thomas Davies, Fenn; James Edwards, Tynyrywen ; Robert Williams, Cobbler ; Ann Evans and Mary Jones, daughters of  John Davies, Penygroes. The following ministers are remembered for their visits to both chapels at this time - Messrs Rees Davies; Azariah Shadrach ; Hugh Pugh,  Brithdir ; Jenkin Lewis, Llanfyllin; David Thomas, Llanfair, John Jones, Afonfechan ; J. Lewis, Llanuwchllyn ; and others.The 2 brothers Messrs R and C  Jones, Llanfyllin also preached here frequently, and one particular sermon by Mr Robert Jones in 1808 with "How long do you hesitate between two minds" as the title which led to deep effects. Many members of Sarnau continued to support here, one was Edward Morriss, farm servant to Mr Owens, Penrhos. When his master heard that he had joined the chapel he gave him a choice of keeping his job or the chapel, he chose the chapel. After some time his old boss came to see Edward and found him breaking stones on the road, he asked him again whether he preferred breaking stones and the chapel or his previous work at Penrhos. His reply was the former so his old boss told him to return to his old position at Penrhos, where he remained for the rest of his life. Mr D Richards ministered to Aethnen and Penygroes while he was able. After his death Mr Daniel Davies, his successor at Sarnau, came to care for this branch as well and soon after he began his ministry a chapel was established here. It was started in 1811 but it was not opened officially until April 21st, 1813. The following took part -  Mr James Davies, Aberhafesp, Mr J. Lewis, Bala, Mr Lewis, Newport, Mr W. Williams, Wern, Mr E. Davies, and Mr C. Jones, Dolgellau. *  Those who led the efforts to build the chapel were Messrs Roberts, Priddbwll ; Moreton, Aethnen ; T. Davies, Felin; and the old faithful  John Davies. The land cost £10, the building £190, there was enough stone available where it stood. Mr Davies worked here until he moved to Woolerton, Shropshire. Following his departure the church called Mr John Ridge, he was ordained August 4th, 1820. He was a very popular in the area and his ministry successful. Singing was greatly improved as he gave this area of worship extra care. A large part of the debt was paid and expense was incurred to put in seating which was needed, but amid his success he moved to Bala in 1824. In January 1827 Mr John Rees took on the care of the church, he had been ordained at Sarnau 2 years earlier, he remained here for 6 years then moved to England. Next a call was sent to Mr John Wiliams, Ffestiniog (now Llansilin), until he emigrated to America in 1840. Next was Mr John Howes, ordained at Llansanffraid, he moved to Machynlleth toward the end of 1840. Early 1842 Mr Hugh James, Brithdir, was called in conjunction with Llansanffraid and Llansilin and began his ministry in May of that year. Since then he has served here faithfully and well. The chapel was restored in 1845 at a cost of £30 but in 1858 it was decided to demolish the old house and to rebuild a larger one, this was done at a cost of £180 - not counting the free labour, it has all been paid.

We only know of two that were raised to preach here -

  • EDWARD DAVIES -  see Smyrna
  • THOMAS MORGAN - now a supporting preacher in Oswestry

There have been many good people over the years but we do not know their names.

*Evangelical Magazine, 1813, page 430.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

LLANSANTFFRAID

Pa mor bell yr effeithiodd gweinidogaeth nerthol pregethwyr y cyfnod cyntaf ar Lansantffraid-yn-Mechain, nid oes genym un wybodaetb. Os dygwyd rhai o'r trigolion dan ddylanwad yr efengyl, nid oes yr un prawf o hyny wedi ei adael ar gof a chadw i ni. Cawn fod rhai yn mhlwyf Llanfechain yn glynu wrth yr Arglwydd. Cyfarfyddent yn nhai Arthur Chidlaw a Richard Trollus, ac yr oeddynt o 50 i 60 o rifedi. Yr ydym wedi cael enw Arthur Chidlaw eisioes yn un o'r rhai a adeiladasant gapel Llanfyllin ; ac yr ydym yn cael enw Richard Trollus yn mysg y rhai a garcharwyd yn y Trallwm o achos enw yr Arglwydd Iesu. Nid oes gan yr Annibynwyr yr un achos yn Llanfechain yn awr, ac nid ydym yn cael fod un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma, er pan rwystrwyd Mr Robert Jones, Llanfyllin, i bregethu yn yr awyr agored gerllaw Pontydreflan.

Yn 1805, daeth Miss Mary Ann Jones, i Lansantffraid, i gadw siop, mewn ty a adeiladasid iddi. Yr oedd hi er's mwy na deng mlynedd cyn ei dyfodiad yma yn aelod yn Llanfyllin, ac wedi symud yma ymunodd a'r cyfeillion a gyfarfyddent yn Aethnen a Phenygroes; ond mynodd hefyd drwyddedu ei thy newydd yn Llansantffraid yn lle i bregethu ; a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan ei brawd, Mr Robert Jones, Llanfyllin. Parhawyd i gynal moddion crefyddol yn y siop newydd am flynyddau, a phregethid yma fynychaf gan weinidog Penygroes, dan ofal yr hwn yn benaf yr oedd y lle. Bu Miss Jones yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, ac wedi iddi briodi a Mr Richard Tibbott, parhaodd y ddau yn eu gofal am achos y Gwaredwr yma hyd nes y symudasant i Lanfyllin yn 1819. Cymerodd Mr David Jones, brawd Mrs Tibbott, y siop ganddynt ar eu symudiad i Lanfyllin ; a chymaint oedd pryder y chwaer dduwiol am yr achos, fel y mynai rwymo ei brawd trwy gytundeb i gadw cartref iddo. Ond ni fynai Mr David Jones ei rwymo felly, ac nid oedd achos chwaith, canys yr oedd ei galon yntau yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd, fel y cadwyd y pregethu yn rheolaidd fel o'r blaen. Gwnaed llawer cynyg am gael tir i adeiladu capel, and yn aflwyddianus am fod yr holl dirfeddianwyr yn dra gelynol i Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr. Yn 1826, prynodd Mr Jones faes gerllaw y Dreflan, a thalodd am dano lawer mwy na'i werth - oblegid fod yno eraill yn cynyg yn ei erbyn yn yr

335

arwerthiant - a hyny yn unig er mwyn cael lle i adeiladu capel arno. Rhoddodd ddarn o hono yn rhad i godi y capel arno, a bu amaethwyr y gymydogaeth yn garedig i gludo y defnyddiau; ac agorwyd of Hydref 9fed a'r 10fed, 1827. Pregethwyd y noson gyntaf gan. Meistri J. Ridge, Bala; a J. Roberts, Llanbrynmair. Dranoeth, am 10, gan Meistri J. Roberts ; a J. Pearce, Wrecsam. Am 2, gan Meistri T. W. Jenkyn, Croesoswallt ; a J. Jones, Main. Am 6, gan Meistri I. Harris, Wyddgrug ; G. Ryan, Trallwm; a J. Griffiths, Llandegle. Cymerodd Meistri C. Jones, Llanfyllin ; ac E. Davies, hefyd ran yn y gwaith. Felly symudwyd yr arch o dy Mr Jones, Siop, lle y buasai am 22 mlynedd, i'w thrigfa sefydlog yn Bethesda. Bu Llansantffraid mewn undeb a Phenygroes am dymor wedi codi y capel; ac er y byddai pregethu rheolaidd a chymundeb achlysurol yn y lle blaenaf, nid oedd etto eglwys Annibynol wedi ei ffurfio. Mai 8fed, 1829, y cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y capel newydd, pryd y derbyniwyd pedwar o aelodau newyddion i gymundeb. " Dyma y rhai cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb ar ol pedair-blynedd-ar-hugain o lafurio a phregethu yn y pentref gan wahanol weinidogion yr efengyl Dim ond PEDWAR fel ffrwyth llafur PEDAIR- BLYNEDD-AR-HUGAIN !! A'r hyn sydd yn hynod ydyw, gwrthgiliodd y pedwar - llafurio yn galed am bedair-blynedd-ar-hugain cyn gweled blodeu, ac wedi eu gweled, y rhai hyny yn gwywo cyn dwyn ffrwyth."

Yn 1832, ymadawodd Llansantffraid oddiwrth Penygroes, oblegid methu cydweled yn newisiad. gweinidog ; a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol gan Mr David Price, Penybontfawr, yr hwn hefyd a weinyddodd Swper yr Arglwydd iddynt. Nid oeddynt ond 11 mewn rhifedi. Pregethid iddynt o hyny allan gan weinidogion a phregethwyr cylchynol, ond yn benaf gan Mr Price, Penybont ; ac yn Rhagfyr, 1834, rhoddwyd galwad i Mr Price i fod yn weinidog i'r eglwys fechan, wedi ei harwyddo gan 15 o bersonau, sef y cwbl oedd ar y pryd yn aelodau ynddi. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr Price yma yn hynod ddirodres. Yr oedd Mr Williams, o'r Wern yn dygwydd dyfod heibio ar noson o'r wythnos ; a chymerwyd mantais ar ei ddyfodiad i sefydlu y gweinidog newydd. Eglurodd Mr Williams natur eglwys, a'i hawl i ddewis ei gweinidog, yna gofynodd arwydd cyhoeddus y gynnulleidfa o'u dewisiad o Mr Price, ac arwyddodd Mr Price ei gydsyniad mewn anerchiad priodol; yna anerchodd Mr Williams y gweinidog, yr eglwys, a'r gynnulleidfa, a therfynodd trwy weddi. Chwanegwyd amryw at yr eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr Price, a lluosogodd y gynnulleidfa i raddau mawr, ond oherwydd pellder ffordd ac amledd ei ofalon, rhoddodd yr eglwys i fyny yn niwedd 1838. Yn nechreu 1839, rhoddwyd galwad i Mr John Howes, yr hwn a ddygasid i fyny gyda'r Wesleyaid, ond a oedd y pryd hwnw yn aelod yn Mangor yn yr eglwys dan ofal Dr. Arthur Jones, ac urddwyd of Mai 14eg. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Holwyd y gofyniadau arferol gan Mr J. Williams, Llansilin. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr James Davies, Llanfair. Pregethodd Dr. Arthur Jones, Bangor, i'r gweinidog ; a Mr D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri C. Jones, Llanfyllin ; J. Morris, Main ; T. Griffiths, Rhydlydan ; J. Jones, Preshenlle ; E. Wynne, Llanrhaiadr; T. Richards; ac E. Jones, (Ieuan Gwynedd), Penybontfawr. Llafuriodd. Mr Howes yma gyda mesur o lwyddiant hyd Hydref, 1840, pryd y symudodd i Salem, Machynlleth. Yn Mawrth, 1842, rhoddodd yr eglwys yma - mewn cysylltiad a'r eg-

336

lwysi yn Llansilin a Phenygroes - alwad i Mr Hugh James, o'r Brithdir, yr hwn a urddasid yn weinidog yno ac yn Rhydymain dair blynedd cyn hyny ; a dechreuodd Mr James ei weinidogaeth yma yn Mai y flwyddyn hono ; ac wedi cael nerth gan Dduw, y mae yn aros hyd yr awr hon. Tri-a-deugain oedd rhifedi yr aelodau a roddasant alwad i Mr James, nawmlynedd-ar-hugain yn ol, ac fel y gallesid disgwyl, y mae y rhan fwyaf o honynt wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Er na bu yr eglwys hon erioed yn lluosog, y mae wedi bod yn weithgar a haelionus. Costiodd y capel cyntaf - yn 1827-£153/17/00. Gwnaed adgyweiriadau yn 1837, a gostiodd £29/13/81/2c. Yn 1844, helaethwyd a prydferthwyd ef trwy draul o £215, fel yr oedd yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled ; ond trwy gydymdrech yr eglwys a'i gweinidog, ac ychydig o help gan gyfeillion oddi allan, talwyd yr holl ddyled, ac yn ddiweddar codwyd ysgoldy cyfleus yn nglyn a'r capel at gadw ysgol ddyddiol. Yn mysg yr un-ar-ddeg oeddyn gwneyd yr eglwys i fyny ar ei chorpholiad, cawn enw Edward Bowen, am yr hwn y dywed y diweddar Mr D. Jones, y ffaith darawiadol a ganlyn. Teimlai Edward Bowen, pan yn ieuangc, yn erlidgar lawn ei ysbryd tuag at yr Ymneillduwyr, a thuag at Mr J. Griffiths, Llanfyllin - Caernarfon wedi hyny - yn arbenig. Ar un Sabboth, pan oedd Mr Griffith yn myned i'r Sarnau, penderfynodd Edward Bowen ymosod arno, a safodd ar bentwr o gerig yn ochr y ffordd, gan benderfynu ei labyddio pan ddeuai heibio. Yn fuan dyma Mr Griffith yn dyfod, a gwelodd Edward o draw, ac amheuodd ei amcan, ac wrth nesau ato gwnaeth fow boneddigaidd. Tarawodd hyn yn effeithiol ar Edward, a meddyliodd fod yn rhaid fod Mr Griffith yn rhywun allan o'r ffordd gyffredin, a gadawodd iddo fyned heibio heb gynyg gwneyd niwed iddo. Yr oedd Edward Bowen y pryd hwnw yn llanc ugain oed, ac o hyny i'w fedd bu a wnelai a'r grefydd yr hon gynt a erlidiasai. Er nad oedd yr eglwys yma ond bechan, bu ynddi gryn nifer o ffyddloniaid, o ba rai y mae amryw wedi huno, ond y mae etto rai yn aros, Nis gallwn eu crybwyll yma, ond ni bydd yn dramgwydd i neb i ni enwi teulu y Siop, y rhai er dechreuad yr achos a fuont ei brif gynhalwyr. Mam yn Israel oedd Mrs Jones, tirion ac ymgeleddgar, ac o foreu ei hoes hyd derfyn ei dyddiau, bu yn ffyddlon yn holl wasanaeth Ty yr Arglwydd.

Codwyd dau i bregethu yma, David Jones ; ac Edward Jones, yr hwn a aeth oddiyma i Lanuwchllyn.

  • David Jones. Ganwyd ef yn Llanfyllin, Rhagfyr 2il, 1797.......................................

(not fully extracted)

337

338  

Translation by Maureen Saycell (Feb 2010)

How much influence the strong ministry of the powerful preachers had in the early days is not documented. We know that some were influenced by religion, some 50 to 60 met in the homes of Arthur Chidlaw and Richard Trollus, in Llanfechain, the former previously mentioned at Llanfyllin and the latter among those imprisoned for their faith in Welshpool. There are no Independents in Llanfechain now since Mr Robert Jones was prevented from preaching in the open air at Pontydreflan.

In 1805 Miss Mary Ann Jones came to Llansantffraid to be a shopkeeper, in a house built for her. For 10 years before she moved here she had been a member at Llanfyllin, joining Aethnen and Penygroes when she moved. She also licensed her house for preaching, the first sermon given by Mr Robert Jones, Llanfyllin. Regular worship continued here for years, she was a strong supporter to the cause. Following her marriage to Mr Richard Tibbott this continued until he moved to Llanfyllin in 1819. Her brother Mr David Jones took over the shop, such was her concern for the cause that she insisted on binding her brother to secure the future. This was unnecessary as his concern equalled hers. Many attempts were made to acquire land, unsuccessfully as the landowners were bitterly opposed to the Nonconformists. In 1826 Mr Jones bought a field near Dreflan, for far more than its worth, in order to secure it to build a chapel. He donated a part of it to build a chapel and the local farmers were kind enough to carry the materials. It was opened on October 9th and 10th 1827, those taking part were Messrs  J. Ridge, Bala;  J. Roberts, Llanbrynmair, J. Roberts and J. Pearce, Wrecsam., T. W. Jenkyn, Oswestry ,I. Harris, Mold , G. Ryan, Welshpool and J. Griffiths, Llandegle. Messrs C. Jones, Llanfyllin and E. Davies, also took part. So the ark was moved from the shop after 22years to its new home in Bethesda. Llansanffraid and Penygroes worked together and despite that the communion was held in the former although no church was embodied there. Four new members were confirmed, the first in 24 years, unfortunately these flowers faded and left.

In 1832 Llansanffraid and Penygroes went their separate ways after failing to agree on the choice of minister. Llansanffraid was formed into an Independent church by Mr David Price, Penybontfawr, who also  celebrated the Lord's Supper with them.. They were only 11 in number. From that time they were served by circulating ministers, but mainly by Mr Price and in December 1834 a call was given to Mr Price to become their minister, signed by 15 people, all the members.His settlement service was a little unceremonious. Mr Williams, Wern, happened to come to the village and advantage was taken to settle the new minister. Mr Williams explained the nature of a church, confirmed that he was their choice and Mr Price accepted the invitation in an appropriate address. Mr Williams then addressed the congregation, ending with a prayer. Many were added to the church during Mr Price's ministry, but due to distance and work load he gave up the church at the end of 1838. Early 1839 Mr John Howes was called, he had been brought up as a Wesleyan but at the time was a member at Bangor under Dr Arthur Jones and was ordained May14th. The following took part in the celebration - Messrs S. Roberts, Llanbrynmair. Mr J. Williams, Llansilin. Mr James Davies, Llanfair.  Dr. Arthur Jones, Bangor, and Mr D. Price, Penybontfawr, C. Jones, Llanfyllin ; J. Morris, Main ; T. Griffiths, Rhydlydan ; J. Jones, Preshenlle ; E. Wynne, Llanrhaiadr; T. Richards; and E. Jones, (Ieuan Gwynedd), Penybontfawr. Mr Howes worked here with some measure of succes until October, 1840, when he moved to Salem, Machynlleth. In March,1842, this church in association with Llansilin and Penygroes called Mr Hugh James, Brithdir who had been ordained there and Rhydymain 3 years before. Mr James began his ministry in May that year and remains in post.there were 43 members when he was called 29 years ago, most of them now gone the way of all of us. The church was never high in numbers, but industrious and generous. The first chapel in 1827 cost £153/17/00. Maintenance in 1837 cost £29/13/81 in 1837. It was extended and renovated at a cost of £215 making it one of the prettiest chapels to be seen, through tremendous effort the debt was cleared and recently a schoolhouse has been added, to keep a day school. Among the 11 original members we find Edward Bowen, of whom the late Mr  D Jones said that in his younger days Edward Bowen was a persecutor of the nonconformists, and Mr Griffiths, Llanfyllin, later Caernarfon, particularly. One Sunday he decided that he would attack him and sat waiting for him with a pile of stones at the ready. Mr Griffiths had spotted him and greeted him with a deep bow, this made him decide that this was a man out of the ordinary and let him go unharmed. He was 20 years old and spent the rest of his life celebrating the religion. There have been many supporters, Mrs Jones, the Shop was a great help throughout her life.

Two were raised to preach here -

  • Edward Jones - left for Llanuwchllyn.
  • David Jones - Born Llanfyllin December 2nd, 1797 ..............(not fully extracted)

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

LLANSILIN

(DENBIGHSHIRE)

Mae Siroedd Maldwyn, Dinbych, a'r Amwythig yn cydgyfarfod yma ; and y mae eglwys Annibynol y lle wedi bod o'r dechreuad yn nglyn chyfundeb Sir Drefaldwyn. Tua'r flwyddyn 1807, y mae genym yr hanes cyntaf am ddechreuad pregethu yma gan yr Annibynwyr. Yn nhy Hugh Jones, Ty'nllan y pregethwyd gyntaf, a'r tebygolrwydd yw mai Mr D. Richards, Sarnau, oedd y pregethwr. Miriam, gwraig Ty'nllan, oedd yn fwyaf awyddus am groesawu y pregethwyr. Symudodd y teulu o Ty'nllan i le o'r enw Workhouse, a llwyddodd Miriam i gael gan ei gwr ganiatau pregethu yno drachefn. Un tro, yr oedd Mr Robert Roberts, Llanuwchllyn, yma yn pregethu, a'r gynnulleidfa yn aflonydd a therfysglyd, o'r diwedd dywedodd, " Byddwch ddistaw, da gyfeillion, gad mi gael dyweyd gair wrthych am y ffordd i gadw enaid rhag angeu, bydd llon'd fy ngenau i o bridd yn fuan." Cafodd lonydd ar hyny. Bu cyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn y Priddbwll; a thua'r flwyddyn 1810, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol yn Melinyglasgoed, ac yr oedd Edward Davies, y Felin ; Robert Roberts, o'r Priddbwllmawr; a Richard Hughes, Hafodty, yn mysg yr athrawon cyntaf. Symudwyd yr Ysgol yn mhen tua dwy flynedd i Pyllaumeirch ; ac wedi bod yno am dymor byr, symudwyd hi drachefn i Wern Llyffeint. Yn y flwyddyn 1815, prynodd Edward Williams, Llansilin ; R. Roberts ; ac R Hughes, tai a gardd, gan un Dafydd Jones, Crydd, yr hwn a breswyliai yn un o'r tai, am £220. Gelwid y tai yr  "Henstent." Ni wyddai Dafydd Jones wrth werthu y tai a'r ardd y bwriedid codi capel arno, a phan ddeallodd hyny ffromodd yn aruthr, ac nid gweddaidd iawn oedd yr iaith a ddefnyddiai; ac nid llawer "well ei foes a'i iaith oedd yr offeiriad hefyd o'i bulpud. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar, yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Trwy anhawsderau mawrion yr aed yn mlaen - gomeddwyd hwy o gerig at adeiladu o un man yn y plwyf; fel y bu raid cario priddfeini o ymyl Croesoswallt ato. Y fath drafferth a gafodd Ymneillduaeth i gael lle i roddi ei throed i lawr  mewn llawer plwyf yn Nghymru. Yn 1816, gwerthwyd y capel a'r tai i saith o ymddiriedolwyr, am £340, ac o'r adeg yma y gellir dyddio dechreuad yr achos yn Llansilin. Gweinidogion Penygroes a ofalent am yr achos yn benaf hyd ymadawiad Mr Ridge, yn 1824 ; and am rai blynyddau ar of hyny ymddibynai ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr.Yn 1831, rhoddwyd galwad i Mr John Williams, Ffestiniog; a chynhaliwyd cyfarfod i'w sefydlu, Tachwedd 3ydd, a'r 4ydd, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Llandrillo; D. Price, Penybontfawr; E. Davies, Smyrna ; T. W. Jenkyn, Croesos- wallt ; a W. Williams, o'r Wern. Isel oedd yr achos ar ddyfodiad Mr Williams, and yn fuan lluosogodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd rhai at yr eglwys. Penderfynwyd cael capel newydd, a chodwyd capel da, yn mesur 33 troedfedd wrth 27 troedfedd; ac aeth y draul yn £180, ac agorwyd ef Rhagfyr 23ain a'r 24ain 1832. Llafuriodd Mr Williams yma nes y symudodd i America, yn nechreu 1840. Yr un flwyddyn rhoddwyd galwad Mr Howes, yr hwn oedd ychydig cyn hyny wedi ei urddo yn Llansantffraid, a bu yma hyd ddiwedd 1840, pan y symudodd i Fachynlleth. Yn 1842, daeth Mr H. James a weinidogaethu mewn cysylltiad a Llansantffraid a Phenygroes, a than ei ofal bugeiliol ef y mae

339

y lle yn parhau. Er fod dyled drom ar y lle pan ymadawodd Mr Williams i America, etto yn nhymor gweinidogaeth Mr James talwyd y cwbl. Yn niwedd y flwyddyn 1870, adgyweiriwyd a helaethwyd y capel trwy draul o fwy na £170, ac y mae mwy na'r haner eisioes wedi ei dalu.

Codwyd i bregethu yma Richard Davies, yr hwn sydd yn aros yn bregethwr cymeradwy yn y lle ; a Thomas Griffiths, yr hwn a urddwyd yn Rhydlydan, yn 1838, ac sydd yn awr yn Wigan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN WILLIAMS. Ganwyd of Mawrth 17eg, 1791, yn mhlwyf Llandilofawr, Sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel Isaac, gan Mr Daniel Jones, Crygybar, yn 1810. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac yn 1818 aeth i'r ysgol i Neuaddlwyd, lle yr arosodd fwy na dwy flynedd. Cafodd alwad o Bethania, Ffestiniog, ac urddwyd ef yno Mai 31ain, 1821. Llafuriodd yno yn ddiwyd am 10 mlynedd. Casglodd tra yno gan' gini yn Llundain at dalu dyled capel Bethania, a gwelodd ef yn rhydd o ddyled, ac wedi ei helaethu. Symudodd i Lansilin yn nechreu 1831, a'r flwyddyn ganlynol cymerodd ofal Penygroes hefyd ; a bu yno hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America. Sefydlodd yno yn gyntaf yn swydd Indiana, yn agos i Ebensburgh, Pensylvania, lle yr arhosodd am wyth mlynedd. Oddiyno symudodd i Palmyra, Ohio, lle y llafuriodd am naw mlynedd ; ac oddiyno drachefn i Harrison, yn yr un dalaeth, lle y bu am y chwech neu y saith mlynedd olaf o'i oes. Claddodd ei wraig yn 1863, ac yn fuan wedi hyny symudodd at ei ferch yn agos i Newark ; ac yno y bu farw, Hydref bed, 1865.*

Yr oedd Mr Williams yn ddyn da, ond o duedd gwynfanus, ac yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bob peth. Gwedd felly fyddai ar ei bregethau, ond yr oedd ei lais yn dyner a thoddedig. Profodd ymfudo yn fanteisiol iddo yn ei amgylchiadau bydol ; a bu yn llawn mor ddefnyddiol yno, ag y gallesid disgwyl iddo fod yn y wlad hon. Bu yn pregethu yr efengyl am fwy na haner can' mlynedd, a disgynodd i'r bedd heb golli ei goron.

*Cenhadwr Americanaidd, Ebrill 1869

Translation by Maureen Saycell (March 2010)

Montgomeryshire, Denbighshire and Shropshire meet here, the Independent church here has always been included in the Montgomeryshire Union. Preaching began here around 1807, in the homeof Hugh Jones, Ty'nllan and it is likely that the preacher was Mr D Richards, Sarnau. Miriam, the wife at Ty'nllan was the keenest to welcome preachers. When they moved to a place named Workhouse she, again, got her husband to permit preaching here . One time Mr Robert Roberts, Llanuwchllyn was preaching here to an uneasy audience, when he said to them "Be quiet, good friends, and let me tell you how save your souls, my mouth will soon be filled with earth." He had peace after that. Religious socials were held in Priddbwll and around 1810 a Sunday School was started at Melinyglasgoed, among the first teachers were Edward Davie , Felin, Robert Roberts, Priddbwllmawr and Richard Hughes, Hafodty. In 2 years the school was moved to Pyllau-meirch, and having been there for a short time it moved again to Wern Llyffeint. In 1815 Edward Williams, Llansilin, R. Roberts and R Hughes bought houses with gardensfrom a Dafydd Jones, Shoe repairer, who lived in one of them for £220. The houses were called "Henstent". When he sold the houses Dafydd Jones did not realise that the intention was to build a chapel here and when he found out he was furious and his language foul, but it was too late. It was with great difficulty that they continued, they were refused stone from one place in the parish and they were forced to cart it in from Oswestry. This struggle was repeated throughout Wales. In 1816 the chapel and houses were sold to 7 trustees for £340, and it is from this time that the cause in Llansilin can be dated. It was the ministers of Penygroes that took care of them until the departure of Mr Ridge in 1824. For some time after that they depended on occasional ministers. In 1831 a call was given to Mr John Williams, Ffestiniog and his induction service was held on November 3rd and 4th of that year Messrs H. Pugh, Llandrillo; D. Price, Penybontfawr; E. Davies, Smyrna ; T. W. Jenkyn, Oswestry, and  W. Williams, Wern, took part. The cause was very low when he arrived but the congregation grew and some nw members were added soon after. A new chapel was constructed, measuring 33 x 27 feet at  a cost of £180. It was opened on December 23rd and 24th. Mr Williams worked here until he emigrated to America in 1840. The same year Mr Howes, recently ordained at Llansanffraid, who stayed to the end of 1840 when he moved to Machynlleth. In 1842 Mr H James came here in association with Llansanffraid and Penygroes, he remains here. There was a large debt here when Mr Williams left for America, but it has now been cleared. In 1870 the chapel was repaired and extended  at a cost of £170, more than half is already paid.

The following two were raised to preach here:

  • RICHARD DAVIES - who remains here.
  • THOMAS GRIFFITHS - ordained Rhydlydan, 1838 - now in Wigan.

BIOGRAPHICAL NOTES*

JOHN WILLIAMS - Born March 17th, 1791. Llandilofawr, Carmarthenshire - confirmed Capel Isaac by Mr Daniel Jones, Crugybar in 1810 - began preaching 1815 - College at Neuaddlwyd in 1818 for remained for over 2 years - called and ordained Bethania, Ffestiniog on May 31st, 1821 - served there for 10 years, collected over 100 Guineas in London to clear the debt on Bethania, and extended - moved to Llansilin 1831, took on the care of Penygroes the following year, remained till 1840 when he went to America - settled initially in Indiana, near Ebensburgh, Pensylvania, stayed 8 years - to Palmyra, Ohio for 9 years - then to Harrison, Ohio for the last 7 years of his life - buried his wife in 1863, moved to his daughter near Newark, where he died in October, 1865.*

 * American Missionary, April 1869.  

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SMYRNA

(Llanyblodwel parish, Shropshire)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanblodwel. Mae yr ardal yn myned dan wahanol enwau, ond Smyrna y gelwir y capel. Ymddengys fod pregethu achlysurol wedi bod yn y gymydogaeth yma gan yr Annibynwyr er y flwyddyn 1818. Bu pregethu yn nhy un John Morris, y White Horse, ac wedi hyny yn Tydraw, ac ar ol hyny yn nhy Edward Rees. Yn mhlith y pregethwyr cyntaf a ddeuent yma, yr oedd Meistri E. Davies, Cutiau; Lewis Pugh ; Rowland Roberts, o'r Bala ; a'r myfyrwyr oedd y pryd hwnw yn yr athrofa yn Llanfyllin. Aelodau yn Mhenygroes oedd y cyfeillion oedd yn byw yn yr ardal yma ; ac yn 1825, ar ol i Mr J. Ridge ymadael a'r ardal a myned i'r Bala, penderfynasant ymffurfio yn eglwys An-

* Cenhadwr Americanaidd, Ebrill, 1869,

340

nibynol yn nhy Edward Rees; a chymerodd Mr Edward Davies, Cutiau, yr hwn oedd erbyn hyn wedi dyfod i fyw i Drefach, eu gofal. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad ond pedwar-ar-ddeg ; ond glynasant yn ffyddlon wrth yr achos er lleied oeddynt. Pregethid yn rheolaidd bob nos Sabboth yn Nantmawr hyd nes y codwyd capel Smyrna, yn 1830. Codwyd ef gan Mr William Tannat, y Graig, gan yr hwn yr oedd prydles ar y fan, a gosodwyd ef i'r eglwys dan ardreth o £2 yn y flwyddyn; ond yr eglwys yn y lle a aeth i'r draul o'i drefnu oddifewn. Agorwyd ef Ebrill 24ain, 1831, trwy i Mr E. Davies, gweinidog y lle, bregethu ynddo am y waith gyntaf. Y Sabboth canlynol dechreuwyd Ysgol Sabbothol ynddo; ac ar y 9fed a'r 10fed o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus, pryd y pregethodd Meistri J. Morris, Llanfyllin ; M. Hughes, Llanwddyn; C. Jones, Llanfyllin ; J. Rees, Seaman; W. Morris, Llanfyllin; R. Jones, Llanfyllin ; D. Price, Penybontfawr ; a J. Griffiths, Blodwel. Llafuriodd Mr Davies yma yn ddiwyd nes y tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei weinidogaeth. Bu Mr J. Williams, Llansilin yn ei gynorthwyo dros dymor trwy ddyfod yma i gadw cymundeb ; ond pan urddwyd Mr J. Howes yn Llansantffraid, yn Mai, 1839, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a pharhaodd yn weinidog iddi hyd Mehefin y flwyddyn ganlynol. Yn niwedd yr haf hwnw, daeth Mr Robert Thomas, o Lanrwst - ond a fuasai am dymor yn yr Ysgol yn Marton - yma, ac urddwyd ef yn Nghroesoswallt, Tachwedd 26ain, 1840, i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwysi yn Smyrna a Bethel. Parhaodd Mr Thomas yn weinidog yma am yn agos i ddeunaw mlynedd, hyd Mai, 1858, pan y symudodd i'r Rhyl, Sir Fflint. Yn nechreu Ionawr, 1863, daeth Mr James Bowen, yma, yr hwn a urddasid yn weinidog Sir Ddinbych; ac efe yw y gweinidog presenol. Mae y lle ar y goror rhwng Cymru a Lloegr, ac y mae yr iaith Gymraeg yn colli tir yma yn gyflym. Mae yr eglwys wedi ymuno eisioes a chyfundeb Seisnig Sir Amwythig ; ac ofer fyddai disgwyl gwneyd daioni i'r genedl sydd yn codi, ond trwy bregethu iddynt yn yr iaith a ddeallir ganddynt.

Mae Mr. Bowen a'r eglwys yn llwyr fwriadu codi capel newydd, ac wedi sicrhau darn o dir at hyny ; ac y mae ganddynt yn barod swm da o arian wedi ei ddiogelu i'r perwyl. Maent yn ymddangos yn teimlo pwysigrwydd y sefyllfa drawsnewidiol y maent ynddi, ac yn gwneyd eu goreu i ddarparu ar gyfer hyny.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Melin Penybont, plwyf Llanblodwel, sir Amwythig, yn flwyddyn 1786. ..............................

(not fully extracted)

Translation by Maureen Saycell (March 2010)

This chapel is in the parish of Llanblodwel. The name for the area varies but the chapel is known as Smyrna. Occasional preaching began here around 1818. Preaching took place at the home of John Morris, White Horse, then at Tydraw and later still at the home of Edward Rees. Among the preachers who came here were Messrs E. Davies, Cutiau, Lewis Pugh, Rowland Roberts, Bala and the students then at Llanfyllin. The friends living in the area were members at Penygroes and after Mr J. Ridge left for Bala in 1825, they decided to form an Independent church here in the home of Edward Rees, the care was undertaken by Mr Edward Davies, Cutiau, now at Drefach. There were only 14 founding members but they kept faith despite the low numbers. Regular preaching took place on Sundays at Nantmawr until Smyrna was built in 1830. It was constructed by Mr William Tannat, Y Graig, who held a lease on it. He rented it to the church for an annual rent of £2, but it was the members who were responsible for the interior. It was opened with a sermon from the minister Mr E Davies, on April 24th, 1831. The following Sunday, a Sunday School was started, and on the 9th and 10th of June a more formal opening took place, when sermons were given by - Messrs  J. Morris, Llanfyllin, M. Hughes, Llanwddyn, C. Jones, Llanfyllin, J. Rees, Seaman, W. Morris, Llanfyllin, R. Jones, Llanfyllin, D. Price, Penybontfawr and J. Griffiths, Blodwel. Mr Davies worked here until he had a stroke which prevented him from fulfilling his ministry. Mr J Williams, Llansilin helped by holding monthly communion, but when Mr J Howes was ordained at Llansanffraid in May, 1839, he also took on the care of this church and continued until the following July. At the end of the summer Mr Robert Thomas, Llanrwst was ordained at Oswestry on November 26th, 1840, to be the minister there and also Smyrna and Bethel. Mr Thomas was here for 18 years, moving to Rhyl in May 1858. In January 1863 Mr James Bowen, who had been ordained in Denbighshire, came here and he is the current minister. This place is situated on the border with England and the Welsh language is losing ground and it would be a waste of time preaching to the current generation in a language they do not understand.

Mr Bowen and the church intend to build a new chapel, and have already acquired some land. They appear to understand the transition that is happening.

BIOGRAPHICAL NOTES*

EDWARD DAVIES - Born Penybont Mill, Llanblodwel, Shropshire in 1786 .....................    

(not fully extracted)

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

341

BETHEL

(Llanyblodwel parish, Shropshire ?)

Mae hanes Bethel yr un yn ei ddechreuad ag achos Smyrna. Dwy gangen o'r un cyff ydynt. Yn 1837, sicrhawyd darn o dir yr ochr ddwyreiniol i drefddegwm Sychtyn, i godi capel arno. Cafwyd y tir gan Edward Rees, am chwe' phunt a chwe' swllt. Sylfaenwyd y capel yn mis Mehefin, 1838, ac agorwyd ef Tachwedd 5ed a'r 6ed, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Morris, Main; J. Jones, Forden ; J. Howes, Bangor ; S. Davies, Ruabon ; S. Roberts, Llanbrynmair ; Griffiths, Blodwel; W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a enwodd y capel yn Bethel ; a D. Price, Penybontfawr. Costiodd £117, heblaw llafur rhad yr ardalyddion. Ffurfiwyd eglwys yma yn Mawrth, 1840 ; cytunwyd ar hyny yn rheolaidd mewn cyfarfod eglwysig yn Smyrna, Mawrth 12fed, a chorpholwyd yma eglwys gynwysedig o bedwar-ar-ddeg o bersonau. Er hyny hyd yn awr, y mae Bethel a Smyrna wedi bod dan ofal yr un gweinidogion, ac felly y maent yn bresenol dan ofal Mr Bowen. Nid yw yr faith Gymraeg wedi colli llawn cymaint o dir yn ardal Sychtyn ag y mae yn ardal Nantmawr ; ond gweithio yn mlaen y mae y Saesonaeg yma hefyd, fel y mae y gwasanaeth yn rhwym o gael ei gario yn mlaen yn y ddwy iaith, neu i'r efengyl golli ei gafael ar yr oes sydd yn codi.

Translation by Maureen Saycell (March 2010)

The beginnings of Bethel parallels Smyrna. They are two branches of the same tree. In 1837, a piece of land was secured on the eastern side of Sychtyn hundred, to build a chapel. The land was bought from Edward Rees for £6/6/-. The foundation was laid in June 1838 and opened on November 5th and 6th of the same year. the following took part - Messrs  J. Morris, Main, J. Jones, Forden, J. Howes, Bangor, S. Davies, Ruabon, S. Roberts, Llanbrynmair, Griffiths, Blodwel, W. Morris, Llanfyllin, who named the chapel Bethel and D. Price, Penybontfawr. It cost £117, labour was done by the locals with no charge.  A church was formed here in March 1840, this was formally agreed at a meeting in Smyrna on March 12th, and had 14 persons. Smyrna and Bethel have been in joint ministry since then, currently Mr Bowen. The Welsh language has not lost as much ground in Sychtyn as it has in Nantmawr, but is slowly diminishing.

 

CROESOSWALLT

(Oswestry, Shropshire)

Er mai yn Sir Amwythig y mae y dref, etto y mae yr achos Cymreig yma o'i gychwyniad wedi bod mewn cysylltiad a chyfundeb Sir Drefaldwyn, fel mai yn nglyn a'r Sir hon y mae yn fwyaf priodol i ni roddi ei hanes. Yn y flwyddyn 1836, ymneillduodd ychydig gyfeillion oddiwrth y Saeson i ddechreu achos Cymreig ; a chymerasant ystafell i'r perwyl gerllaw y White Lion, yn Willow Street. Yr oedd un John Edwards, pregethwr cynorthwyol o'u nifer, ac efe a bregethodd y bregeth gyntaf iddynt, Awst 7fed, 1836 ; ac ar yr 17eg o Fedi, 1837, ffurfiwyd yno eglwys gan Mr John Morris, Main, cynwysedig o 15 o aelodau. Mae tri o'r aelodau cyntaf yn aros yn yr eglwys etto, sef Thomas Griffiths ;

342

Evan Davies ; a Mrs Askin. Tybiai rhai o'r cyfeillion fod John Edwards a'i lygad ar gael ei ordeinio yma ; ac iddo, pan welodd nad oedd gobaith am hyny, gilio yn ol at y Saeson. Bu y gweinidogion a'r pregethwyr cylchynol yn dirion iawn o'r achos yn ei wendid, a deuent yma yn ffyddlon, er mai ychydig a allai yr eglwys roddi o gydnabyddiaeth iddynt. Cymerodd Mr J. Howes, Llansantffraid, ofal yr eglwys, yn 1839 ; a chynhaliwyd cyfarfod i'w gydnabod yn weinidog yma, Hydref 10fed a'r 11eg, o'r flwyddyn hono ; ond ni bu yma ond hyd Gorphenaf y flwyddyn ganlynol, pan y rhoddodd yr eglwys hon, a Smyrna, a Bethel, i fyny, as y cymerodd at Lansilin, a Phenygroes, gyda Llansantffraid. Yn nechreu 1840, symudwyd yr achos i ystafell uwchben cegin berthynol i'r Red Lion, gerllaw y Town Hall ; a byddai trwst y glanhau yn y gegin odditanodd yn aml yn aflonyddu yr addoliad. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Howes, rhoddodd yr eglwys yma - mewn cysylltiad. a Smyrna a Bethel alwad i Mr Robert Thomas, o Lanrwst, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg gyda Mr Jones, Marton ; ac urddwyd of yn nghapel yr Annibynwyr Saesonaeg, Tachwedd 26ain, 1840. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gofyniadau gan Mr H. Davies, Llangollen. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Griffiths, Ruabon. Pregethodd Mr L. Everett, Llanrwst, i'r gweinidog ; a Mr D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Morris, Main ; A. Francis, Drefnewydd ; T. Griffiths, Rhydlydan; D. Jones, Llansantffraid ; J. Thomas, myfyriwr, Marton, (Liverpool yn awr), ac eraill. Nid oedd nifer yr aelodau pan ddechreuodd Mr Thomas ei weinidogaeth ond 24 ; a thri swllt a chwe' cheiniog yr wythnos oedd y cwbl a allasai yr eglwys addaw iddo. Cynyddodd yr achos yn gyflym, rhoddwyd i'r gweinidog yn fuan bum' swllt yr wythnos ; ac erbyn Rhagfyr, 1842, yr oeddynt mewn sefyllfa i allu rhoddi deg swllt yr wythnos; a threfnwyd i gaeldwy bregeth yn y dref bob yn ail Sabboth. Pobl ieuaingc oedd yr aelodau agos oll, ac oblegid hyny nid oedd yma swyddogion wedi eu dewis yn rheolaidd ar ddechreuad gweinidogaeth Mr Thomas; ond yn 1841, dewiswyd John Askin, ac Edward Roberts, yn ddiaconiaid, ac y maent yn aros hyd yr awr hon ; a'u plant yn dilyn llwybrau eu tadau. Erbyn 1842, yr oedd yr hen ystafell yn orlawn, a meddyliwyd o ddifrif am gael capel newydd. Gan nad oedd yr aelodau oll ond gweiniaid -daeth Mr D. Jones, Llansantffraid, yn mlaen i'w cynorthwyo. Prynwyd, y tir gan Mr James Vaughan, yr hwn hefyd a adeiladodd y capel. Costiodd y tir a'r capel £400. Dyddiad y weithred ydyw Awst 15fed, 1842, a'r ymddiriedolwyr oeddynt Robert Thomas, Croesoswallt; David Price, Rhos ; James Davies, Llanfair; John Jones, Penllys ; Samuel Roberts, Llanbrynmair ; Aaron Francis, Drefnewydd - gweinidogion yr efengyl; ac Allen Emerson Evans, Charles Jones, David Jones, John Byner, a John Jones. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo y Sabboth cyn y Pasg, 1843, gan Mr D. Jones, Llansantffraid, oddiar y geiriau " Na wnewch dy fy nhad I yn dy marchnad ;" a'r Sabboth canlynol. (Pasg 1843), cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad, pan y pregethodd Meistri W. Rees, Dinbych ; S. Roberts, Llanbrynmair  D. Price, Rhos ; D, Morgan, Llanfyllin ; H. James, Llansantffraid ; E. Thomas, Llanrwst; D. Jones, Llansantffraid; ac R. Davies, Llansilin. Bu ffyddlondeb mawr yn mysg y cyfeillion i gyfranu a chasglu at y capel newydd, fel erbyn diwedd yr agoriad, yr oedd £74 wedi dyfod i law; yr

343

hyn - yn nghyd a chymunrodd o £44 oddiwrth Mr Davies, tad-yn-nghyfraith Mr J. Vaughan, Builder - a dynodd y ddyled i lawr dan £300. Cafwyd cynorthwy o Lanbrynmair, Llansantffraid, a Llansilin, a daeth Mr S. Roberts i'r dref, a chasglodd £20 yn mysg y Saeson. Rhifedi yr eglwys ar ei mynediad i'r capel newydd oedd 55 o bobl ieuaingc, symudol gan mwyaf ; ond aeth yr achos rhagddo yn siriol am y tair blynedd cyntaf yn y capel newydd. Yn haf 1846, cymerodd camddealltwriaeth le rhwng rhyw bersonau yn yr eglwys ; ac o ddiffyg doethineb a phwyll, parodd hyny gryn niwed i'r achos. Ciliodd amryw o'r aelodau, a lleihaodd y gwrandawyr, fel mai llawn gwaith i'r eglwys oedd cynal yr achos a thalu llog y ddyled. Yn y flwyddyn 1850, gwnaed ymdrech i dalu cyfran o'r ddyled, ac aeth Mr Thomas trwy Sir Drefaldwyn i gasglu. Dyma y flwyddyn y daeth Mr Joseph Evans i'r dref, a bu ei ddyfodiad yn gynorthwy mawr i'r achos ; ac o hyny allan ni adawyd llonydd i'r ddyled nes ei llwyr ddileu. Yn nechreu 1857, codwyd cyflog y gweinidog i 15s. yn yr wythnos, a chael dwy bregeth bob Sabboth. Bu Mr Thomas yma hyd Mai, 1858, pryd y symudodd i Rhyl, ar ol llafurio yma dan wahanol amgylchiadau am 18 mlynedd. Am ychydig fisoedd, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr ; ac adfywiwyd yr achos yn fawr. Rhoddwyd galwad i Mr Lewis Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog, a dechreuodd ar ei waith y Sabboth cyntaf yn Medi, 1858 ; ac urddwyd of ar y 7fed o'r *Tachwedd canlynol. Ar yr achlysur' pregethwyd ar natur eglwys gan Mr W. Jenkins, Brynmawr. Holwyd y gofyniadau gan Mr S. Edwards, Machynlleth. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Guion, Aberhonddu. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr R. W. Roberts, Clarach ; a siars i'r eglwys gan Mr J. Saunders, Aberystwyth. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Thomas, Ellesmere, a W. Roberts, Penybontfawr. Rhif yr aelodau ar ddyfodiad Mr Jones oedd 65, ac addewid iddo £52 y flwyddyn o gyflog, i'w godi i £60 pan y telid y ddyled. Yn nechreu 1860, torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys pan yr oedd Meistri D. M. Jenkins, (Penmaenmawr) ; R. Lumley, (Bwlchyffridd) ; J. Stephens, (Taibach) - myfyrwyr yn athrofa y Bala - yn galw heibio ar eu ffordd i gynal cyfarfod yn Bethel. Cymerodd rhywbeth dyeithr iawn le, ac enynodd y tan trwy yr eglwys, fel yr ychwanegwyd 24 at yr aelodau mewn ychydig fisoedd ; ac y mac effeithiau yr ymweliad hwnw yn parhau ar yr eglwys hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn hono, aeth yr eglwys o ddifrif yn nghylch talu y £140 gweddill o'r ddyled, yr hyn a gwblhawvd trwy gydymroddiad pawb. Rhoddodd Mr Joseph Evans £20/12/0 ; a Mr L. Jones, y gweinidog, £12/9/0 ; a Mr David Evans, Machynlleth, yr hwn oedd yn aros yma ar y pryd, a roddodd y £5 olaf i lwyr ddileu dyled yr hen gapel. Erbyn dechreu 1861, yr oedd rhif yr aelodau yn 108 ; ac nid cynt nag y talwyd dyled yr hen gapel y meddyliwyd am godi capel newydd. Yr oedd rhai yn ofnus, ond dywedodd Mr Joseph Evans os cytunai yr eglwys i gad capel newydd teilwng, y deuai of a £100 ato ; a gwnaeth M. Jones, y gweinidog, addewid am yr un faint, a rhoddodd hyny ar unwaith galon yn y bobl i weithio. Tynwyd cynllun o hono gan Mr Thomas, Glandwr. Cymerwyd ef i'w adeiladu gan Mr J. Rees, Temperance, gynt ; a chostiodd y capel a'r festri, a phob peth o'i gylch, £1015/13/7. Mae ynddo eisteddleoedd i 450. Dechreuwyd arno yn haf 1863. Ar ei sylfaeniad, traddodwyd araeth ragorol

344  

ar ragoriaeth y drefn gynnulleidfaol, gan Mr T. Minshull, diacon hynaf y capel Saesonaeg. Tra y bu y capel ar lawr, addolid yn yr Ysgoldy Brytanaidd ; ond gan y byddai ar y Saeson eisiau hono bob prydnhawn Sabboth, cedwid yr ysgol yn ystorfa flawd Mr Joseph Evans, yr hon bob nos Sadwrn a glirid allan i'r perwyl. Agorwyd y capel newydd Mehefin 14eg, 1863, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Ambrose, Porthmadog ; S. Edwards, Machynlleth ; T. Thomas, Glandwr ; a J. Jones, Smethcote. Yr un haf ag yr agorwyd y capel, ymadawodd Mr Lewis Jones, oblegid sefyllfa ei iechyd yn benaf, wedi bod yma am bum' mlynedd ; ac y mae yn awr yn Abergwaun, Sir Benfro. Daeth Mr Evans yn mlaen a'i gan' punt, ac er i Mr Jones ymadael, daeth yntau a £60, a thrwy gydymdrech yr eglwys, yr oedd y ddyled erbyn dechreu 1864 wedi ei thynu i lawr i £670, ac er hyny nid yw yr eglwys wedi gorphwyso, fel erbyn nos Sabboth, Chwefror 12ed, 1871, yr oedd y ddyled wedi ei dwyn i lawr i £140, a phenderfynwyd dileu y cwbl erbyn dechreu 1872. Erbyn y Sabboth cymundeb cyntaf yn y capel newydd, gwnaeth Mrs Joseph Evans anrheg o lestri cymundeb hardd at wasanaeth yr eglwys. Yn haf 1868, rhoddwyd galwad i Mr Joseph Farr, yr hwn oedd newydd ddychwelyd i Awstralia, lle y buasai yn weinidog am flynyddau ; a dechreuodd ei weindogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Medi y flwyddyn hono. Bu yma yn barchus iawn am 18 mis ; ac fel arwydd o barch yr eglwys iddo, anrhegwyd ef ar ei ymadawiad a swm o arian, yn nghyda Bibl hardd, ac enwau y pedwar diacon ynddo. Ymadawod i Mount Stuart, Caerdydd ddechreu Mawrth, 1870 ; ac er hyny y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys yn awr yn 130 o nifer, a golwg llewyrchus arni - cynnulleidfa dda - ac ysgol Sabbothol nodedig o lafurus. Mae yr eglwys yma teimlo ei bod yn ddyledus i luaws o weinidogion am eu caredigrwydd iddi o'r dechreuad ; ond nid yn fwy i neb nag i Mr S. Roberts, Llanbrynmair, a'r diweddar Mr D. Jones, Llansantffraid, am y cynorthwy effeithiol a roddasant iddi yn ei gwendid dechreuol. Coffeir yn barchus am enw Edward Williams, un o'r aelodau a fu farw yn 1847; ac er nad ydoedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau yr oedd yn uchel ei gyrhaeddiadau, ac yn meddu dawn gweddi nodedig. Gadawodd ar ei ol deulu lluosog, ond gofalodd "tad yr amddifad, a barnwr y gweddwon " am danynt oll.

Codwyd yma ddau bregethwr.

  • David Williams. Genedigol ydoedd o Lanfihangel. Bu yn egwyddorwas yn Llanfyllin. Daeth i'r dref hon yn 1858, a dechreuodd bregethu yn adeg y diwygiad, yn 1860. Bwriadodd unwaith fyned i'r Athrofa, ond oherwydd rhyw resymau rhoddodd y bwriad hwnw i fyny, ac ail ymaflodd yn eialwedigaeth. Llwyddodd yn fawr yn y byd, heb golli ei gymeriad fel crefyddwr ; ennillodd ei ddidwylledd a'i foneddigeiddrwydd iddo air da gan bawb. Byddai yn pregethu agos bob Sabboth, ond fynychaf gyda'r Saeson. Yn 1868 ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac wedi hir gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, bu farw Chwefror 2il, 1870, yn 30 oed, a chladdwyd ef yn y Cemetery lle yr oedd ei unig blentyn wedi ei gladdu ychydig fisoedd cyn hyny; a'r lle yn mhen ychydig fisoedd y dilynwyd ef gan ei anwyl briod, yn 26 oed, fel y mae teulu y Waterloo House yn cyd-wywo !
  • Richard  O. Evans. Dechreuodd bregethu yn 1861. Bu yn Athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Glynhafren, ac y mae yn awr yn Sammah.

345

Bu John Edwards, am yr hwn y crybwyllasom, yn aelod yma am ychydig yn nechreuad yr achos. John Newman Richards, hefyd fu yma am dymor yn aelod, ond ymfudodd i'r America, ac yn Cincinnati y dechreuodi bregethu yn 1859. Bu yn Athrofa Marrietta, Ohio, ond dychwelodd i'w wlad, ac wedi treulio ei amser yn Athrofa Aberhonddu, urddwyd ef yn weinidog i'r Saeson yn Aberteifi.

Yr ydym yn ddyledus am hanes manwl o'r eglwys yn Nghroesoswallt i Mr Edward Roberts, un o'r diaconiaid, yr hwn sydd wedi bod yma o gychwyniad yr achos ; ac yr ydym wedi rhoddi i mewn fanylion cyflawnach nag a fyddai bosibl i ni, o ddiffyg lle, roddi i'r eglwysi yn gyffredinol, er dangos mor werthfawr yw cofnodion cyfiawn o hanes yr eglwysi.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2010)

Although geographically in Shropshire, this Welsh cause has always been associated with Montgomeryshire, hence its inclusion here. In 1836 a few members left the English cause to start a Welsh one, meeting in a room neat the White Lion in Willow Street. Among them was a supporting preacher named John Edwards and it was him that preached the first sermon  on August 7th, 1836, and on the 17th of September 1837 a church was formed there by Mr John Morris, Main, consisting of 16 members. Of the original members these 3 remain - Thomas Griffiths, Evan Davies and Mrs Askin. Some thought that John Edwards would have liked to be ordained here, but saw little hope and went to the English Church. The neighbouring preachers were very faithful despite little in the way of reward. Mr J Howes, Llansanffraid took on the care in 1839 but gave it up along with Smyrna and Bethel 7 months later. Early in 1840 the cause was moved to a room above the kitchen of the Red Lion, near the Town Hall, the noise from below frequently disturbed their worship. Soon after the departure of Mr Howes this church, along with Smyrna and Bethel, called Mr Robert Thomas, Llanrwst, who had been under instruction with Mr Jones, Marton. He was ordained in the English Independent Chapel on November 26th, 1840, the following officiated -  Mr D. Morgan, Llanfyllin, Mr H. Davies, Llangollen, Mr D. Griffiths, Ruabon, Mr L. Everett, Llanrwst, Mr D. Price, Penybontfawr. Also participating were Messrs J. Morris, Main, A. Francis, Drefnewydd, T. Griffiths, Rhydlydan, D. Jones, Llansantffraid, J. Thomas, student, Marton, (Liverpool now), and others. There were only 24 members when he began his ministry and his pay 3/6 per week, the church grew rapidly and this increased to 5/= a week and by December 1942 he was awarded 10/= per week. The membership was young and no officers had been chosen when Mr Thomas was appointed, in 1841 John Askin and Edward Roberts were appointed as deacons. 1842 saw the decision to build a chapel as the room was too small, Mr D Jones, Llansanffraid, assisted them. Land was acquired from Mr James Vaughan who also built the chapel at a cost of £400. The date on the deed is August 15th, 1842 and the trustees named were  Robert Thomas, Oswestry, David Price, Rhos, James Davies, Llanfair, John Jones, Penllys, Samuel Roberts, Llanbrynmair, Aaron Francis, Drefnewydd - all ministers and Allen Emerson Evans, Charles Jones, David Jones, John Byner, and John Jones. The first sermon was given by Mr D Jones, Llansanffraid, on the Sunday before Easter 1843 and the opening was held on the Easter Sunday when the following took part - Messrs W. Rees, Denbigh, S. Roberts, Llanbrynmair,  D. Price, Rhos, D, Morgan, Llanfyllin, H. James, Llansantffraid, E. Thomas, Llanrwst, D. Jones, Llansantffraid and R. Davies, Llansilin. the members and friends worked hard to lessen the debt to the sum of £74 and with gift of £44 from Mr Davies, father in law of the builder, reducing it to £300. they were helped by Llanbrynmair, Llansanffraid and Llansilin and Mr S Roberts collected £20 form the English in town. There 55 young members when they moved into the Chapel, mostly migrants, but the first 3 years were good. In 1846 there was a disagreement which caused many to leave and reduced the number of listeners, they struggled to pay the interest on the debt. In 1850 they decided to try and clear the debt, Mr Thomas went through Montgomeryshire collecting. This was also when Mr Joseph Evans moved here, he was to be a great support. They kept working on the debt until it was totally cleared and the minister's pay raised to 15/= a week with 2 sermons on a Sunday. Mr Thomas left here in May 1858 for Rhyl, the church was dependent on the support of neighbouring ministers and appears to have benefited from this. A call was given to Mr Lewis Jones, student at Brecon, he began his work September 1858 and was ordained November 7th when the following officiated - Mr W. Jenkins, Brynmawr, Mr S. Edwards, Machynlleth, ,Mr C. Guion, Brecon, Mr R. W. Roberts, Clarach, Mr J. Saunders, Aberystwyth. Sermons were given by Messrs J. Thomas, Ellesmere, and W. Roberts, Penybontfawr.There were 65 members when Mr Jones came here, the promise of £52 per year rising to £60 when the debt was paid. Early1860 a strong revival took hold while Messrs D. M. Jenkins, (Penmaenmawr) ; R. Lumley, (Bwlchyffridd) ; J. Stephens, (Taibach) - students at Bala - were passing through to hold a service at Bethel. There were 24 new memberes added in the next few months and they set their minds to clearing the remaining £140 debt, this was done with cooperation and the gifts of  £20/12/0 from Mr Joseph Evans, £12/9/0 from Mr Jones, the Minister , and Mr David Evans, Machynlleth, who was visiting at the time contributed the last £5 to clear the debt. At the beginning of 1861 there were 108 members, and no sooner than the debt on the old chapel was paid than they were thinking of building a new one. Some were cautious but Mr Joseph Evans stated that if the church agreed to build a new chapel he would donate £100, the minister Mr Jones pledged the same amount, this encouraged them to continue. It was designed by Mr Thomas, Glandwr, built by Mr J Rees, previously Temperance, and the chapel and vestry cost £1017/13/7. There is seating for 450. The foundation was laid in 1863 with an address from Mr T Minshull, elder deacon of the English Chapel. Worship continued in the Brittanic School while building was in progress, Sunday school held in the flour mill owned by Mr Joseph Evans as the English used the school on Sunday afternoons. The chapel was opened on July 14th, 1863, those officiating were Messrs W. Ambrose, Porthmadog, S. Edwards, Machynlleth, T. Thomas, Glandwr and J. Jones, Smethcote. In the same summer Mr Lewis Jones left, mainly for health reasons, after 5 years, now in Fishguard. Mr Evans gave his£100, Mr Jones £60, despite leaving, and with the efforts of the congregation by 1864 the remaining debt was £670. February 12th, 1871 the debt was £140 and it was decided to clear it all by the start of 1872. Mrs Joseph Evans gifted some handsome communion dishes for the use of the chapel before the first Sunday Communion. In 1868 Mr Farr was called, recently returned from Australia, he began his ministry in September.He stayed 18 months and was given a parting gift of money and a Bibl signed by the 4 Deacons, he began his ministry in Mount Stuart, Cardiff in March, 1870. There is no current minister. Membership is 130 with a good congregation and a strong Sunday School. The church owes a debt to many local ministers and members.

Two were raised to preach here -

  • DAVID WILLIAMS - Born Llanfihangel, apprenticed Llanfyllin - came to Oswestry in 1858, began preaching around1860 - intended going to College but went back to his previous calling - very successful - continued to preach every Sunday mostly with the English - Died of Tuberculosis on February 2nd, 1870, aged 30.
  • RICHARD O EVANS -  Began preaching 1861 - educated Bala - Ordained Glynhafren, now in Sammah.

John Edwards, previously mentiond, and John Newman Richards were also members here for short periods. We are grateful to Mr Edward Roberts, one of the Deacons, for the detailed history of this Chapel.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

DOMGAY

Translation available on /big/wal/MGY/Llandysilio/Hanes.html

"Mae y lle hwn ar y goror, yn mhlwyf Llandisilio, ac er fod yr achos yn Saesonaeg, ac wedi ymuno a chyfundeb sir Amwythig, etto y mae bob amser wedi ei gyfrif gyda sir Drefaldwyn. Daliwyd Mr. G. Ryan, Tra- llwm yma mewn ystorm, fel nas gallasai fyned yn mhellach, a throdd i'r gwesty a elwir y Golden Lion Hotel, yn mhentref Llandisilio. Wedi deall mai gweinidog Ymneillduol ydoedd, amlygodd Mrs. Edwards, gwraig y ty, ei gofid iddo, am nad oedd. Ymneillduwyr yn y lle ; ac y teimlai hyny yn llawer mwy oblegid fod yr offeiriad yn mhell o fod yn efengylaidd ei athrawiaeth, nac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Ymgynghorodd Mr. Ryan a Mr. J. Whitridge, Croesoswallt, ac arweiniodd hyny hwy i'r ardal i bregethu tua'r flwyddyn 1808. Cynhelid y gwasanaeth i ddechreu mewn cotty o eiddo Mr. J. Grifflths, ond oblegid ymosodiad erlidwyr, cynhelid hwy yn nhy Mr. Griffiths ; ac oblegid ei fod yn uwch ei sefyllfa na'r rhan fwyaf ni feiddiant aflonyddu arnynt yno. Corpholwyd yma eglwys yn fuan wedi dechreu pregethu ; ond ni chodwyd y capel hyd 1823, ar dir a roddwyd gan Mr. Griffiths, Domgay, ac agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol. Mr. Morris, am yr hwn y crybwyllasom yn hanes y Sarnau, yma am dymor byr ; ond nid oes genym ddim o'i hanes, ond ymddengys iddo farw yn fuan. Pan y cymerodd Mr. Daniel Davies ofal eglwys y Sarnau, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Woolerton, yn 1821. Ar ei ol ef daeth Mr. James Peregrine yma o Bishop Castle, ond yr oedd wedi bod cyn hyny yn Llanfaches, yn sir Fynwy, fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Ni bu yma ond am bedair blynedd ; er fod eglwys Domgay yn unol am dano, ond nid oedd y Sarnau felly; ac ymfadodd America tua'r flwyddyn 1825. Yn fuan wedi sefydliad Mr. John Rees yn y Sarnau yn 1825, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a bu yma nes yr ymadawodd i Cholfort yn 1833. Yn 1836, cymerodd Mr. J. Griffiths, Pant, ofal yr eglwys, a bu yma hyd 1850. Ar ol Mr. Griffiths daeth Mr. William Cynon Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu yma, ac urddwyd ef Gorphenaf 13eg, 1858; a bu yma hyd 1861, pryd y symudodd i Prees. Yn 1864, urddwyd Mr. David Evans, myfyriwr o Athrofa, Aberhonddu, yma ac ymadawodd. yn 1866. Daeth Mr. B. J. Harker, y gweinidog persenol, yma yn 1869. Dygwyd ef i fyny yn Nghyfundeb y Wesleyaid Cymanfaol.

Codwyd yma ddau bregethwr.

  • Richard Roberts, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1865, a
  • Thomas Edwards, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1870.

Mae ein cofnodion o'r eglwys hon yn anmherffaith iawn, ond costiodd i ni lawer o drafferth i'w cael fel y maent. Rhoddodd Mr. T. Jenkins, Sarnau, i ni bob help yn ei allu."

 

CONTINUED

 

(Gareth Hicks - 29 Sept 2010)