Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008)


Aberdaron

(Vol 3, p 187)

"Mae y lle hwn ar derfyn eithaf sir Gaernarfon, ac ar lawer cyfrif y mae yn lle dyddorol iawn. Byddai Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn dyfod yma bob tro y deuai i sir Gaernarfon, ac elai drosodd i Ynys Enlli. Adroddir am ymweliad Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, a'r lle, a'r anmharch a ddyoddefodd oblegid cynyg pregethu i'r trigolion. Ond ni wnaed un cynyg i gychwyn achos rheolaidd yma hyd nes yr urddwyd Mr. J. Jones yn Nebo, ac y cymerodd ef yma i fyw mewn un rhan o hono, a phregethu yn y rhan arall. Yn y flwyddyn 1829, ar ol sefydliad Mr. W. Morris yma, y cyfodwyd capel yn y lle, yr hwn a alwyd Cephas. Yr oedd yn gapel bychan tlws pan adeiladwyd ef, gwerth 160p., ond bu ei ddyled yn faith trwm yn hir. Gwan iawn yw yr achos wedi bod yma o'r dechreuad, ond y mae yma rai ffyddloniaid wedi bod yn " sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos." Mae y lle o'r dechreuad o dan yr un weinidogaeth a Nebo a Hebron, ac felly y mae yn parhau.*

* Yr ydym yn ddyledus am lawer o ddefnyddiau hanes eglwysi Lleyn i Meistri J. Morgan, Penlan, sir Aberteifi ; H. T. Parry, a D. Jones, Abersoch ; R. Rowlands, Llanon, (Ceidio, gynt) ; W. Williams, Nefyn ; J. H. Williams, Llaniestyn, ac eraill ond gwel ein brodyr, ein bod, drwy ymchwiliad i hen gofnodion, wedi dyfod o hyd lawer o ddyddiadau nad anfonasant hwy i ni, ac wedi cywiro rhai dyddiadau a anfonwyd i ni. Buasai yn dda genym, er hyny, fod ein dyddiadau i bob path yn llawer cyflawnach. Mae gwerth hanes yn dibynu i fesur mawr ar ei fod yn gywir a chyflawn yn ei ddyddiadau."

Translation by Maureen Saycell (Jan 2008)

 "This place is at the furthest reach of Caernarfonshire, and according to many reports it is a very interesting place. Mr Edmund Jones, Pontypridd used to come here every time he came to Caernarfonshire, and would cross to Bardsey Island. There is a tale about a visit by Mr R. Tibbot, Llanbrynmair to this place and the lack of respect he was shown when he offered to give a sermon to the inhabitants. There was no attempt to establish a regular cause here until Mr J. Jones was ordained at Nebo and he came to live in one part and preach in the other. In 1829, after the induction of Mr W. Morris here, a chapel was built here, it was named Cephas. It was a pretty little chapel when it was built, worth £160, but the debt was long and heavy. The cause has been weak here from the start, but there are some of the faithful here "who have remained in the house of the Lord in the dark". The place has been under the same ministry as Nebo and Hebron from the beginning and still continues. "*

* We are indebted for a lot of the historical material on the churches of Lleyn to Messrs J. Morgan, Penlan, Cardiganshire ; H. T. Parry, a D. Jones, Abersoch ; R. Rowlands, Llanon, (previously Ceidio) ; W. Williams, Nefyn ; J. H. Williams, Llaniestyn, and others but our brothers will see that by researching old records we have found many dates that they had not sent us, and corrected some of the dates they had given. Despite that we wish that the dates we do have were more complete. The value of history depends largely on the accuracy and entirety of the dates.