Hide
Cynnwrf Canrif : Agweddau Ar Ddiwylliant Gwern.
hide
Hide
By Huw Walters.
Published by Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe, 2004
Here is a Review of the book.
"Y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd dan sylw yma, canrif y bu'n ffasiynol meddwl amdani fel un lwydaidd a diflas, rhyw ddydd Sul diddiwedd o ganrif, a phob sychedig un yn yfed dwr, dwr, dwr. Nid felly. Meddai'r awdur ar ddiwedd ei bennod ar Bontypridd a'r Cylch, sy'n gyforiog o gymeriadau a digwyddiadau llachar, 'Y mae'r cyfan yn brawf diymwad nad oedd Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn wlad mor ddi-liw ac anniddorol ag a dybir yn gyffredin.' Amen i hynny, ac y mae gweddill y gyfrol yn brawf o'r un peth.
Casgliad o erthyglau wedi eu cywain ynghyd o wahanol gyhoeddiadau sydd yma, a chymwynas werthfawr â phawb nad yw'r rheini'n hygyrch iddynt oedd eu gosod fel hyn rhwng dau glawr. Amhosibl mewn adolygiad byr fyddai gwneud cyfiawnder â'r cynnwys. O Sherlyn Benchwiban, anterliwt cynnar (fe deflir ambell gip yn ôl dros ysgwydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg weithiau) hyd at y bennod orlawn o ddeunydd newydd am Amanwy a'i ryddiaith gaboledig, down ar draws llu o gymeriadau, nad yw eu henwau efallai, lawer ohonynt, yn gyfarwydd, ond a fyddai'n 'fawr ac ardderchog' yn ein chwedl, ys dywed Waldo, pe baem yn genedl. Dyna'r hen weinidog garw a phenstiff, Phylip Griffiths yr Allt-wen, a aeth i gwrdd â'r gelyn medd-dod ar dudalennau'r Diwygiwr, gan lwyddo i 'ddryllio caerau Bacchus' a sobri ardal gyfan. William Morris wedyn, arloeswr anghofiedig ym myd addysg yn ystod y ganrif, un a fu'n cynorthwyo i gasglu tystiolaeth ar gyfer y Llyfrau Gleision drwgenwog, ac un a gafodd ei alw'n 'llwfryn difoesau' am ei drafferth gan David Rees, golygydd Y Diwygiwr. Pennod gyfoethog yw ' Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr', lle ceir hynt a helynt un o brif newyddiaduron Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a detholiad o ddyfyniadau swmpus o rai o'i erthyglau, heb sôn am ei lythyrau difyr, yn enwedig y rhai gan ymfudwyr i America a mannau eraill.
Coron y gyfrol i mi yw'r bennod y cyfeiriwyd ati eisoes am Bontypridd a'r Cylch, gwrthwenwyn perffaith i unrhyw un sy'n dal i goleddu syniadau henffasiwn am y ganrif ryfeddol hon. Darllener am Dr William Price, Myfyr Morganwg a Morien, dynion galluog bob un, ond wedi mopio'n llwyr ar dderwyddiaeth, ac yn cyflawni pob math o gampau lliwgar yn ei henw. A thri yn unig o'r ogoneddus dyrfa a fu'n troi o gwmpas y Maen Chwyf ar Gomin Pontypridd yw'r rhain!
Y mae troi tudalennau'r gyfrol hon fel mynd ar daith gyfareddol o dan arweiniad tywysydd sy'n gwbl gyfarwydd â'i diriogaeth. Mynnwch ei cherdded! "
Tegwyn Jones
(12 Nov 2004 - Gareth Hicks)